Grand Slam

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:43, 18 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Mae hi’n 1977 a thîm rygbi Cymru ar drothwy ennill y gamp lawn am y trydydd tro mewn llai na degawd. Teithia criw o gefnogwyr o gymoedd y de i Baris er mwyn gwylio’r tîm yn eu gêm dyngedfennol yn erbyn y Ffrancwyr yn Parc des Prince yn llawn gobeithion am fuddugoliaeth gofiadwy.

Ynghyd â theithio i wylio’r rygbi mae’r prif gymeriadau ar eu taith bersonol eu hunain i wireddu uchelgeisiau a breuddwydion personol. Mae Glyn ar drywydd cyflawni’r ‘grand slam’ carwriaethol trwy sgorio a Ffrances a Caradog Lloyd-Evans ei dad ar daith i ddod o hyd i’r ferch brydferth a fu’n caru â hi ar ddiwedd y Rhyfel. Wedi cyrraedd Paris â’r criw ar drywydd ‘little butterfly’ Mr Lloyd-Evans, gan ei darganfod mewn clwb stripio. Ond nid y ferch ifanc hardd a gofia Caradog yw hi bellach, ond Madame ganol oed y clwb. Wedi ei siomi â Mr Lloyd-Evans ati i foddi ei ofidiau mewn potel o siampên yn ei chwmni.

Llwydda Glyn i swyno Odette, merch Madame, ac mae’r ddau yn dianc i’w llofft wrth i’r Cymry a’r Ffrancwyr ddechrau ymladd yn y clwb, wedi i Mog efelychu’r strip wraig a diosg ei ddillad, er mawr fwynhad i Maldwyn, cyn cael ei arestio mewn dim ond ei fest, ei focsers a’i sanne.

Ar fore’r gêm ac wedi cythrwfl y noson flaenorol, cyrhaedda’r criw Parc des Prince, dan arweinyddiaeth Maldwyn, ond does dim golwg o Glyn, Mr Lloyd-Evans na Mog. Metha Glyn y gêm wedi ei noson fawr â Odette gan ei gwylio ar y teledu yn ei hystafell. Metha Mr Lloyd-Evans y gêm wedi yfed gormod y noson flaenorol, gan roi braw i Madame, Odette a Glyn pan na ellid ei ddeffro. Gwylia Mog yr hanner cyntaf yn y ddalfa gyda’r Gendarmes, cyn ei ryddhau, a rhedeg ar draws Paris er mwyn cyrraedd cyn diwedd yr ail hanner.

 mawr siomedigaeth, collwyd y gêm a’r gamp lawn, ond â’r gêm i’w chwarae gartref ym Mharc yr Arfau y flwyddyn ganlynol ac wedi penwythnos bythgofiadwy, nid oes rhaid digalonni.


Sylwebaeth Arbenigol

John Hefin (gol.), Grand Slam - Behind the Scenes of the Classic Film (Talybont: 2007)

Peter Hughes Jackimiak, Coll Gwynfa, Adferiad Gwynfa' - Grand Slam, Gwrywdod ac Adennill y Gymru a Gollwyd' yn G.Ffrancon a J.Thomas (goln), Cyfrwng 3 - Ienenctid (Caerdydd, 2006), tt. 91 - 106.

‘Get an Eiffel of this, Mog!’, Wales on Sunday, 26 Medi 1999.


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Grand Slam

Blwyddyn: 1978

Hyd y Ffilm: 60 munud

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 17 Maw 1978

Cyfarwyddwr: John Hefin

Sgript gan: John Hefin a Gwenlyn Parry

Stori gan: Gwenlyn Parry (Cyfieithiad o'r Gymraeg Gwynne D. Evans)

Cynhyrchydd: John Hefin

Cwmnïau Cynhyrchu: BBC Wales

Genre: Comedi, Cyfeillion (Buddy)


Cast a Chriw

Prif Gast

  • Hugh Griffith (Caradog Lloyd-Evans)
  • Windsor Davies (Mog Jones)
  • Siôn Probert (Maldwyn Novello-Pughe)
  • Dewi Morris (Glyn Lloyd-Evans)
  • Sharon Morgan (Odette)
  • Elizabeth Morgan (Derbynyddes)
  • Marika Rivera (Madame)
  • Dillwyn Owen (Will Posh)
  • Kim Karlisle (Stripwraig)

Cast Cefnogol

  • Lowri Buckingham - Stiwardes Awyr
  • Malcolm Williams - Gendarmes
  • Mici Plwm - Gendarmes

Ffotograffiaeth

  • Russ Walker

Dylunio

  • Alan Taylor

Sain

  • Mansel Davies

Golygu

  • Chris Lawrence

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Cynorthwyydd Cyntaf – Wynne Jones
  • Cynorthwyydd Cynhyrchu - Beth Price
  • Dyn Camera Cynorthwyol - Ken McKay
  • Cymhathydd Sain– Tony Heasman
  • Dylunio Graffeg - Keith Trodden
  • Cartwns gan Gren (o’r South Wales Echo)
  • Trefnwr yr ymladd – Alan Chuntz
  • Colur – Cissian Rees
  • Gwisgoedd – Coleen O’Brien
  • Prynwr Propiau - Gwenda Griffith


Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm: Untitled Certificate

Fformat Saethu: 16mm - Saethwyd ar gamera Arriflex

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 4:3

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Saesneg

Lleoliadau Saethu: Caerdydd, Paris

Dyfyniadau: "I'll be up that bouvelard like a bat out of hell" - Maldwyn Novello-Pughe; "I've got two buckles and no end" - Maldwyn Novello-Pughe; "I've heard of catepillars turning into butterflies, but never the other way around." - Caradog Lloyd-Evans; "Go the whole hog Mog!" - Maldwyn Novello-Pughe