Griffith, Robert (1845–1909)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:47, 8 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Awdur Llyfr Cerdd Dannau a cherddor a ymddiddorodd yn nhraddodiad brodorol Cymru’r 19g. Fe’i ganed yng Nghlog Ddu, Llangernyw, yn fab i amaethwr tlawd ond hynod ddiwylliedig. Gorfodwyd ei deulu i symud o’u cartref i dref Llanrwst, lle clywodd rai o delynorion amlycaf y gogledd a ddeuai yno i berfformio ac i drwsio’u telynau. Y telynorion crwydrol hyn, a fu’n arwyr personol iddo, a’i hysbrydolodd i ymddiddori yng nghrefft canu penillion.

Gweithiodd am gyfnod fel gwas fferm cyn ennill prentisiaeth fel saer coed (yn trwsio troliau a.y.b.) ond yn anad dim arall, datgeinydd cerdd dant ydoedd yn ei amser hamdden. Roedd yn ymchwilydd dyfal a dygn ac ymdrechodd i ddarganfod hanes hen offerynwyr ac offerynnau Cymru. Bu’r awch am wybodaeth yn sbardun iddo symud i Fanceinion yn 1872 er mwyn cael pori yn llyfrgelloedd y ddinas. Yno y gwelodd gasgliadau Edward Jones (Bardd y Brenin) gan gynnwys ei Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784), The Welsh Harper (1839) o waith John Parry (Bardd Alaw) a chyfrol Syr John Hawkins (1719–89), A General History of the science and practice of music (1875), am y tro cyntaf, a’r rhain a’i symbylodd i gywain mwy o ddeunyddiau ar y grefft o ganu’r delyn ac atgofion yr hen delynorion.

Treuliodd gyfnod yn gweithio i Gwmni Rheilffordd Manceinion cyn cael ei ddyrchafu i swydd gyda Chwmni’r Manchester Ship Canal. Ei awydd i ymchwilio i fyd cerddoriaeth yng Nghymru a’i cadwodd ym Manceinion, a hynny er gwaethaf ei hiraeth am ei gynefin a’i ddymuniad i ddychwelyd yno. Bu’n weithgar fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Cymry Manceinion, a roddai gryn bwyslais ar berfformio cerddoriaeth Gymreig fel rhan o’u calendr blynyddol.

Ei gyfraniad pennaf i faes cerddoriaeth Cymru oedd y gyfrol Llyfr Cerdd Dannau (Caernarfon, 1912–13) a gyhoeddwyd gan ei weddw yn dilyn ei farwolaeth. Ceir ynddi adrannau sy’n ymdrin â hanes a datblygiad cerddoriaeth y genedl (gan gynnwys canu eglwysig, canu derwyddol a chanu gyda’r tannau), mesurau cerdd dafod a thant (gwneir ymgais i esbonio’r mesurau a thrafod dylanwad Eisteddfodau Caerfyrddin a Chaerwys), offerynnau cerdd (gan gynnwys y delyn, y crwth, y pibgorn a’r Corn Hirlas) ac adran fywgraffyddol sy’n darlunio prif delynorion, crythorion a datgeiniaid Cymru. Cofnodir rhai ceinciau telyn, gosodiadau canu penillion ac alawon gwerin yn adrannau clo’r casgliad. Beirniadwyd Robert Griffith gan rai o’i gyfoedion am gynnwys a chyfeiriad Llyfr Cerdd Dannau. Er hynny, cyflawnodd gymwynas fawr â’r traddodiad trwy gywain deunyddiau amrywiol ynghyd â chyflwyno darlun cynhwysfawr o gryfderau’r maes i ddarllenwyr ei gyfnod.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (Caernarfon, 1912–13)
  • Thomas Richards, ‘Atgofion Robert Griffith’, Y Llenor, XVI (1936), 17–22
  • ———, ‘Robert Griffith ac eraill’, Allwedd y Tannau, 7 (1948), 9–12



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.