Gwaethygiant

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 06:55, 14 Mehefin 2021 gan DaiThomas (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Term sy’n wrthystyr i ‘gwelliant’ [betterment]. Yng nghyd-destun tir ac eiddo mae’n cyfeirio at ostyngiad mewn gwerth tir ac eiddo. Cyfyd yn aml mewn achosion o atafaelu gorfodol gan awdurdodau lleol/cenedlaethol neu gorff statudol.

Er enghraifft, gall adeiladu priffordd neu reilffordd gyfagos i dŷ preswyl arwain at sŵn, llwch ac anghyfleustra cyffredin sydd yn arwain at gwymp mewn gwerth y tŷ.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://www.merriam-webster.com/dictionary/worsement



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.