Gwilym, Meinir (g.1983)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:10, 8 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores ym maes canu pop Cymraeg a ddaeth i amlygrwydd yn ystod degawd cyntaf yr 21g. Cafodd Meinir Elin Gwilym ei magu yn Llangristiolus, Ynys Môn. Hanai o deulu cerddorol a bu’n cystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd pan oedd yn ifanc. Dechreuodd gyfansoddi yn bedair ar ddeg oed tra roedd yn dysgu chwarae’r gitâr. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Henblas, Ysgol Gyfun Llangefni a Phrifysgol Bangor lle graddiodd mewn Cymraeg ac Athroniaeth yn 2004.

Erbyn iddi gwblhau ei hastudiaethau ym Mangor roedd Meinir Gwilym eisoes wedi dod i sylw’r cyhoedd fel cantores bop. Tra oedd yn fyfyriwr, bu’n fuddugol mewn cystadleuaeth ysgrifennu caneuon, ac yn fuan daeth i sylw label recordiau Gwynfryn Cymunedol, a ryddhaodd ei EP gyntaf, Smôcs, Coffi a Fodca Rhad, yn 2002. Gydag arddull bop uniongyrchol a gafaelgar i’w chlywed mewn caneuon megis ‘Dim Byd a Nunlla’ ac ‘Wyt Ti’n Gêm?’, daeth yr EP yn hynod boblogaidd dros nos. Deuai ei theitl o’r gân ‘Gormod’ (‘Ti ’di byw rhy hir ar smôcs, coffi a fodca rhad’), ac roedd yn crynhoi testunau nifer o ganeuon cynnar Meinir Gwilym. Âi ati i ymdrin mewn ffordd ffres, ddiffuant a di-lol â digwyddiadau bob dydd ym mywydau pobl gyffredin, gan osod pwyslais yn aml ar brofiadau Cymry dosbarth gweithiol neu gefn gwlad.

Dilynwyd Smôcs, Coffi a Fodca Rhad flwyddyn yn ddiweddarach gan ei record hir gyntaf, Dim Ond Clwydda (Gwynfryn Cymunedol, 2003). Yn sgil perfformiadau’r gantores ar draws y wlad a’r ffaith fod y caneuon yn cael eu chwarae’n gyson ar Radio Cymru, cafodd y recordiau hyn werthiant uchel. Clywir mwy o ddylanwad canu gwlad ar ei hail albwm, Sgandal Fain (Gwynfryn Cymunedol, 2005), sy’n gyfuniad o ganeuon bywiog a rhai mwy myfyrgar a thelynegol, megis ‘Y Funud Hon’. Enillodd ddau gategori yng Ngwobrau Rap 2004, sef prif gyfansoddwr ac artist benywaidd gorau, ac erbyn 2005 roedd ei phoblogrwydd yn ddigon i sicrhau rhaglen ddogfen ar ei bywyd ar S4C.

Bu seibiant o dair blynedd cyn ei thrydedd record hir, Tombola (Gwynfryn Cymunedol, 2008), lle clywid hi’n canu gyda’r canwr opera Bryn Terfel mewn dwy o’r caneuon. Ni fu Tombola lawn mor llwyddiannus â’r ddwy record gyntaf, fodd bynnag, ac o bosib collwyd rhywfaint o sbarc, herfeiddiwch ac emosiwn amrwd y caneuon cynnar. Daeth bwlch am gyfnod yng ngyrfa Meinir Gwilym fel cantores pan gafodd waith fel cyflwynydd ar Radio Cymru. Bu hefyd yn cyd-gyflwyno ar S4C gyda’r canwr Huw Chiswell yn y gyfres Noson Chis a Meinir, ac yn ddiweddarach ar y rhaglen gylchgrawn nosweithiol, Wedi Saith. Fodd bynnag, parhaodd i ganu a chyfansoddi. Perfformiodd yn Los Angeles ar Ddydd Gŵyl Dewi 2014 gan ryddhau Celt – casgliad yn bennaf o oreuon ei recordiau blaenorol – i gyd- fynd â’r digwyddiad.

Yn 2013, daeth ynghyd â’r gantores a’r delynores werin amryddawn Gwenan Gibbard i berfformio yng Ngŵyl Canol Haf Rie yn Friesland, yng ngogledd-orllewin yr Iseldiroedd. Roedd yn asiad cerddorol diddorol a thrawiadol o elfennau traddodiadol a modern, ond efallai nid yn gam cwbl annisgwyl gan fod trefniannau o emynau a chaneuon gwerin traddodiadol megis ‘Ar Hyd y Nos’, ‘Mam a’i Baban’ a ‘Merch y Melinydd’ wedi ymddangos ar recordiau Meinir Gwilym ers ei EP cynnar. Aeth y ddwy ati i greu trefniannau newydd o ganeuon gwerin, megis ‘Gweini Tymor’ a ‘Rowndio’r Horn’. Ymddangosodd Meinir Gwilym ar record hir Gwenan Gibbard, Cerdd Dannau (Sain, 2013), a pharhaodd y ddwy i gydweithio gan berfformio ledled Cymru yn 2015.

Am gyfnod, yn arbennig yn ystod ei blynyddoedd cynnar, bu ei chaneuon yr un mor llwyddiannus o ran gwerthiant â chynnyrch artistiaid mwy sefydlog megis Dafydd Iwan a Bryn Fôn. Er nad oedd yr un grym a phŵer yn perthyn i’w llais pur â’i chyfoeswraig agos o Ynys Môn, Elin Fflur, roedd gan Meinir Gwilym y ddawn brin i lunio a throsglwyddo stori afaelgar mewn cân, a’r gallu i gysylltu’n uniongyrchol gyda’i chynulleidfa, ynghyd â’r parodrwydd i fentro i gyfeiriadau newydd wrth gydweithio gydag artistiaid megis Bryn Terfel a Gwenan Gibbard.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Smôcs, Coffi a Fodca Rhad (Gwynfryn Cymunedol GCCD03, 2002)
  • Dim Ond Clwydda (Gwynfryn Cymunedol GCCD11, 2003)
  • Sgandal Fain (Gwynfryn Cymunedol GCCD30, 2005)
  • Tombola (Gwynfryn Cymunedol GCCD50, 2008)
  • Celt (Gwynfryn Cymunedol GCCD64, 2014)
  • ‘Sworn Protector’/‘Rho i Mi’ [sengl] (Gwynfryn Cymunedol, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.