Gwilym, Arfon

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:00, 4 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr gwerin, baledwr, cyhoeddwr a cherddor Cymreig yn enedigol o Rydymain, Gwynedd. Daeth i’r amlwg yn noson Tafodau Tân yn Eisteddfod Rhuthun 1973, ble canodd ddiweddariad o’r gân draddodiadol ‘Marged Fwyn Ferch Ifan’. Bu’n hybu canu plygain, cerdd dant a byd yr offerynwyr traddodiadol (Clera) dros y blynyddoedd. Bu’n ohebydd gyda phapur newydd Y Cymro am dros ddeng mlynedd. Treuliodd beth amser fel ymchwilydd gyda Radio Cymru yn BBC, Bangor, a’i brif waith erbyn hyn yw rheoli Cwmni Cyhoeddi Gwynn, sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth werin a chlasurol. Ef oedd awdur y llyfr Cerddoriaeth y Cymry: Cyflwyniad i draddodiad cerddorol Cymru (Y Lolfa, 2007).



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.