Griffiths, Rhidian

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:51, 8 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ymunodd Rhidian Griffiths â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn 1980 gan ddod yn Geidwad Llyfrau Printiedig yn 1993. Daeth yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2002, gan dderbyn cyfrifoldebau dros ystod eang o wasanaethau’r llyfrgell, gan gynnwys Gwasanaethau Darllen, marchnata, addysg, arddangosfeydd, ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Yn hanesydd o ran hyfforddiant, bu’n cyhoeddi ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru ers yr 1980au, gan gynnwys Darlith Goffa Amy Parry-Williams 1991 ar ffiniau’r alaw werin a’r emyn-dôn a phennod ar Ieuan Gwyllt a’r Alaw Gymreig yn Cynheiliaid y Gân: Ysgrifau i anrhydeddu Phyllis Kinney a Meredydd Evans (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007).



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.