Grand Slam

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Mae hi’n 1977 a thîm rygbi Cymru ar drothwy ennill y gamp lawn am y trydydd tro mewn llai na degawd. Teithia criw o gefnogwyr o gymoedd y de i Baris er mwyn gwylio’r tîm yn eu gêm dyngedfennol yn erbyn y Ffrancwyr yn Parc des Princes yn llawn gobeithion am fuddugoliaeth gofiadwy.

Ynghyd â theithio i wylio’r rygbi mae’r prif gymeriadau ar eu taith bersonol eu hunain i wireddu uchelgeisiau a breuddwydion personol. Mae Glyn ar drywydd cyflawni’r ‘grand slam’ carwriaethol trwy sgorio a Ffrances a Caradog Lloyd-Evans ei dad ar daith i ddod o hyd i’r ferch brydferth a fu’n caru â hi ar ddiwedd y Rhyfel. Wedi cyrraedd Paris â’r criw ar drywydd ‘little butterfly’ Mr Lloyd-Evans, gan ei darganfod mewn clwb stripio. Ond nid y ferch ifanc hardd a gofia Caradog yw hi bellach, ond Madame ganol oed y clwb. Wedi ei siomi â Mr Lloyd-Evans ati i foddi ei ofidiau mewn potel o siampên yn ei chwmni.

Llwydda Glyn i swyno Odette, merch Madame, ac mae’r ddau yn dianc i’w llofft wrth i’r Cymry a’r Ffrancwyr ddechrau ymladd yn y clwb, wedi i Mog efelychu’r strip wraig a diosg ei ddillad, er mawr fwynhad i Maldwyn, cyn cael ei arestio mewn dim ond ei fest, ei focsers a’i sanne.

Ar fore’r gêm ac wedi cythrwfl y noson flaenorol, cyrhaedda’r criw Parc des Princes, dan arweinyddiaeth Maldwyn, ond does dim golwg o Glyn, Mr Lloyd-Evans na Mog. Metha Glyn y gêm wedi ei noson fawr â Odette gan ei gwylio ar y teledu yn ei hystafell. Metha Mr Lloyd-Evans y gêm wedi yfed gormod y noson flaenorol, gan roi braw i Madame, Odette a Glyn pan na ellid ei ddeffro. Gwylia Mog yr hanner cyntaf yn y ddalfa gyda’r Gendarmes, cyn ei ryddhau, a rhedeg ar draws Paris er mwyn cyrraedd cyn diwedd yr ail hanner.

 mawr siomedigaeth, collwyd y gêm a’r gamp lawn, ond â’r gêm i’w chwarae gartref ym Mharc yr Arfau y flwyddyn ganlynol ac wedi penwythnos bythgofiadwy, nid oes rhaid digalonni.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Grand Slam

Blwyddyn: 1978

Hyd y Ffilm: 60 munud

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 17 Maw 1978

Cyfarwyddwr: John Hefin

Sgript gan: John Hefin a Gwenlyn Parry

Stori gan: Gwenlyn Parry (Cyfieithiad o’r Gymraeg Gwynne D. Evans)

Cynhyrchydd: John Hefin

Cwmnïau Cynhyrchu: BBC Wales

Genre: Comedi, Cyfeillion (Buddy)

Cast a Chriw

Prif Gast

  • Hugh Griffith (Caradog Lloyd-Evans)
  • Windsor Davies (Mog Jones)
  • Siôn Probert (Maldwyn Novello-Pughe)
  • Dewi Morris (Glyn Lloyd-Evans)
  • Sharon Morgan (Odette)
  • Elizabeth Morgan (Derbynyddes)
  • Marika Rivera (Madame)
  • Dillwyn Owen (Will Posh)
  • Kim Karlisle (Stripwraig)

Cast Cefnogol

  • Lowri Buckingham – Stiwardes Awyr
  • Malcolm Williams – Gendarmes
  • Mici Plwm – Gendarmes

Ffotograffiaeth

  • Russ Walker

Dylunio

  • Alan Taylor

Sain

  • Mansel Davies

Golygu

  • Chris Lawrence

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Cynorthwyydd Cyntaf – Wynne Jones
  • Cynorthwyydd Cynhyrchu – Beth Price
  • Dyn Camera Cynorthwyol – Ken McKay
  • Cymhathydd Sain – Tony Heasman
  • Dylunio Graffeg – Keith Trodden
  • Cartŵns gan Gren (o’r South Wales Echo)
  • Trefnwr yr ymladd – Alan Chuntz
  • Colur – Cissian Rees
  • Gwisgoedd – Coleen O’Brien
  • Prynwr Propiau - Gwenda Griffith

Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm: Untitled Certificate

Fformat Saethu: 16mm – Saethwyd ar gamera Arriflex

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 4:3

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Saesneg

Lleoliadau Saethu: Caerdydd, Paris

Dyfyniadau:

“I’ll be up that bouvelard like a bat out of hell” – Maldwyn Novello-Pughe
“I’ve got two buckles and no end” – Maldwyn Novello-Pughe
“I’ve heard of caterpillars turning into butterflies, but never the other way around.” – Caradog Lloyd-Evans
“Go the whole hog Mog!” – Maldwyn Novello-Pughe

Manylion Atodol

  • John Hefin (gol.), Grand Slam – Behind the Scenes of the Classic Film (Talybont: 2007)
  • Peter Hughes Jackimiak, ‘“Coll Gwynfa, Adferiad Gwynfa” – Grand Slam, Gwrywdod ac Adennill y Gymru a Gollwyd’ yn G. Ffrancon a J. Thomas (goln), Cyfrwng 3 – Ieuenctid (Caerdydd, 2006), tt. 91–106.
  • ‘Get an Eiffel of this, Mog!’, Wales on Sunday, 26 Medi 1999.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.