Gwibdaith Hen Frân

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ffurfiwyd Gwibdaith Hen Frân ym Mlaenau Ffestiniog yn 2006 gan Phil Lee Jones (llais, iwkalili), a fu’n aelod o’r grwpiau Mim Twm Llai ac Estella, Robert Buckley (bas dwbl), a fu hefyd gydag Estella, Gethin Thomas (llais, gitâr) a Paul Thomas (llais, gitâr acwstig). Treuliwyd misoedd cyntaf y band yn jamio yn Nhafarn y Ring, Llanfrothen, a pharhaodd eu hapêl fel band byw, deinamig. Disgrifiwyd eu harddull fel ‘sgiffl llinynnol hurt’ gan gylchgrawn Y Selar, ac yn ôl gwefan Sain, ‘[mae] eu hysbrydoliaeth i [ysgrifennu] caneuon wedi ei sbarduno gan hen gymeriadau [Llanfrothen] sydd â hanesion di-ri, digwyddiadau personol unigolion y band a’u bywyd o ddydd i ddydd.’

Recordiodd y band sesiwn C2 i BBC Radio Cymru yng ngwanwyn 2007 cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Cedors Hen Wrach (Rasal, 2007) yn yr haf. Gyda’i arddull gwerin amgen, roedd yr albwm yn chwa o awyr iach i’r byd canu pop cyfoes ar y pryd, a chaneuon hwyliog a doniol megis ‘Coffi Du’, ‘Trôns Dy Dad’ a ‘Cyri’ yn boblogaidd mewn nosweithiau byw ac ar y radio. Bu’r band yn weithgar iawn yn 2007, gan chwarae yng Ngŵyl Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog, Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B a gigiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a Gŵyl Macs yng Nghaerfyrddin.

Dilynwyd Cedors Hen Wrach gan EP elusennol, Cân Am Sana, cyn Nadolig 2007, gyda Glyn Wise (a ddaeth i amlygrwydd flwyddyn ynghynt drwy gyfrwng y rhaglen deledu realaeth Big Brother) ynghyd â sêr radio eraill yn cyfrannu, a blwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y band eu hail albwm, Tafod dy Wraig (Rasal, 2008). Yn 2010, ymddangosodd y band ar y rhaglen Nodyn ar S4C, ond bu newid yn yr aelodaeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno wrth i Paul Thomas a Robert Buckley ymadael gan wneud lle i dri aelod newydd, Justin Davies (mandolin, harmonica), gynt o Anweledig, Gary Richardson ar y bas ac Ieuan Williamson ar y banjo. Yr un flwyddyn rhyddhawyd trydydd albwm, Llechan Wlyb (Rasal, 2010) a bu iddynt hefyd ennill gwobr Siart C2 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru; fe wnaethant ei hennill eilwaith yn 2011. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf, Yn Ôl ar y Ffordd, hefyd ar Rasal, yn Awst 2013.

Craig Owen Jones

Llyfryddiaeth

Disgyddiaeth

  • Cedors Hen Wrach (Rasal RASALCD022, 2007)
  • Cân Am Sana [EP] (Rasal RASALCD023, 2007)
  • Tafod dy Wraig (Rasal RASALCD025, 2008)
  • Llechan Wlyb (Rasal RASALCD032, 2010)
  • Yn Ôl ar y Ffordd (Rasal RASALCD035, 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.