Griffiths, Geraint (g.1949)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Eliffant)

Canwr-gyfansoddwr pop a roc sydd hefyd yn gitarydd yw Geraint Griffiths. Cafodd ei fagu ym Mhont-rhyd-y-fen, lle’r oedd ymhlith y disgyblion cyntaf i fynychu Ysgol Gymraeg Pont-rhyd-y-fen yn yr 1950au. Bu’r Beatles, y Shadows a Bob Dylan yn ddylanwadau cynnar arno. Fe ddaeth yn ffrindiau gyda Hefin Elis a fyddai hefyd, fel yntau, yn dod yn amlwg yn y byd canu cyfoes Cymraeg maes o law fel un o aelodau Edward H Dafis. Roedd y ddau yn bresennol ym mherfformiad y Beatles yng Nghaerdydd ar 12 Rhagfyr 1965.

Bu Griffiths mewn nifer o fandiau roc byrhoedlog, gan gynnwys yr Undecided a’r Dream Time People, yn 1965, cyn ffurfio y Pedair Kaink gyda Hefin Elis ar gyfer dawns Plaid Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberafan yn 1966. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cyfansoddodd ei gân gyntaf yn y Gymraeg, ‘Teyrnged’, fel ymateb i drychineb Aber-fan. Er gwaethaf ei gyswllt cynnar â’r byd pop Cymraeg, daeth yn nyrs wrth ei alwedigaeth gan berfformio cerddoriaeth yn achlysurol.

Ar ôl cyfnod mewn band o’r enw Limbitrol yn 1972, chwaraeodd Griffiths gydag Edward H Dafis ar gyfer un gig yn y Rhyl ym Mai 1974; ffrwyth yr aduniad hwn gyda Hefin Elis oedd gwahoddiad i gyfrannu at y sioe gerdd Nia Ben Aur (1974), ac felly daeth i sylw’r byd pop Cymraeg ehangach. Yn ystod y ddwy flynedd ddilynol, perfformiodd fel gitarydd gyda nifer o fandiau ac artistiaid, gan gynnwys Hergest a Delwyn Siôn, cyn ymuno â’r grŵp blaengar Injaroc tua diwedd 1976. Ymddangosodd y band mewn rhifyn arbennig o’r gyfres gerddoriaeth Twndish yn gynnar yn 1977, a buont yn chwarae tua dwsin o gigiau yn y gwanwyn a’r haf er mwyn hyrwyddo eu halbwm Halen y Ddaear (Sain, 1977); fodd bynnag, roedd y record yn fethiant masnachol, a chwalodd y band ar ôl ymddangosiad olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam ym mis Awst y flwyddyn honno.

Yn 1978 ffurfiodd Geraint Griffiths fand newydd, Eliffant, gydag Euros Lewis, pianydd a chyn-gyfeilydd i Meic Stevens, a’r gitarydd John Davies o’r band Chwys. Gyda’i sain roc canol-y-ffordd Eingl-Americanaidd yn awgrymu dylanwadau megis Free, Fleetwood Mac, Supertramp, a’r Doobie Brothers, aeth Eliffant o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd dilynol. Nhw a enillodd wobr y Prif Grŵp Roc yng Ngwobrau Sgrech yn 1979, gan ryddhau’r albwm M.O.M (Sain, 1979) yr un flwyddyn. Daeth y caneuon ‘Nôl Ar Y Stryd’ ac ‘W Capten’ yn boblogaidd iawn, gyda’r ail yn dangos gallu’r band i gyfansoddi anthemau roc symffonig ar raddfa ehangach na’r gân bop dair munud arferol. Bu cryn ddisgwyl am eu hail albwm, Gwin y Gwan (Sain, 1980), ond yna daeth bwlch yng ngyrfa’r band cyn rhyddhau’r sengl ‘Ti Yw’r Unig Un i Mi’, ar label annibynnol Llef yn 1983.

Roedd Griffiths eisoes wedi dod i sylw’r cyhoedd fel canwr unigol erbyn hyn, ac fe ganodd gân fuddugol Huw Chiswell yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1984, ‘Y Cwm’, ac mewn addasiad cyfoes o Messiah Handel o’r enw Teilwng Yw’r Oen. Yn yr un flwyddyn, rhyddhaodd ei albwm cyntaf fel artist unigol o’r enw Madras (Sain, 1984), ac fe’i dilynwyd gan Rebel (Sain, 1986) ac Ararat (Sain, 1988). Ymddangosodd rhai o gerddorion sesiwn gorau Cymru arnynt, megis Myfyr Isaac (gitâr), Chris Childs (bas), Graham Land (drymiau) a Graham Smart (allweddellau), ac roedd y tri albwm yn arddangos dawn Griffiths fel lleisydd pwerus a’i allu i gyfansoddi caneuon safonol a oedd yn addas ar gyfer rhai o raglenni oriau brig Radio Cymru. Datblygodd yrfa fel actor yn fuan ar ôl sefydlu ei hun fel un o gantorion roc gorau ei genhedlaeth, a sefydlodd label annibynnol, Diwedd y Gwt, yn 1992. Mae wedi rhyddhau sawl albwm o waith newydd arno.

Craig Owen Jones a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

gyda Eliffant:

  • M.O.M (Sain 1130M, 1979)
  • Gwin y Gwan (Sain 1184M, 1980)

fel artist unigol:

  • Madras (Sain 1316M, 1984)
  • Rebel (Sain C973, 1986)
  • Ararat (Sain C650, 1988)

Casgliadau:

  • Blynyddoedd Sain 1977–1988 (Sain SCD 2167, 1997)
  • Geraint Griffiths – Cadw’r Ffydd (Goreuon Cyfrol 2) (Sain SCD2399, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.