Gwerin, grwpiau

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:20, 25 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Er i nifer o wahanol grwpiau berfformio caneuon gwerin Cymreig traddodiadol yn ystod yr 1960au, prin y byddai grwpiau’n cyflwyno eitemau offerynnol traddodiadol. Tra oedd cenhedlaeth gyntaf o gantorion pop Cymraeg wedi seilio’u harddull ar arddulliau cyfatebol Eingl-Americanaidd, roedd y repertoire gwerin traddodiadol i raddau helaeth wedi’i bennu ymlaen llaw, sef caneuon ac alawon wedi’u casglu a’u cyhoeddi, neu eu trosglwyddo trwy draddodiad llafar. Gan na allai cerddorion a grwpiau gwerin offerynnol y cyfnod ddibynnu ond ar ychydig iawn o fodelau llafar, yr her oedd sut i drin y repertoire hwn. Roedd y delynores deires o fri, Nansi Richards (Telynores Maldwyn), wedi dysgu sawl telynor, a byddai offerynwyr eraill yn defnyddio recordiadau megis The Art of Nansi Richards fel ffynonellau ar gyfer eu stoc hwy o ddarnau. Tra oedd gan chwaraewyr y ffidil Wyddelig berfformwyr cyfoes dirifedi i’w hefelychu, gwerth dros 50 mlynedd o recordiadau i ddysgu oddi wrthynt a chefnogaeth barod sefydliadau a oedd wrthi’n hyrwyddo cerddoriaeth draddodiadol, pwy a wyddai sut roedd alaw ddawns Gymreig i fod i swnio?

Rhwng 1975 ac 1990 gwelwyd twf ym mhoblogrwydd cerddoriaeth draddodiadol yn gyffredinol yng ngwledydd a rhanbarthau Celtaidd Ewrop, ac adfywiad oddi mewn i faes canu gwerin yng Nghymru. Yng ngeiriau Hefin Wyn: ‘Rhoddwyd bri o’r newydd ar ganu alawon gwerin Cymru a hynny, yn rhannol, o ganlyniad i ddegawdau o waith cenhadol Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru’ (Wyn 2002, 241). O gymharu â grwpiau o Iwerddon a’r Alban, ychydig o wrandawiad a gâi grwpiau cerddoriaeth draddodiadol o Gymru. Byddai dawnswyr gwerin o Gymru (ynghyd â’u cerddorion) yn teithio’n gyson i wyliau ar y cyfandir, ond yn nechrau’r 1970au y datblygodd y syniad o grŵp gwerin Cymreig yn perfformio alawon gwerin a cherddoriaeth offerynnol draddodiadol nad oeddynt yn benodol ar gyfer dawnsio.

Roedd yr adfywiad yma’n ddiddorol am nifer o resymau. Yn gyntaf, ychydig iawn o ‘gynheiliaid traddodiad’ cerddoriaeth offerynnol yng Nghymru a oedd yn dal yn fyw. Yn ail, roedd safle cerddoriaeth offerynnol draddodiadol yng Nghymru gryn dipyn yn fwy ymylol na chanu gwerin, a llawer o gasglwyr y 19g. a’r 20g. wedi canolbwyntio mwy ar gasglu caneuon na cherddoriaeth offerynnol (eithriad nodedig oedd Thomas D. Llewelyn (Llewelyn Alaw), a ddarparodd ddeunydd ar gyfer nifer o gerddorion yr adfywiad trwy eu defnydd yng nghyfrolau Nicholas Bennett, Alawon fy Ngwlad (1896)). Yn drydydd, heb gyfeiriad penodol at y Gymraeg (ar wahân i’w theitl), hunaniaeth fwy annelwig a oedd gan alaw offerynnol ‘Gymreig’, yn enwedig os oedd alawon Seisnig cyfatebol yn bodoli.

Trodd llawer o gerddorion a oedd â’u bryd ar ddysgu a pherfformio cerddoriaeth offerynnol Gymreig at gerddoriaeth brintiedig yn ystod yr 1970au, ond nid oedd yn hawdd cael alawon dawnsio gwerin traddodiadol Gymreig. I’r rhai a oedd yn ymwneud â dawnsio gwerin, casgliadau megis Blodau’r Grug (a olygwyd gan Alex Hamilton), ynghyd â dawnsiau unigol neu gasgliadau bach a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Ddawns Werin Cymru neu Gwmni Cyhoeddi Gwynn, oedd y prif ffynonellau (er enghraifft, gw. Blake & Williams 1948). Ar wahân i’r cyhoeddiadau hynny a oedd wedi’u hanelu at fyd dawnsio gwerin roedd hefyd gasgliadau printiedig o alawon Cymreig, a’r rheiny’n adnodd amhrisiadwy.

O ran trefniannau o alawon offerynnol, y dewis safonol a ddatblygwyd gan lawer o grwpiau’r cyfnod oedd chwarae alawon dawns yn olynol, naill ai gan gadw at yr un mydr a tempo, neu gan gyflymu o un alaw i’r nesaf. Yn aml, perfformid alawon araf – rhai i’r delyn neu i ganeuon – ar wahân, neu ar ddechrau cadwyn o alawon, a barhâi wedyn ag alawon cyflymach. Nid oedd y syniad o gadwyn o alawon yn ddim byd newydd ynddo’i hun, ac roedd hefyd wedi ei fabwysiadu gan y mwyafrif o fandiau gwerin Gwyddelig ac Albanaidd y cyfnod.

Beth felly oedd y cymhellion i ffurfio’r grwpiau cynharaf? Recordiadau gan Carraig Aonair, Swansea Jack ac Ar Log, a ryddhawyd yn 1977 ac 1978, oedd y rhai masnachol cyntaf gan grwpiau o Gymru a oedd yn cynnwys cerddoriaeth draddodiadol. Ffurfiwyd y tri grŵp yn sgil yr adfywiad gwerin Celtaidd ar y pryd. Daeth cerddorion Ar Log at ei gilydd yn dilyn perfformiad yn y Festival Interceltique de Lorient, Llydaw, yn 1976 (Ebenezer 1996, 9). Erbyn yr 1970au roedd gan wledydd Celtaidd eraill, yn enwedig Iwerddon, yr Alban a Llydaw, nifer o grwpiau gwerin proffesiynol neu led broffesiynol, yn cyflwyno eu cerddoriaeth draddodiadol ar lwyfan rhyngwladol, ac roedd angen llenwi’r hyn a oedd, yn nhyb rhai, yn fwlch mewn canu gwerin Cymreig, a rhoi’r gerddoriaeth ‘ar y map’. Bu dylanwad y Llydäwr Alan Stivell ar yr adfywiad gwerin yng Nghymru yn bwysig hefyd (Wyn 2002, 241), gan agor clustiau llawer o gerddorion i draddodiad Celtaidd llai adnabyddus, a hynny o fewn cyd-destun ensemble roc. Roedd Carraig Aonair a Swansea Jack wedi perfformio yn Llydaw, a recordiwyd unig albwm gwerin Swansea Jack yng Nghaeredin ar gyfer ArFolk, cwmni a oedd wedi’i leoli yn Lorient.

Roedd repertoire pan-Geltaidd Carraig Aonair yn cynnwys cerddoriaeth o Iwerddon, Ynys Manaw, Llydaw a Chymru, tra oedd albwm Swansea Jack The Seven Wonders (ArFolk, 1978) yn cynnwys nifer o alawon o’r traddodiad dawns Cymreig ochr yn ochr â chaneuon yn Saesneg, gan wneud defnydd helaeth o offerynnau gyda chorsen rydd, megis y melodion a’r consertina. Roedd cerddorion y grŵp, fel yr awgryma’u henw, wedi’u lleoli yn Abertawe a’r cylch, ac yn gysylltiedig yn benodol â chlwb gwerin y Valley ym Mhontardawe.

Offeryniaeth

Gosodwyd seiliau cadarn ar gyfer yr adfywiad gwerin gan recordiadau safonol Ar Log yn yr 1970au. Roedd eu harddull gynnar yn gymysgedd o ganu gwerin traddodiadol ac alawon offerynnol, ac yn nodedig am y defnydd cyntaf gan grŵp gwerin o’r delyn deires Gymreig. Parhaodd y delyn deires yn un o brif nodweddion recordiadau a pherfformiadau Ar Log trwy gydol yr 1970au a’r 1980au, a’i hunig ymddangosiad arall oedd gan Robin Huw Bowen ar Trwy’r Weiar, albwm Mabsant (Sain, 1987). Tan yr 1990au nid aeth unrhyw gerddorion gwerin eraill ati o ddifrif i ymgorffori’r delyn deires mewn grŵp, yn rhannol oherwydd y dechneg arbenigol a oedd yn ofynnol i’w chwarae, ynghyd ag anhawster cael gafael ar offerynnau.

Y delyn ddiatonig ‘Geltaidd’ fach, neu’r clarsach, oedd y delyn a ddefnyddid gan grwpiau eraill, ac roedd i’w chlywed ar recordiadau Cromlech, Aberjaber, Penderyn a Mabsant, yn ogystal ag ar recordiadau cyntaf Cilmeri. Yn gyffredinol, fe’i defnyddid i ychwanegu trwch at harmonïau alawon cyflym, a deuai’n flaenllaw yn achlysurol fel prif offeryn mewn alawon cymharol araf.

Er mai afresymol fyddai priodoli gwreiddiau cenedlaethol penodol i offerynnau megis y gitâr a’r ffidil, cyrhaeddodd llawer o’r offerynnau ‘newydd’ a ymddangosodd ym maes cerddoriaeth werin Gymreig hyd at c.1984 yn bennaf trwy arferion perfformio Gwyddelig cyfoes. Efallai mai’r banjo tenor oedd yr amlycaf o’r rhain. Er enghraifft, ar ddau recordiad Cilmeri, roedd Tudur Huws Jones yn chwarae’r banjo tenor, gan ddangos defnydd o dripledi ar nodyn ailadroddus sy’n nodweddiadol o’r dull Gwyddelig o berfformio, ac sydd i’w glywed mewn recordiadau gan grwpiau Gwyddelig megis y Dubliners.

Offerynnau eraill a fabwysiadwyd gan grwpiau gwerin o Gymru oedd y bodhrán (y drwm ffrâm Gwyddelig), y chwiban isel ac offerynnau traw is o deulu’r mandolin, megis y mandola, y bwswci a’r sitern. Mae’r bodhrán i’w glywed ar recordiadau gan Mynediad am Ddim, Ar Log a Cilmeri. Mae’r chwiban isel – fersiwn mwy o’r chwibanogl, yn seinio ar draw ffliwt – i’w chlywed ar recordiadau gan Cilmeri a 4 yn y Bar; roedd yr offeryn hwn wedi’i boblogeiddio gyntaf gan y pibydd Gwyddelig Finbar Furey, gan ddod wedyn yn hollbresennol mewn cerddoriaeth Geltaidd.

Efallai mai’r bwswci yw’r offeryn sy’n dangos gliriaf y modd yr oedd cerddoriaeth Wyddelig yn datblygu. Yng Nghymru, roedd y bwswci a’r mandola ill dau’n bresennol yn recordiadau Cilmeri, 4 yn y Bar a Mabsant gan ddefnyddio’n aml idiomau gwrthbwyntiol a dyfeisiadau rhythmig a oedd wedi’u benthyca’n uniongyrchol gan grwpiau Gwyddelig megis Planxty. Parhaodd Planxty – un o’r cyntaf o’r grwpiau iau i boblogeiddio cerddoriaeth offerynnol a chaneuon Gwyddelig yn Iwerddon a thramor – yn ddylanwad grymus ar gerddorion Cymreig yn rhan gyntaf y cyfnod, gyda Mynediad am Ddim a Cilmeri yn cydnabod arwyddocâd dylanwad recordiadau cynnar Planxty arnynt.

Er yr 1950au ymddengys mai’r acordion piano oedd y mwyaf cyffredin o’r offerynnau corsen rydd a oedd i’w clywed yng Nghymru, yn rhannol oherwydd ei bod yn rhwydd i’r rhai a oedd eisoes wedi arfer â’r piano ei chwarae. Clywir y defnydd o’r consertina a’r acordion botymau yn recordiadau cynharaf Calennig, a bu Ar Log a Penderyn yn defnyddio’r acordion piano o 1982 ymlaen. Gallai arddull offerynnol Calennig ymddangos yn debycach i gerddoriaeth werin Seisnig nag i’r arddull Wyddelig neu Albanaidd, tra oedd dull offerynwyr Ar Log a Penderyn o chwarae’r acordion piano yn tarddu o fodelau Albanaidd oherwydd dylanwadau chwaraewyr megis Phil Cunningham o’r grŵp Silly Wizard (gw. Hudson 1985, 18).

Ar ôl tua 1982 gwelwyd cynnydd arwyddocaol yn y defnydd o allweddellau electronig, a hynny’n ddi-os yn gysylltiedig â’r ffaith eu bod ar gael yn rhwyddach yn sgil datblygiadau technolegol. Roedd y defnydd o syntheseisydd fel ‘llanwydd harmonig’ i’w glywed yn aml ar recordiadau Mabsant, ac o bryd i’w gilydd fe’i defnyddid i greu llinell fas electronig, fel yn alaw Penderyn ‘Hoffed y Mwnci Blewog’ o’u casét o’r un enw a ryddhawyd yn 1984, a ddangosai dylanwad recordiadau’r Battlefield Band.

Aeth arbrofi offerynnol i gyfeiriad gwahanol yn ystod yr 1980au, datblygiad a ysgogwyd gan y deffroad mewn cerddoriaeth gynnar. Roedd y pibgorn yn offeryn Cymreig gyda chorsen sengl a oedd yn boblogaidd yn ystod y 18g. I ddechrau, yn absenoldeb atgynyrchiadau o’r offeryn, mabwysiadodd Tomi Jenkins o’r grŵp Cromlech y crumhorn, offeryn gyda chap wedi’i wneud o gorsen y bu bri arno yn yr Almaen adeg y Dadeni, ac un yr oedd cerddorion gwerin newydd yr 1970au yn hoff ohono. Defnyddiodd yr un grŵp y ffidil ganoloesol, yr hyrdi-gyrdi a phibgod Galisia, nau’r gaita gallega.

Er ei bod yn sicr fod y bibgod wedi’i chwarae yng Nghymru o’r cyfnod canoloesol hyd at y 19g., nid oes yr un offeryn wedi goroesi (gw. Saer 1983, 31–8).

Yr 1980au a’r 1990au

Yn ystod yr 1980au daeth y cwestiwn ynglŷn â’r hyn a oedd yn cyfrannu at sain ‘gywir’ Gymraeg a Chymreig yn drafodaeth bwysig yn y maes. Tra dewisodd y rhan fwyaf o ddigon o’r grwpiau dan sylw ddefnyddio’r repertoire Cymreig yn anad dim, eithriad nodedig i hyn oedd y traciau offerynnol ar ddau albwm Mynediad am Ddim o ganol yr 1970au, Wa MacSbredar (Sain, 1975) ac Mae’r grŵp yn talu (Sain, 1976), lle ceir alawon o’r traddodiad Gwyddelig. Er bod llawer o aelodau’r grŵp yn gyfarwydd ag o leiaf rywfaint o repertoire alawon dawnsio gwerin Cymreig, cyd-destun a chysylltiad a bennai’r dewis o alawon Gwyddelig: y rhain oedd yr alawon y byddai rhywun debycaf o’u clywed ‘yn y dafarn’, yn hytrach nag ar lwyfan eisteddfod. Mewn recordiadau diweddarach, dangosir mwy o ymwybyddiaeth o’r repertoire Cymreig, a mwy o gyfaddawd ag ef: roedd albwm Mynediad am Ddim Rhwng Saith Stôl (Sain, 1977) yn cynnwys dau drac offerynnol gwreiddiol.

Yn 1982 rhyddhawyd un o’r recordiadau Cymreig mwyaf nodedig yn ystod y cyfnod hwn, sef yr albwm eponymaidd gan Yr Hwntws. Gan ganolbwyntio, fel Calennig a Mabsant, ar ddeunydd o Forgannwg a Gwent, roedd eu hofferyniaeth, ar un llaw, yn ei hanfod yn Wyddelig – mandolin, bwswci, bodhrán, ffidil a gitâr – tra oedd y modd yr aethant ati i atgyfodi’r arfer o ganu tribannau nid yn unig yn radicalaidd ac yn nodedig Gymreig, ond hefyd yn gysylltiedig yn benodol â Morgannwg a de-ddwyrain Cymru. Bu’r triban yn fesur poblogaidd er yr 16g., ac mae’n debyg fod ffurf neu ffurfiau cynharach arno’n cael eu defnyddio’n helaeth gan y ‘clerwyr’ neu’r beirdd israddol. Gyda’i ffurf syml – pedair llinell a phum odl (gan gynnwys un fewnol yn y llinell olaf) – daliodd ei dir fel cyfrwng mynegiant am amser maith; er enghraifft, roedd nifer o’r tribannau yn benillion a genid i’r ychen wrth aredig. Er nad oedd y ffurf wedi deillio o Forgannwg, ac mai un yn unig ydoedd o blith nifer o ffurfiau yr arferid eu defnyddio wrth aredig, roedd iaith gyhyrog a gwerinol y tribannau, ochr yn ochr â chysylltiadau lleol penodol, yn eu gwneud yn ddeunydd delfrydol ar gyfer grŵp a oedd â’i fryd ar hyrwyddo teyrngarwch i ranbarth yn hytrach nag i Gymru’n gyffredinol (gw. Jones 1976, 13–34).

Fodd bynnag, roedd arddull ffidlwr Yr Hwntws, Mike Lease, yn benodol Wyddelig: roedd wedi llwyr feistroli’r dull Gwyddelig o dynnu bwa ac o addurno, ac mae’r technegau hyn, ynghyd â llithrennau i fyny hyd at draw’r nodyn, i’w clywed yn glir mewn llawer o’r eitemau offerynnol. Parodd Yr Hwntws gryn anesmwythyd ymysg adolygwyr, yn rhannol am fod y cantorion, Gregg Lynn a Jethro Newton, yn mynnu lleisio’n gras, ac am fod y dylanwad Gwyddelig ar eu chwarae offerynnol i’w glywed mor glir (gw. Wyn 2002, 358–9). Yn y cyswllt hwn, mae’n werth nodi bod Iolo Jones (ffidlwr gwreiddiol Ar Log) a Graham Pritchard o Mynediad am Ddim (ac Ar Log yn ddiweddarach) hwythau wedi cydnabod dylanwadau Gwyddelig ar eu dull o ganu’r ffidil, er bod yr olaf yn teimlo bod ganddo fwy o gysylltiad ag arddull y ffidlwr Aly Bain o Ynysoedd Shetland (gw. Ebenezer 1996, 44 a 66).

Amlygwyd hefyd y problemau a oedd yn gysylltiedig â chreu neu ail-greu sain benodol Gymreig – er mai prin y trafodid y mater yn helaeth – yn rhai o gylchgronau’r cyfnod, yn enwedig y cylchgrawn gwerin o Gaerdydd, Taplas, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1982. Roedd y rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn hwnnw yn cynnwys adolygiad dwbl estynedig o Henffych Well gan Cilmeri ac o unig albwm Yr Hwntws. Crynhowyd y mater gan Mick Tems mewn adolygiad o Igam Ogam gan Cromlech mewn rhifyn diweddarach:

What is the right route to take in the recreation of a dead tradition? Is it Ar Log’s eisteddfodic approach, Cilmeri’s Irish road, or Yr Hwntws and their Swarbrick-influenced folk-rock, which is essentially English-sounding. [...] Whatever the historical truth, I prefer to think that Cromlech’s sound is more relevent [sic] to the Welsh tradition than bodhrans or bouzoukis – or melodeons. (Tems 1983, 17)

Cafwyd gogwydd arall ar y pwnc gan Keith Hudson, golygydd Taplas, wrth iddo gymharu byd sain recordiad cyntaf Mabsant â cherddoriaeth delyn Gymreig gynnar, gan nodi bod arddull Siwsánn George ar y gitâr yn benodol yn cyfrannu at ‘the essential Welshness of the sound that Mabsant ... produce’ (Hudson 1983, 27).

Canmolwyd ail recordiad Mabsant, Gŵyl Mabsant, am atgyfodi hen alawon. Fel ensemble o dri, byddent yn cynnwys, ar wahanol adegau, delyn deires (draddodiadol) Robin Huw Bowen ar un llaw ac, ar y llaw arall, Steve Whitehead yn chwarae’r clarinét a’r sacsoffon mewn arddull pop/jazz. Ychydig o ddylanwad cyffredinol Geltaidd na phenodol Wyddelig (er enghraifft, addurniadau megis ‘rholiau’ neu ‘doriadau’) sydd i’w glywed yn eu recordiadau. Roedd y grŵp o Ynys Môn, 4 yn y Bar, yn un arall a lwyddodd i swnio’n fwy ac yn llai ‘Celtaidd’ o bryd i’w gilydd yn eu perfformiadau offerynnol. A’r grŵp yn cynnwys tri chyn-aelod o’r grŵp Cilmeri (Tudur Huws Jones, Huw Roberts ac Iwan Roberts) ynghyd â Tudur Morgan, defnyddient offerynnau ac idiomau o Iwerddon (bwswci, banjo tenor a chwiban isel) ac o Ogledd America (elfennau gwlad/bluegrass ar y ffidil, a banjo pum llinyn). Mae hyn i’w glywed yn glir ar eu dau recordiad ar label Sain a dau dâp a gynhyrchwyd yn annibynnol yn 1985 ac 1987, sef Seren Nadolig a Ffiwsio.

Dau beth a ddigwyddodd yn sgil y diffyg repertoire o gerddoriaeth offerynnol Gymreig: dechreuodd cerddorion chwilio ymhellach, gan ddefnyddio hen ffynonellau o alawon; yn aml, byddai dyfynnu’n fanwl ac weithiau’n helaeth yn dilysu’r ymchwil hwn. Trwy gydol yr 1970au a’r 1980au buwyd yn ysbeilio ffynonellau printiedig o gerddoriaeth Gymreig o’r 18g. a’r 19g. ar gyfer deunydd traddodiadol ‘newydd’. Tair cyfrol a enwir amlaf mewn nodiadau ar lewys recordiau: Alawon fy Ngwlad (1896) gan Nicholas Bennett; The Welsh Harper (1848) gan John Parry (Bardd Alaw); a Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784) gan Edward Jones. Roedd cyfrol Jones wedi’i hailgyhoeddi, ar ffurf ffacsimili golygedig, gan Clive Morley Harps tua chanol yr 1980au, a hynny’n gwneud y repertoire hwn yn fwy hygyrch. Dyfynnwyd hefyd o gyfrolau eraill, megis Gems of Welsh Melody (1860) gan Owain Alaw, ond yn llai aml o dipyn.

Serch hynny, nid hen gyfrolau printiedig oedd yr unig ffynonellau, ac yn ystod yr 1980au daeth ffynonellau llawysgrifau’r 18g. a’r 19g. o alawon Cymreig yn fwy hysbys. Nifer gymharol fach o gerddorion a wyddai am y casgliadau o lawysgrifau cerddoriaeth a gedwid yn Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd, a’r chwaraewr telyn deires Robin Huw Bowen a anfonodd alawon dawns o gasgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymlaen at gerddorion eraill. Trwy hynny, a thros gyfnod, nid yn unig fe ehangodd yr amrediad o ffynonellau o alawon a repertoire, ond daeth cerddorion hefyd yn barotach i gyfansoddi alawon mewn arddull draddodiadol.

O fewn y cyfyngiad cyffredinol i’r repertoire Cymreig, ymddengys fod un ffynhonnell benodol o gerddoriaeth fel pe bai’n unigryw o fewn adfywiad gwerin yr 1970au a’r 1980au; llawysgrif o gerddoriaeth i delyn farddol a gopïwyd gan Robert ap Huw tua dechrau’r 17g. oedd y ffynhonnell honno, er ei bod yn cynnwys llawer o gerddoriaeth dipyn hŷn. Dau grŵp a gynhwysodd ddeunydd ohoni ar eu recordiadau oedd Yr Hwntws (‘Caingc Gruffudd ab Adda ap Dafydd’) ac Aberjaber (cyfansoddiad gwreiddiol gan Peter Stacey o’r enw ‘Three Fires’, a oedd yn seiliedig ar alaw yn y llawysgrif). Roedd ail albwm Aberjaber, yn 1988, yn cynnwys pedwar darn o’r llawysgrif. Gellir dehongli defnydd y diwygwyr Cymreig o’r gerddoriaeth hon fel rhywbeth a oedd yn dod â mwy o ddilysrwydd i draddodiad brodorol nad oedd yn meddu ar draddodiadau cyfredol megis Iwerddon, yr Alban a Llydaw.

Yn ystod yr 1980au daeth dylanwadau eraill yn bwysig, a’r rhain yn aml yn mynd yn groes i’r arferiad o dderbyn dylanwadau Gwyddelig yn ddigwestiwn. Nid tyfu y tu allan i gyd-destun a wnaeth perfformio offerynnol ymysg grwpiau gwerin Cymru yn yr 1970au a’r 1980au. Roedd bodolaeth y grwpiau, ynghyd â’r offerynnau a ddewisent, ynddo’i hun yn tystio i lu o ddylanwadau allanol. Cerddoriaeth Wyddelig oedd yr amlycaf o’r rhain, a chafodd ei harferion hi rywfaint o ddylanwad hefyd ar y dewis o repertoire. Tynnodd grwpiau eraill, megis Calennig ac Ar Log – i raddau llai efallai – ar ddylanwadau o Loegr a’r Alban, tra bu Mabsant yn rhydd, ar y cyfan, oddi wrth ddylanwad Celtaidd.

O ran repertoire, roedd y grwpiau hyn yn rhoi sylw amlwg i gerddoriaeth o ffynonellau Cymreig; fodd bynnag, o ran arddull perfformio, mabwysiadodd cerddorion o Gymru elfennau o arddulliau o’r tu allan i’r traddodiad brodorol, a’u defnyddio wedyn yn y repertoire Cymreig. Unwaith eto, y technegau addurno sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth Wyddelig oedd amlycaf o blith y rhain. Mae arddulliau cerddorol eraill hefyd yn rhan o’r pair, ond nid i’r un graddau.

Yng Nghymru, prin oedd yr anogaeth i rai a oedd am berfformio cerddoriaeth draddodiadol, heblaw yn achos canu gwerin neu ganu cerdd dant; roedd y ddau genre hynny yn rhan o fyd eisteddfodau lleol a’r Genedlaethol, a chaent yn aml eu cymeradwyo neu eu hyrwyddo gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru neu Gymdeithas Cerdd Dant Cymru. O ran cerddoriaeth offerynnol, roedd hefyd brinder o gynheiliaid traddodiad byw i’w hefelychu, ac ychydig o recordiadau a oedd ar gael. Yn yr un modd â llawer o adfywiadau eraill, roedd elfennau cryf o ailbennu cyd-destun a thrawsffurfio yn perthyn i’r adfywiad hwn ym myd cerddoriaeth offerynnol draddodiadol yng Nghymru. Roedd repertoire yn gymharol brin ar ddechrau’r cyfnod dan sylw, ond daeth yn llai prin yn ystod yr 1980au; fodd bynnag, gan nad oedd unrhyw agweddau penodol ar arddull perfformio i’w hetifeddu (y tu hwnt i’r grefft o ganu’r delyn deires), heb sôn am eu hatgyfodi, gellid yn hawdd ddadlau bod yr adfywiad yn gyffredinol yn ymwneud mwy â chreu traddodiad newydd na gydag ail-greu traddodiad.

Wrth i’r 1980au dynnu at eu terfyn, daeth ffactorau eraill yn bwysicach: dechreuwyd ail-greu offerynnau heblaw’r delyn deires (yn benodol, y crwth a’r bibgorn), fel y gallai offerynnau cerddoriaeth Gymreig o leiaf hawlio eu bod yn creu sain fwy penodol Gymreig nag a fu’n bosibl gynt. Yn ystod y degawd ailgreodd Robert Evans delynau cynnar, gan fynd ati wedyn i astudio’n fanwl dechnegau chwarae’r crwth. Jonathan Shorland oedd y cyntaf i ail-greu unrhyw nifer arwyddocaol o bibgyrn y gellid eu chwarae.

O’r 1990au ymlaen gwelir dylanwad cerddoriaeth o gyfandir Ewrop, yn arbennig o Lydaw, ar gerddoriaeth grwpiau Cymreig, er enghraifft Bob Delyn a’r Ebillion. Yn ystod y cyfnod hwn bu mwy o arbrofi rhwng gwahanol genres hefyd. Clywir hyn yn fwyaf amlwg, o bosibl, yng nghynnyrch y gantores a’r delynores Siân James, gyda Gweini Tymor (Sain, 1996) yn fwy ‘traddodiadol’ o ran y defnydd o alawon a threfniannau gwerin, tra mae Di-Gwsg (Sain, 1997), a gynhyrchwyd gan Ronnie Stone, yn cyfuno curiadau cerddoriaeth ddawns techno a seiniau’r delyn.

Lluosogrwydd fu un o brif nodweddion byd y grwpiau gwerin er troad yr 21g. Tra mae sefydlu mudiadau megis trac wedi gwneud llawer i feithrin ymwybyddiaeth o offerynnau ac arferion cerddorol traddodiadol Cymru – ac yn sgil hyn wedi esgor ar gynulliadau torfol o chwaraewyr yn yr arddull draddodiadol, megis Y Glerorfa – clywir hefyd yn sain grwpiau megis Calan barodrwydd i ymestyn ffiniau genres gwerin, i ddatblygu ffurfiau, ac i arbrofi gyda seiniau a gweadau traddodiadol a chyfoes fel ei gilydd er mwyn sicrhau bod canu gwerin yn parhau’n berthnasol ac apelgar i gynulleidfaoedd newydd.

Stephen Rees a Pwyll ap Siôn

Llyfryddiaeth

  • Lois Blake a W. S. Gwynn Williams (gol.), Welsh Whim (Llangollen, 1948)
  • Tegwyn Jones (gol.), Tribannau Morgannwg (Llandysul, 1976)
  • D. Roy Saer, ‘Y Bibgod yng Nghymru’, Cerddoriaeth Cymru, 7/2 (Gaeaf, 1982/83), 31–8
  • Mick Tems, ‘Cromlech: Igam-Ogam’, Taplas, 3 (Gaeaf, 1982/3), 17
  • Keith Hudson, ‘Mabsant: Trip i Forgannwg’, Taplas, 5 (Haf, 1983), 27
  • ———, ‘Adolygiad o Ar Log IV’, Taplas, 12 (Gwanwyn, 1985), 18
  • Lyn Ebenezer, Ar Log ers Ugain Mlynedd (Llanrwst, 1996)
  • Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.