Gramadegwyr Cerdd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:44, 8 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Y llyfr cyntaf i’w gyhoeddi yn Gymraeg ar elfennau cerddoriaeth oedd Cyfaill mewn Llogell gan John Williams (Siôn Singer), gweinidog gyda’r Bedyddwyr, cerddor ac addysgwr. Ymddangosodd yn 1797, wedi ei argraffu yng Nghaerfyrddin gan John Daniel, ond er bod y llyfr wedi ei argraffu, ysgrifennwyd y nodau cerdd yn yr enghreifftiau â llaw. Hwn oedd y cyntaf o nifer o lawlyfrau a fyddai’n gosod allan egwyddorion sylfaenol yn seiliedig ar y ‘gamut’ yn ôl arfer y cyfnod. Fe’i hadargraffwyd yn rhannol yn 1810 mewn cyfrol o’r enw Difyrrwch i’r Pererinion, a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn â gramadeg arall nad oes copi ohono wedi goroesi, sef The Rudiments of Thorough Bass, a argraffwyd ym Mhenfro. Ymddangosodd ‘Agoriad byr ar y gamut’, eto gan John Williams, yn rhan o Pigion o Hymnau gan John James yn 1811, Egwyddor-Ddysg Ragegorawl gan Owen Williams o Fôn yn 1817, Egwyddorion neu Don-raddau gan David Jones, Treffynnon, yn 1821 a Grisiau Cerdd Arwest gan John Ryland Harris (Ieuan Ddu o Lan Tawy) yn 1823.

Roedd nifer o gasgliadau tonau hefyd yn cynnwys cyflwyniad ar egwyddorion sylfaenol. Gyda’r diddordeb cynyddol yn elfennau cerddoriaeth a gododd yn sgil gweithgarwch y cymdeithasau cerddorol, dechreuodd gramadegau amlhau. Cyhoeddwyd Y Caniedydd Crefyddol gan William Owen yn 1828 ac Egwyddorion Peroriaeth gan Hugh Evans yn 1837. Y cam mwyaf arwyddocaol fodd bynnag oedd cyhoeddi Gramadeg Cerddoriaeth gan John Mills (Ieuan Glan Alarch) yn 1838. Lle’r oedd gramadegau eraill wedi ymfodloni ar amlinellu’r egwyddorion sylfaenol, ceisiodd Mills drafod y rhain yn fanwl ac ychwanegu adran sylweddol ar natur gwahanol fathau o gerddoriaeth. Ychydig wedi hynny, cyhoeddodd Richard Mills Yr Arweinydd Cerddorol mewn tair rhan rhwng 1842 ac 1845, gan gynnwys mwy o enghreifftiau cerddorol.

Yn 1848 ymddangosodd Gramadeg Cerddorol gan David Roberts (Alawydd) a oedd i’w ailgyhoeddi mewn argraffiad newydd yn 1872 a’i deitl wedi ei newid i Gramadeg Cerddoriaeth. Cafwyd Geirlyfr Cerddorol gan Thomas Williams (Hafrenydd) yn 1862. Erbyn diwedd y 19g. roedd llyfrau mwy uchelgeisiol yn cael eu cyhoeddi, megis Llawlyfr ar Gynghanedd gan D. Emlyn Evans yn 1899. Yn yr 20g. roedd gofynion arholiadau ac addysg ffurfiol yn cymell safon uwch i ramadegau nag a geid yn llyfrau’r 19g. a oedd wedi eu hanelu’n bennaf at addysg breifat a phersonol. Dengys A Music Course for Students (1937) gan D. E. Parry Williams, a gyhoeddwyd yn Gymraeg dan y teitl Elfennau Cerddoriaeth (1938), benllanw datblygiad dros gyfnod o ganrif a mwy.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.