Gwilym, Tich

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y gitarydd Tich Gwilym a'i ddylanwad ar gerddoriaeth Cymru yw testun y dudalen hon. Ysgogiad ysgrifennu’r ddogfen oedd rhoi braslun o fywyd un o gitaryddion mwyaf eiconig o Gymru i’r genhedlaeth nesaf. Pan holwyd dosbarth o fyfyrwyr cerdd o Gymru’n ddiweddar a oeddynt wedi clywed am Tich Gwilym, nid oedd neb wedi clywed amdano, ac felly’r gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn rhoi rhagarweiniad i’w fywyd cerddorol gan anelu at ysbrydoli myfyrwyr y genhedlaeth nesaf i ymddiddori yn ei gerddoriaeth ac i ddysgu o’i berfformiadau.

Rhys James

Rhagarweiniad

Ganwyd Robert John Gwilliam ym mhentref Penygraig ar 10 Medi 1950 yn rhif 1 Library Road, yn fab i William John ac Irene Gwilliam. Hanai ei dad-cu, John Albert, glöwr a thafarnwr, o Lanymddyfri, ac ef oedd y cyntaf i adeiladu tŷ ar Library Road.[1]

Pan oedd yn yr ysgol, dechreuwyd ei alw wrth y llysenw ‘Tich Beck’[2] oherwydd ei fod yn fyr o ran taldra ynghyd â’i hoffter o’r gitarydd Jeff Beck, ac o ganlyniad cawsai ei adnabod fel Tich am weddill ei fywyd. Siaradai tad Tich gyda balchder am y cyfenw Gwilliam ac roedd y teulu i gyd, gan gynnwys Tich, yn falch iawn o’r ffaith y bu eu hewythr, John Gwilliam, yn gapten llwyddiannus iawn ar dîm rygbi Cymru yn y 1950au, gan ennill dau Grand Slam (1950/52) a churo Awstralia a Seland Newydd.[3] Er hyn, byddai pobl leol yn cyfeirio atynt fel ‘Gwilym’ a newidiodd y ‘Gwilliam’ ar lafar i ‘Gwilym’.

Dyddiau cynnar (1950-60au)

Dangosodd Tich addewid cerddorol yn gynnar yn yr ysgol. Chwaraeai’r drymiau ac offerynnau amrywiol eraill (gan gynnwys y sielo) yn dda iawn, ond pan gafodd ei gitâr cyntaf pan oedd tua wyth mlwydd oed, rhoddodd y sielo a’r drymiau o’r neilltu a dyma ddechrau ar obsesiwn gydol oes.

Pan holwyd tad Tich am y cefndir cerddorol, roedd fel petai wedi dod o unman, meddai. Roedd ganddynt fodryb, aunt Evelyn, a oedd yn canu opera amatur, ond nid oedd unrhyw un arall yn y teulu’n gerddorol.

Record gyntaf Tich Gwilym.
Dros y blynyddoedd cynnar felly, bu Tich yn gwrando ar recordiau di-ri, ac ar y cyfan bu’n dysgu ei hun i chwarae’r gitâr. Byddai’n gwrando ar y Rolling Stones a’r Beatles, ond un o’i hoff fandiau o’r cyfnod oedd The Kinks. Roedd yn hoff o James Taylor a Nanci Griffith fel ysgrifenwyr caneuon. Fel gitaryddion, roedd yn hoff o Jimi Hendrix a Jeff Beck, ond yn ddiweddarach daeth yn hoff o’r Shadows ac yn enwedig Hank Marvin. Yn wir, enwodd ddau o’i feibion ar ôl Jimi a Hank. Erbyn iddo gyrraedd yr ysgol uwchradd, gallai efelychu nifer o’i arwyr.
Tich Beck Reunion, tua 1965. Tich sy’n dal y gitâr. (Hawlfraint: Mike Monk.)

Pan aeth i Ysgol Ramadeg Tonypandy, ffurfiodd nifer o fandiau. Un o’r cyntaf oedd Tich and The Mystics pan oedd tua 14 oed. Dechreuodd Tich ennill gwobrau fel y Rhondda Musician of The Year, a thynnodd sylw hyrwyddwr lleol o’r enw Bob McClure a drefnodd fod Tich yn recordio rhai caneuon ar finyl.

Recordiad: cedwir pob hawl

Hyd y gwyddys, dyma’r recordiad cynharaf o Tich ac yr oedd yn arddangos amseru a thonyddiaeth berffaith hyd yn oed yr oed hwnnw. Roedd yn amlwg wedi creu digon o argraff i rywun drefnu iddo recordio mewn stiwdio tua 1964/5, ac nid ar chwarae bach y byddai hynny’n digwydd.

Tra oedd yn yr ysgol, daeth yn ffrindiau â bachgen hŷn nag ef o’r enw Mike Monk. Daeth y ddau’n ffrindiau oes, gyda Mike yn edrych ar ôl y Tich ifanc. O ganlyniad, byddai Tich yn galw Mike yn ‘dad’ hyd yn oed fel oedolyn.

Roedd Mike yn gerddor hefyd a aeth ymlaen i gael gyrfa fel canwr, ac felly dyma ddechrau grwp o’r enw Tich Beck Reunion. Yn y band yr oedd Lynn Phillips, Bob Watkins, Eddie Aycock a Mike Monk. Roedd y band hwn yn chwarae caneuon roc/blues y cyfnod ac ambell gân wreiddiol.

Gyrfa Gerddorol

Kimla Taz

Poster Croeso 69 Blues Festival.
Tocyn Progressive Blues Night, 1969.

Erbyn 1967, roedd Tich a Mike wedi gadael yr ysgol ac wedi symud i Gaerdydd. Ar ôl rhai newidiadau i’r aelodau, newidiodd Tich Beck Reunion i fod yn Kimla Taz, grwp a oedd yn llawn addewid, gyda Tich yn chwarae’r gitâr ac yn canu. Meddyliwyd am yr enw Kimla Taz mae’n debyg wrth iddynt basio siop Co-Op yng Nghimla ger Castell Nedd, a chyfaill iddynt a oedd yn ganwr oedd Taz.[4]

Bu gwahanol aelodau i’r band hwn ar wahanol gyfnodau, ond aeth John Morgan, Pete Hurley, Robert ‘Dodo’ Wilding a Tich ymlaen i fod yn gyd-aelodau o fand Geraint Jarman.

Denodd Kimla Taz ddiddordeb mawr, gyda chwmni recordiau CBS, Decca, Page One ac RCA yn dangos diddordeb. Arwyddwyd cytundeb gyda recordiau Decca i ryddhau record ar eu label Deram.[5] Bu sesiwn recordio yn stiwdios Decca yn Llundain, a chynhyrchwyd y rhain hefyd gan Bob McClure. Dilynwyd hynny gan gigs lle y buont yn cefnogi bandiau mawr fel Jethro Tull a Fleetwood Mac yn gig Croeso ’69 yn y Fenni,[6] a Led Zeppelin yn Top Rank Caerdydd .[7] Teithiai’r band hefyd o gwmpas Ewrop yn chwarae yn yr Iseldiroedd a’r Almaen.[8] Bu llawer o frwdfrydedd am y band, gyda Love Sculpture – band Dave Edmunds o Gymru a oedd yn llwyddiannus iawn ar y pryd – yn honni mai Kimla Taz fyddai’r ‘peth mawr nesa’ pan holwyd hwy ar raglen John Peel ar Radio 1.[9] Yn anffodus, oherwydd anghytundeb â’r rheolwr, chwalodd y band cyn iddynt gwblhau albwm cyfan gyda Decca, ac er i’r band ailffurfio’n fuan yn ddiweddarach ni dderbyniodd y band yr un sylw. Petai’r band wedi llwyddo i ryddhau’r albwm gwreiddiol, mae’n bosibl y byddai’r band wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt, ac y byddai hanes gyrfa Tich yn dra gwahanol.

O’r recordiadau gwreiddiol hynny a gynhyrchwyd yn stiwdios Decca, dau drac yn unig a ryddhawyd, sef ‘Tomorrow’ a ‘See You in The Morning My Friend’ yn 1968, y ddau gan Gwilym/Morgan.[10]

Cysylltiadau

Yn ystod y cyfnod hwn, bu Tich yn cyfansoddi ac yn chwarae mewn nifer o fandiau lleol gan gynnwys Sad Sam, The Don Gwills, The Flagonairs, Spike, Just Good Friends, Tiger Bay a The Wrecking Crew.[11] Byddai nifer o’r bandiau hyn yn chwarae gan fwyaf o amgylch y cymoedd ac yng nghlybiau dinas Caerdydd .

Ar wahanol adegau yn ei yrfa, chwaraeodd Tich gyda cherddorion gorau’r ardal, cerddorion a aeth ymlaen i chwarae gyda mawrion y byd cerddorol fel Van Morrison, Paul McCartney a The Who. O’r un cyfnod, ac o’r un ardal, daeth nifer o fandiau Cymraeg dylanwadol iawn fel Budgie, Man, Racing Cars, Lonestar,[12] Sassafras, Memphis Bend a Red Beans And Rice. Chwaraeodd Tich gydag Andy Fairweather Low (Amen Corner, Eric Clapton, Joe Satriani), Dave Edmunds (Love Sculpture), Geraint Watkins (Status Quo, Paul McCartney), Arran Ahmun (Van Morrison, John Martyn, The Proclaimers), a Pino Palladino (The Who, Jools Holland, Jeff Beck). Ynghyd â’r bandiau y sonnir amdanynt maes o law, cafodd Tich sawl cynnig i chwarae mewn bandiau gwahanol, ond gwrthod y cynigion a wnaeth Tich gan fwyaf. Bu’n chwarae ambell gig i Joan Armatrading er enghraifft, ond ni chwaraeodd ar unrhyw un o’i halbymau.

Geraint Jarman a’r sîn Gymraeg (1976-86)

Yng Nghaerdydd ar y pryd, ceid sîn gerddoriaeth fyw gyffrous, gyda bandiau o’r ddinas, o’r bae ac o’r cymoedd yn cymysgu â’i gilydd. Roedd clybiau fel y Moon Club, Casablanca a’r Top Rank yn boblogaidd, lle y cyfarfu cerddor ifanc o’r enw Geraint Jarman â nifer o’r cerddorion a fyddai’n ffurfio ei fand, Y Cynganeddwyr, gydag amser.

Tich yn chwarae ym Mhontrhydfendigaid yn 1975. (Hawlfraint: Alcwyn Evans.)

Ar y pryd, roedd cerddoriaeth Gymraeg yn parhau’n fwy gwerinol a chanol y ffordd na cherddoriaeth Saesneg. Dechreuodd hyn newid gyda bandiau fel Y Blew ac artistiaid fel Meic Stevens. Yn 1969, ffurfiwyd Bara Menyn gyda Heather Jones, Geraint Jarman a Meic Stevens, band a oedd yn dychan cerddoriaeth ‘canol y ffordd’. Yn 1973, ffurfiwyd Edward H. Dafis, a thua’r cyfnod hwn y dechreuodd cerddoriaeth a sîn roc go-iawn yn y Gymraeg.

Ym mis Chwefror 1976, roedd y bardd ifanc Geraint Jarman ar fin recordio ei albwm cyntaf. Bu’n ysgrifennu cerddi a chaneuon i artistiaid eraill fel Heather Jones, ond hwn oedd y tro cyntaf iddo gynhyrchu ei gerddoriaeth ei hun. Bu’n cyd-weithio â ffrind o’r enw Phil Maynard (neu Mignaud) ers ei arddegau. Cynhaliai Phil noson i gerddorion gwerin a beirdd yn y Second Wave Club yng Nghaerdydd, clwb lle y chwaraeai Tich ei gitâr acwstig o bryd i’w gilydd, a gwelodd Geraint Tich yn chwarae yno ar ambell achlysur. Aeth Phil a Tich ymlaen i gydweithio wedi hynny gan ffurfio deuawd ‘Phil & Tich’ a chwaraeai’n rheolaidd yn nhafarn y Royal Oak yng Nghaerdydd.

Daeth Geraint i adnabod dyn o’r enw Des Bennett a oedd yn beiriannydd sain gyda’r BBC, a oedd yn y broses o agor stiwdio newydd ar Stacey Road yng Nghaerdydd. Roedd Des eisiau artistiaid i’w recordio, ac felly roedd yn gyfle gwych i Geraint allu recordio ei albwm cyntaf.

Yn y sesiwn cyntaf, chwaraeodd Geraint Watkins (y chwaraewr piano ac acordion anhygoel), Robert ‘Dodo’ Wilding (a oedd yn chwarae drymiau gyda Racing Cars a Kimla Taz) a Lincoln Carr, a oedd yn chwarae bâs gyda Memphis Bend a Red Beans and Rice.

Ar ôl y sesiwn cyntaf, penderfynodd Phil nad oedd yn teimlo’n gyfforddus yn chwarae’r rhannau unigol ar y caneuon ac felly ar gyfer yr ail sesiwn, estynnodd wahoddiad i’w ffrind Tich chwarae hefyd. Pan gyfarfu Geraint â Tich am y tro cyntaf, cerddodd Tich i mewn i’r stiwdio a gofyn ‘All right butt? ... What do you want me to do?’, a dyna ddechrau ar berthynas oes.[13]

Hefyd yn 1976, recordiwyd yr albwm Jiawl! gan Heather Jones gyda nifer o’r un cerddorion gan gynnwys Tich, a thrwy hynny daeth Tich yn fwy ymwybodol o’r sîn Gymraeg ac yn rhan ohoni.

Dros y flwyddyn ganlynol, daeth Geraint a Tich yn ffrindiau ac âi’r ddau ati i rannu recordiau. Un cerddor a ddylanwadodd yn fawr ar Tich o ganlyniad i hynny oedd Nils Lofgren a chwaraeai gyda Neil Young ar y pryd, ac yn ddiweddarach Bruce Springsteen. Roedd Tich wrth ei fodd ag arddull Lofgren, a dechreuodd efelychu ei arddull.

Tra bod perfformiad Tich ar Gobaith Mawr Y Ganrif (Geraint Jarman) yn un proffesiynol, nid tan iddo chwarae ar ail albwm Geraint, Tacsi i’r Tywyllwch, yn 1977 y cafodd gyfle i arddangos ei dalentau. Mae Geraint ei hun yn dweud i Tich ddylanwadu’n fawr ar yr albwm, yn enwedig ar draciau fel ‘Tacsi i’r Tywyllwch’, ‘Y Dyn Oedd Yn Hoffi Pornograffi’ ac ‘Ambiwlans’:

Ar ambell gân, efo cerddor arbennig, maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth a dyna wnaeth Tich.[14]

Yn wahanol i gitâr Setup Stratocaster arferol Tich, defnyddiodd Tich Les Paul ar ‘Y Dyn Oedd Yn Hoffi Pornograffi’ a Telecaster ar ‘Ambiwlans’.

Gig gyntaf Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr oedd y rhyng-gol yn Aberystwyth yn 1977. Bu rhai gigs cyn hynny ond yn y flwyddyn honno y sefydlwyd y band go-iawn. Y Cynganeddwyr gwreiddiol oedd Tich, Ronald ‘Cat’ Croxford, Richard Dunn a John Morgan.

Soniai Geraint fod y cyfnod hwn yn gyffrous ac y dangoswyd llawer o frwdfrydedd tuag at y band. Deuai cynulleidfaoedd mawr i’w gweld, mwy na chynulleidfaoedd bandiau lleol Saesneg ei hiaith. Er y bu llawer o gigs a’r band yn mynd o nerth i nerth, roedd Tich yn parhau i chwarae i nifer o fandiau eraill ac yn cael cynigion i chwarae i fandiau mawr poblogaidd. Roedd cerddoriaeth Geraint hefyd yn wahanol i’r hyn a berfformiai Tich fel arfer, sef blues a roc arferol. Roedd gan Geraint ddiddordeb mewn bandiau New Wave fel Television a Talking Heads a cherddoriaeth reggae.

Racing Cars (1978/79)

Tua diwedd 1978, ar ôl recordio albwm Hen Wlad Fy Nhadau gyda Geraint Jarman, gadawodd Tich y band am chwe mis er mwyn chwarae a theithio gyda’r band Racing Cars. Cafodd y band lwyddiant mawr gyda’r gân ‘They Shoot Horses Don’t They?’. Chwaraeodd y band hefyd ar raglenni’r BBC Top of the Pops yn 1977,[15] a The Old Grey Whistle Test[16] ar 14 Rhagfyr 1976 a 2 Ionawr 1979[17] (pan chwaraeodd Tich gyda hwy).[18] Ar ôl chwe mis, dychwelodd Tich i Gymru gan adael y Racing Cars a chwarae unwaith eto gyda Geraint Jarman.

Recordiodd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr sawl albwm llwyddiannus iawn, sef Gwesty Cymru (1979), Fflamau’r Ddraig (1980), Diwrnod i’r Brenin (1981) a Macsen (1983).

Mochyn ‘apus (1983)

Casét Mochyn 'Apus, Mas O'i Ben Bob Nos (1983).

Bu’r cerddor a’r actor Dewi ‘Pws’ Morris yn ffrindiau gyda Tich a Geraint Jarman ers dechrau’r 1970au, a phan ofynnodd Dyfed Thomas i Dewi a fyddai’n ystyried chwarae mewn band newydd, ei ateb oedd ‘Dim ond os ma’ Tich yn chwarae ynddo fe’.[19] Felly gofynnwyd i Tich a dyna ddechrau ar y band Mochyn ‘apus.

Aelodau’r band oedd Dyfed Thomas, Dafydd Pierce, Dai Watkins, Dewi Pws a Tich. Roedd y gerddoriaeth yn arbrofol ac yn croesi ffiniau cerddoriaeth roc datblygedig (prog) a blues/roc cyffredin, ac yr oedd naws theatrig i’w perfformiadau. Soniodd Dewi fod y band yn llawer o hwyl a bod hiwmor yn rhan bwysig iawn o’r holl beth. Byddai Dewi a Tich yn aml yn dynwared cymeriadau Cato a Clouseau allan o Pink Panther Peter Sellers, a Tich yn defnyddio ei allu Aikido i daflu Dewi ar draws y llawr. Byddai Tich yn sôn am ei realm, a phe byddai Dewi yn mentro cerdded i mewn i realm Tich, byddai Tich yn gorfod ei amddiffyn ei hun.

Roedd Tich hefyd yn dwli ar ffilm John Hefin ar Joseph Parry o'r enw Off To Philadelphia In The Morning lle'r oedd Dewi Pws yn actio cymeriad o’r enw Robbie. Ceir llinell yn y ffilm: ‘But where does the music come from?’. Roedd y llinell hon wedi cyffwrdd â Tich, a byddai’n aml yn dynwared y llinell hon wrth chwarae rhywbeth cyflym ar y gitâr, ac yna’n gofyn i Dewi, ‘Yeah, but where does the music come from?’.

Cynhyrchwyd recordiad gan Dafydd Pierce yn ei Stiwdio 123 yng Nghaerdydd, ac er i’r band gael rhywfaint o lwyddiant i ddechrau, cyrhaeddodd y band ddiweddglo naturiol ar ôl tua chwe mis, gyda’r aelodau’n mynd ymlaen at brosiectau gwahanol. Parhaodd perthynas Tich â Dafydd Pierce a stiwdio 123, gyda Tich yn gwneud sawl recordiad yno yn ystod y cyfnod hwn.

Los Ionisos

Tua 1983, cyfarfu Tich â Mario Gaete, cymeriad o Chile a ffodd o’i famwlad a oedd o dan reolaeth Pinochet ar y pryd. Roedd Mario yn feistr ar y charango, sef offeryn traddodiadol o Dde America (offeryn bach tua maint mandolin gyda phedwar pâr o linynnau wedi’u trefnu’n debyg i gitâr 12 tant).

Datblygodd cyfeillgarwch rhwng Mario a Tich, gyda Mario’n dysgu alawon traddodiadol o Chile i Tich ar y charango. Ar ôl cyfnod byr, meistrolodd Tich y grefft o chwarae’r charango mor dda nes i Mario gyflwyno ei charango ei hun i Tich gan ddweud ‘You are the Guru now’. Yn ystod y cyfnod hwn, ffurfiodd Mario, Tich a Claudio Perut fand o’r enw Los Ionisos (The Ionizers), band a oedd yn canolbwyntio ar chwarae alawon traddodiadol Chile yng Nghymru.[20] Bu perfformiadau yn y cyfryngau a rhyddhawyd casét ar Label 123. Mae’n debyg i Tich weld peiriant ionizer yn y stiwdio ac felly dyma gyfieithu hwn i Los Ionisos, gan barhau â thraddodiad Tich o roi enwau ysgafn a doniol i’w fandiau. Yn dilyn y profiad hwn, parhaodd Tich i chwarae’r charango’n gyson, yn enwedig gyda’r cerddor Siân James, lle y byddai’n ei chwarae’n fyw ac ar sawl un o’i recordiadau.

Gwaith cyfryngol

Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Tich dderbyn llawer o waith yn y cyfryngau Cymraeg. Bu’n cyfansoddi a pherfformio’r gerddoriaeth gefndirol ar gyfer y rhaglen boblogaidd i blant Ffalabalam, a byddai’n aml yn chwarae darnau offerynnol ar raglenni’r cyfnod. Bu’n chwarae ar nifer o recordiau fel 'Dwylo Dros y Môr' a seiliwyd cymeriad arno mewn cartwn o’r enw Hanner Dwsin (y bu’n gyfrifol am gyfrannu at y gerddoriaeth).

Bywyd teuluol

Priododd Tich â merch o’r enw Heather yn ystod y 1970au, a ganwyd iddynt bedwar o blant, sef James, Daniel (a fu farw yn ugain oed), Hank a Rosie. Yr oedd ei berthynas â Heather o dan straen cynyddol wrth i Tich ei chael hi’n anodd cadw’r cydbwysedd rhwng bod yn gerddor a thad cyfrifol. Tua blwyddyn ar ôl genedigaeth Rosie yn 1987, daeth yn amlwg bod y pwysau’n ormod i Tich a gadawodd ei wraig a’r plant er mwyn byw ar ei ben ei hun.

Ymhen ychydig amser, cyfarfu Tich â chariad newydd a symud o Gaerdydd i Tonypandy nid nepell o Benygraig, lle y’i magwyd. Cafodd swydd yn gweithio i’r DHSS, neu’r swyddfa Canolfan Waith. Gwerthodd lawer o’i gitârs a’i offer a dyma gyfnod tawelaf Tich o ran chwarae, lle y bu’n canolbwyntio ar ennill arian er mwyn cynnal ei blant.

Yn rhannol oherwydd y newidiadau hyn ym mywyd personol Tich, mae’n bosibl iddo’n raddol golli diddordeb mewn chwarae gyda Geraint Jarman. Gofynnai Tich i Neil White berfformio’r rhannau unigol ar albymau Jarman yn ei le. Ar ôl albwm Enka (1985), ni welodd Geraint Tich heblaw am yr adeg pan chwaraeodd Tich fel offerynnwr gwadd ar Cerddorfa Wag yn 1987. Nid oedd ar gael chwaith i gigio fel y bu yn y gorffennol.

Yn ddiweddarach, ganwyd iddo ferch o’r enw Megan gyda phartner arall.

Superclarks a’r Royal Oak

Yn ystod yr wythdegau, daeth tafarn y Royal Oak fel ail gartref i Tich. Bu’n chwarae yno’n gyson gyda Phil Mignaud, ac fel 'Phil and Tich' y byddent yn perfformio cerddoriaeth acwstig. Deuai pobl yn gyson i’w gweld.

Yn ôl Adrian Gwilliam, brawd iau Tich, gofynnodd Burke Shelley i Tich ar sawl achlysur i ymuno â’r band Budgie,[21] a phan aeth pethau’n dawel i Budgie yn yr wythdegau, gofynnodd Burke Shelley i Tich ymuno ag ef mewn band newydd yng Nghaerdydd o’r enw’r Superclarks. Bu’r Superclarks yn chwarae’n gyson yn y Royal Oak ar nos Iau a nos Sul yng Nghaerdydd wedi hynny, gan chwarae covers roc a blues ac ambell gân wreiddiol.

Soniai pobl fod Tich fel brenin ar ei gastell yn y Royal Oak ac roedd yn hapus ei fyd yno. Meddai Dafydd Pierce mai un rheol oedd gan Tich pan oedd yn chwarae gigs gyda Mochyn ‘apus yn y gogledd, sef ei fod yn gorfod bod nôl yn y Royal Oak mewn pryd i allu chwarae set nos Sul.

Trwy gigs cyson, datblygodd parch a chyfeillgarwch rhwng y bandiau Maffia Mr Huws a Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr. Roedd y ddau frawd Siôn a Gwyn Jones (y ddau’n chwarae i’r band Maffia) yn edmygwyr mawr o Tich ac felly roedd Gwyn wrth ei fodd pan gafodd wahoddiad i chwarae drymiau i’r Cynganeddwyr am gyfnod.

Trwy’r cyswllt hwn yn ei dro, rhoddodd Tich wahoddiad i Gwyn ymuno â’r Superclarks, a dechreuodd Gwyn chwarae’n gyson â’r band tua diwedd yr wythdegau. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, daeth yr artist Siân James, partner Gwyn, i adnabod Tich wrth ei wylio’n chwarae yn nhafarn y Royal Oak.

Siân James

Clywodd Tich Siân James yn canu, ac estynnodd wahoddiad iddi chwarae yn y Royal Oak. Meddai Siân iddi fod ag ofn canu yno oherwydd mai tafarn feicwyr oedd y Royal Oak, ond cymaint oedd parch y gynulleidfa yno tuag at Tich, tawelodd y dafarn er mwyn clywed y gantores yn canu a chwarae ei thelyn.

Cyfrannodd Tich at nifer o albymau Siân yn ystod y cyfnod hwn, gan chwarae gitâr acwstig a’r charango gan fwyaf. Meddai Siân fod Tich wrth ei fodd pan dderbyniodd wahoddiad yn 1998 i fynd allan i Tokyo ar daith. Roedd Tich yn dwli ar ddiwylliant Siapaneaidd ar ôl astudio Aikido hyd at lefel uchel iawn, first dan,[22] felly roedd wrth ei fodd yno a Siân yn dweud ei fod yn wên o glust i glust gydol yr amser.

Bu ychydig o ddryswch ar y daith wrth i’r ŵyl fawr Geltaidd y’u gwahoddwyd iddi fynd â’i phen iddi. Er hyn, cafodd band Siân eu talu oherwydd eu nawdd gan y cwmni JVC (yn wahanol i fandiau eraill). Er na chwaraeodd y band yng ngig mawr yr ŵyl, nid oedd gwahaniaeth gan Tich gan fod y profiad o fod yn Siapan yn freuddwyd iddo.

Mae Tich yn chwarae ar sawl albwm gan Siân James, a bu’n chwarae gigs byw gyda Siân James a Gwyn Jones am weddill ei yrfa.

Ailafael gyda Geraint Jarman

Tich yn chwarae yn y Faenol yn 2002. (Hawlfraint: Gerallt Llewelyn.)

Ar ôl 1987, ni welodd Geraint Tich am flynyddoedd. Bu Geraint ei hun yn brysur yn gweithio yn y cyfryngau fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr, felly pan ysgrifennodd ei albwm Rhiniog yn 1992, roedd yn gyfle unwaith eto i’r ddau gydweithio.

Pan welodd Geraint Tich am y tro cyntaf wedi nifer o flynyddoedd, meddyliodd ei fod yn dawel ac nid yr un person. Daeth i’r stiwdio gyda’i ffrind Mike Monk a Mike yn aml oedd yn siarad ar ei ran.[23]

Er nad oedd y band yn gigio mor gyson â’r hyn a wnâi’r Cynganeddwyr yn ystod y 1970au a’r 1980au, cafwyd ambell gig mawr. Yn 1991, cynhaliwyd gig gan Gymdeithas yr Iaith, ‘Rhyw Ddydd Un Dydd’, ym Mhontrhydfendigaid, a chwaraeodd y band tua chwe chân.

Ni chwaraeodd Tich ar yr albymau Y Ceubal, Y Crossbar a’r Quango (1994) a Sub Not Used (1998), lle y cymerodd y gitarydd Peredur ap Gwynedd yr awenau.

Yn 1998, perfformiodd y band llawn ar lwyfan Maes B o flaen torf o dros fil o bobl, gyda Tich ar y gitâr flaen. Ar ddechrau’r mileniwm, chwaraeodd y band yng Ngŵyl y Faenol ym Mangor ac yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod yn 2003.

Dechreuodd Geraint a Tich wneud gigs acwstig fel deuawd gyda Geraint yn adrodd cerddi a chanu. Mae Geraint yn cofio’r cyfnod hwn ar ôl y mileniwm fel cyfnod adeiladol o ran ei berthynas â Tich. Yn ogystal â chwarae mewn gigiau acwstig gyda Geraint a Siân ar droad y mileniwm, roedd Tich mewn band o’r enw Mrs. Huggett, a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghaerdydd.

Bywyd personol

Er i Tich adael yr ysgol yn ifanc, tua 16 oed, roedd yn amlwg yn alluog. Byddai’n taflu ei hun yn llwyr i mewn i’r hyn a wnâi, a deuai’n feistr o fewn byr amser. Roedd yn dda iawn yn chwarae gwyddbwyll a snwcer, er enghraifft. Diddordeb arall a oedd yn obsesiwn gan Tich oedd y brwydrau Napoleanaidd. Gwyddai bob dim am bob brwydr a byddai’n ail-greu brwydrau. Mae Gwyn Jones yn sôn am un tro y gwnaeth Tich iddo wylio ffilm Napoleon gan Abel Gance am frwydr Waterloo a oedd yn bedair awr o hyd, gyda Tich yn rhoi sylwebaeth drwy’r ffilm am beth oedd enw pob bryn am iddo wylio’r ffilm gynifer o weithiau. Roedd Tich yn hoff o ffilmiau ac yn aml byddai’n ailadrodd llinellau golygfeydd cyfan o ffilmiau air am air. Roedd yn hoff o ffilmiau Mel Brooks yn enwedig, fel The Producers.

Daeth y grefft ymladd Aikido’n bwysig iawn i Tich yn gorfforol, ond yn bwysicach yn feddyliol ac athronyddol. Sonia Gwyn Jones am adegau tawel pan fyddai’n aros rhwng prawf sain a gig yn Nhalarcharn, lle yr anelai Tich at y lleuad gyda darn o bren. Ceisiai ddysgu Gwyn i ymlacio wrth symud y darn pren i gael symudiad llyfn. Wrth ddysgu’r grefft o Aikido, mae’n debyg i Tich ddysgu yn gyflym a chyrhaeddodd safon uchel iawn. Dywedodd Geraint y byddai’n gorfod gwneud ei ‘one hundred cuts a day’ bob dydd. Mae’n rhwydd gweld sut y siapiwyd cymeriad Tich gan ddisgyblaeth ac athroniaeth Aikido. Helpodd y gwaith corfforol hefyd i’w gadw’n egnïol drwy gydol ei yrfa.

Un o gitârs cynnar Tich Gwilym

Roedd Tich yn adnabyddus am allu gosod Stratocaster yn berffaith, a byddai pobl yn aml yn dod a gitârs ato i’w gael ef i’w gosod. Pan oedd yn ifanc, bu ef a’i frawd yn adeiladu gitârs gan greu y ‘Stratotel’, sef cyfuniad o Stratocaster a Telecaster.

Byddai Tich yn taflu ei hun i mewn i bob gig gan rhoi pob ymdrech ac egni i mewn iddynt. Er y byddai Adrian, brawd Tich, yn dweud y gallai fod yn ychydig o wimp ar adegau (gan ddymuno cael plaster am y cwt lleiaf), mynnodd gwblhau gig yn Tito’s yng Nghaerdydd tua 1978[24] ar ôl iddo ddioddef dadchwyddiad ysgyfaint (collapsed lung) cyn iddo ddechrau. Ar ôl y gig, aeth Tich i’r ysbyty a gorfu iddo gael llawdriniaeth; roedd craith fawr ar ei gefn o ganlyniad.

Nid oedd gan Tich agenda nac ego. Fel y soniai pawb a gyfarfu ag ef, roedd yn berson diymhongar. Siaradai â phobl ifanc am sut i osod gitarau a rhoddai wersi i bobl weithiau ar adeg hanner amser yn y Royal Oak.

Fel nifer o artistiaid, gwendid Tich oedd ei fod yn taenu ei hun yn rhy denau ac yn gwneud gormod ar adegau. Dywedodd Mike a Geraint ei fod yn gorfod edrych ar ôl Tich y tu allan i’w fywyd cerddorol ac na lwyddai i gymryd cyfrifoldeb dros ei hun. Mae’n bosibl mai hynny a greodd broblemau mewn sawl cyfeillgarwch a pherthynas a gafodd dros y blynyddoedd, ac er bod pawb yn hoff iawn ohono, gallai fod yn berson rhwystredig iawn ar adegau hefyd.

Gallai’r agwedd benderfynol, unllygeidiog honno a oedd yn gwneud Tich yn feistr ar y gitâr hefyd wneud Tich yn berson hunanol na allai gynnal perthynas yn dda iawn. Collodd gysylltiad â nifer o’i ffrindiau agosaf ac aelodau o’r teulu. Bu’n cymysgu â ffrindiau newydd ar ddiwedd ei fywyd lle y bu cyffuriau’n rhan o’r diwylliant. Mae’n debyg fod Tich wedi dirywio’n gorfforol ac roedd ei chwarae’n dechrau dioddef ychydig hefyd o ganlyniad.

Wrth roi cant y cant i mewn i un peth, mae pethau eraill yn gorfod dioddef. Yn achos Tich, ei ffrindiau a’i deulu a ddioddefodd.

Ei Gymreictod

Roedd Tich Gwilym yn berson teimladwy, cymhleth, ac enigmatig ac felly mae’n anodd crynhoi nodweddion ei gymeriad. Roedd yn amlwg yn falch iawn o’i Gymreictod a’i fagwraeth yn y cymoedd, ac er nad oedd yn medru siarad llawer o Gymraeg, roedd ymateb y gynulleidfa Gymraeg yn golygu llawer iawn iddo.

Mae Tich yn enwog iawn am chwarae’r anthem ar ddiwedd gigs Geraint Jarman, traddodiad a ddechreuodd ar hap a damwain ar ddechrau cyfnod Y Cynganeddwyr. Ar ddiwedd set, cerddai Geraint oddi ar y llwyfan a’r band yn parhau i chwarae mewn arddull fyrfyfyr. Un noson, dyma Tich yn ymuno yn yr anthem gyda’i gitâr, ac ar ôl hynny, daeth yn draddodiad i orffen pob gig yn y modd hwnnw. Yn arwyddocaol hefyd yn ôl Gwyn Jones, byddai’n gorffen gigs yn y Royal Oak yn aml gyda’r anthem. Ar y dechrau, teimlai gyffro mawr o gael chwarae’r anthem, a ffoniodd ei fam i ddweud ‘Mam, I played the anthem!’, ond yn ddiweddarach teimlai ei fod yn fwrn arno ar adegau hefyd.

Wrth chwarae mewn gig Cymraeg unwaith, dywedodd Tich wrth Siôn Jones, ‘this is what we have lost’ a theimlai falchder o gael y profiad o fod yng nghanol y Cymry Cymraeg. Byddai Tich hefyd yn amddiffyn y Gymraeg gan ddweud ‘this is what it is, this is what we do’ fel ymateb i’r cwestiwn beunyddiol (fel y gofynnodd cariad Tich yn 2005), ‘Oh this is great, why don’t you do it in English?’.[25]

Cafodd llefydd fel Llechwedd Nantlle argraff fawr arno, mwy na thebyg oherwydd ei fod yn gallu uniaethu â’r chwarelwyr ag yntau’n dod o ardal lofaol. Sonia Geraint am y tro y bu’r band yn aros mewn bwthyn yno, ac ysgrifennodd Tich ddarn i’r gitâr acwstig o’r enw ‘Llechwedd Nantlle’.[26]

Sonia Mike Monk am achlysuron lle] y byddai’n cael trafferth wrth chwarae yn y gogledd pan fyddai pobl ond yn siarad Cymraeg â hwy, ac yn anhapus am na fyddent yn siarad Cymraeg yn ôl. Sonia brawd Tich hefyd na chymerai gymaint â hynny o ddiddordeb yn yr iaith a bod gig Geraint Jarman fel unrhyw gig arall yn y bôn. Serch hynny, mae’r ddau’n gytûn – heb os – ei fod yn Gymro balch iawn.

Mae’n siwr fod y gwirionedd rywle yn y canol; tybir mai gigs fel unrhyw gig arall oeddent ar y dechrau, ond ceir yr argraff o’r ffordd y derbyniodd Tich wobrau a diolch yn y Gymraeg (‘hoffwn ddweud diolch yn fawr i chi gyd’ meddai Tich pan dderbyniodd wobr offerynnwr y flwyddyn gan y cylchgrawn Sgrech yn 1980) a’r ffaith iddo barhau i chwarae i’r bandiau Cymraeg, bod Tich yn gweld gwerth mawr mewn chwarae yn y sîn Gymraeg, ac mae Gwyn Jones yn bendant ei fod yn bwysig iawn i Tich iddo gael ei dderbyn gan y gynulleidfa Gymraeg. Derbyniodd James, mab Tich, wobr RAP Cyfraniad Arbennig ar ran ei dad yn 2006, sy’n fesur o’r parch oedd gan y Cymry Cymraeg tuag ato.

Nid oedd Tich yn wleidyddol, a chredai’n gryf mewn cerddoriaeth fel iaith ryngwladol:

It’s all music. It doesn’t matter what language you are singing it in. If it comes across and you give it one hundred percent ... Nothing wrong with that is there?[27]

Ar sawl achlysur, soniai Tich mewn manylder am gigs Corwen ac am y swn a’r cyffro oedd yno. Soniai bron nad oedd yn deall y cyffro, ond fel artist roedd yn ei fwynhau’n fawr ac yn amlwg yn byw oddi ar y cyffro a’r egni hwn.

Mae’n bosib na chwaraeodd Tich lawer y tu allan i Gymru oherwydd rhesymau personol/teuluol neu ddiffyg uchelgais a hyder. Er hynny, mae’r ffaith iddo ddewis parhau i chwarae i’r bandiau Cymraeg hefyd tan y diwedd yn rhoi rhywfaint o fesur o’i falchder Cymreig.

Marwolaeth

Ar 19 Mehefin 2005, bu farw Tich mewn tân yn nhy ffrind iddo yng Nghaerdydd. Dyfarnwyd yn ddiweddarach mai marwolaeth ddamweiniol ydoedd o ganlyniad i effeithiau mwg ar ôl i gannwyll ddisgyn mewn ystafell ymolchi.

Bu’r sylwadau am ei farwolaeth a’r golled i’r genedl yn fesur yn ei hun o’i boblogrwydd. Mae’n drawiadol fod nifer y sylwadau oddi wrth bobl Cymraeg a di-Gymraeg cyn gymaint â’i gilydd. Ac er, efallai, nad oedd y bobl hynny wedi cymysgu’n uniongyrchol â’i gilydd, llwyddodd Tich i bontio’r ddwy garfan o Gymry. Mae’n anodd meddwl am artist arall a fyddai wedi ennyn yr un ymateb.

Daeth torf helaeth i’r angladd, nifer o’r dorf yn artistiaid adnabyddus fel Dave Edmunds ac aelodau o Budgie a Man ynghyd â bandiau y chwaraeodd Tich iddynt. Gorffennwyd y seremoni gyda fersiwn Tich o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn atseinio, eiliad ddirdynnol a fydd yn aros yng nghof pawb a oedd yno.

Casgliadau

Felly, sut mae mesur cyfraniad Tich Gwilym i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg? Gall barn am allu cerddorol a chymeriad rhywun wrth gwrs fod yn bersonol, ond pan edrychir ar y dystiolaeth yn ei gyfanrwydd, credaf ei fod yn hollol briodol fod Tich Gwilym yn cael ei adnabod fel eicon Cymraeg ac un o’r gitaryddion gorau o Gymru, os nad y byd. Nid yw recordiadau bob tro’n gwneud cyfiawnder ag artistiaid sy’n byw yn y foment ac yn byw oddi ar egni cynulleidfa, ac felly wrth wrando ar hen recordiadau Tich clywir fflachiadau o’i allu cerddorol, ond nid yw’n ddigon i wneud cyfiawnder ag ef fel cerddor. Rwy’n teimlo y gellir mesur ei safon yn ôl y cwmni a gadwai, y cerddorion a oedd yn ei edmygu a’r cerddorion a ofynnai iddo chwarae gyda hwy. Nid oes amheuaeth y gallai fod wedi chwarae o amgylch y byd oherwydd ei dalent.

Flwyddyn ar ôl marwolaeth Tich, trefnwyd gig gan ei ffrind Mike Monk yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd i gofio amdano, ac i godi arian ar gyfer cronfa i helpu talentau cerddorol ifanc. Roedd y ffaith i 80 o fandiau gysylltu er mwyn mynegi eu dymuniad i chwarae yn y gig yn fesur o boblogrwydd Tich. Yn y diwedd bu’n rhaid cwtogi’r nifer i saith, gan gynnwys Racing Cars, Snatch It Back a Man.

Daeth cannoedd o bobl i’w angladd, gan gynnwys cerddorion mwyaf blaengar Cymru ac o amgylch y byd.

Trwy arddangos ei dalent o safon ryngwladol, danfonodd neges i gynulleidfaoedd Cymru, gan ddweud bod y Cymry Cymraeg gystal â phawb arall, ac o ganlyniad mae’n siwr iddo ysbrydoli a chodi safon cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd sy’n anodd ei fesur. Ceid agweddau yn y 1970au y dylai pob aelod o fand mewn gig Cymraeg allu siarad Cymraeg. Trwy ddangos hyder a pharhau i chwarae, adeiladodd Tich bont rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg gan ddweud ‘it’s all music’, ac erbyn hyn mae’r agweddau hyn wedi newid. Roedd gan Tich hyder a pharch yng ngherddoriaeth artistiaid megis Siân James, Heather Jones a Geraint Jarman a hwythau yn ei ddawn offerynnol safonol ef, a thrwy hynny datblygwyd parch ehangach o du’r di-Gymraeg at gerddoriaeth Gymraeg gan hefyd gyrraedd y tu hwnt i Glawdd Offa. Mae’n siwr i hyn fod yn gymorth i’r bandiau a ddilynodd (fel y Super Furry Animals a Catatonia) i gael llwyddiant.

Tra ceir rhywfaint o wrth-ddweud am wahanol agweddau ar ei gymeriad a gwahanol brofiadau o fod yn ei gwmni, mae pawb yn unfrydol ei fod yn athrylith ar y gitâr ac yn athrylith fel cerddor. Pan holwyd Peredur ap Gwynedd yn lle y byddai Tich yn sefyll o’i gymharu â’r goreuon, ei ymateb oedd:

Ma' Tich dal yn un o fy hoff gitaryddion, ac rwy’n ei glodfori yr un maint â phobl fel Stevie Ray Vaughan, Jimmy Page, Jimi Hendrix ...” Tich oedd y rheswm nes i ddechrau chwarae’r gitâr. Nes i weld e’n fyw pan o’n i’n 9 mlwydd oed, a nes i benderfynu taw gitâr o’n i’n mynd i chwarae ar ôl y diwrnod ’na.

Mae Mike Monk yn sôn am gigs y chwaraeodd Tich ynddynt er mwyn cefnogi Peter Green, un o gitaryddion blues mwyaf y byd. Peter Green a ysgrifennodd Albatross gyda Fleetwood Mac a nifer o ganeuon blues enwog eraill. Mewn gig yng Nghanolfan Hamdden Gorseinon rai blynyddoedd cyn i Tich farw, safodd Peter Green ddeng troedfedd oddi wrth Tich gan syllu arno drwy gydol y gig; roedd wrth ei fodd gyda’i chwarae ac yn cofio Tich ers pan oedd yn fachgen yn chwarae gyda Kimla Taz. Ceir nifer o storïau tebyg gan fandiau a cherddorion byd enwog am Tich, sy’n fesur o’i fawredd fel cerddor.

Ein hetifeddiaeth yw’r safon a’r ymroddiad diflino y dangosodd i’w offeryn a’i grefft. Yn berson diymhongar, gadawodd i’r gerddoriaeth siarad ar ei ran. Bydd yn bren mesur teilwng i bob aelod o fand o Gymru yn y dyfodol, boed yn Gymraeg ei iaith ai peidio.

Atodiadau

Atodiad 1: Offer

Sain drydanol yn gyffredinol

Yn nhraddodiad chwaraewyr blues y cyfnod, cadwai Tich at yr offer angenrheidiol yn unig, mwy na thebyg gyda’r meddylfryd o gadw trywydd y sain mor bur â phosibl. Ar gyfer gitâr drydanol, defnyddiai setup tebyg i hyn:

Fender Stratocaster > Vox Distortion Pedal > Watkins Tape Echo (ar gyfer caneuon fel ‘Gwesty Cymru’) > Mwyhadur VOX AC 30 (TOP BOOST).

Defnyddiai fwyhaduron a phedalau gwahanol, ond fel arfer roedd y setup cyffredinol yr un peth, sef mwyhadur valve, Stratocaster a phedal distortion/overdrive.

Fel arfer, chwaraeai’n uchel iawn er mwyn galluogi iddo gael y feedback angenrheidiol i gynnal nodau hir, a oedd yn rhan nodweddiadol o’i dôn unigryw.

Gitarau trydan

Cysylltir Tich â’r Stratocaster yn bennaf ond defnyddiodd sawl gitâr yn ystod ei yrfa. Dyma rai o’r gitarau a chwaraeai:

  • Stratocaster Japanese Vintage Squire lliw pinc, 1983.
  • Fender Stratocaster 1977 du gyda scratchplate gwyn a gwddf masarnen (defnyddir hon ar ‘Ethiopia Newydd’ a ‘Gwesty Cymru’).[28]
  • Stratocaster naturiol
  • Stratocaster Sunburst
  • Telecaster (defnyddir hon ar ‘Ambiwlans’)[29]
  • Les Paul (defnyddir hon ar ‘Y Dyn Oedd Yn Hoffi Pornograffi’)[30]
  • Hen gitâr trydan coch gydag un cipyn (pickup)[31]
  • Stratocaster coch newydd.[32]

Roedd Tich yn hoff o’r gitarau Japanese Vintage Squire[33], fersiwn rad o’r Stratocaster llawn gan Fender. Yn ddiweddarach, chwaraeai’r Stratocaster naturiol gan amlaf. Roedd ganddo nifer o gitarau yr adeiladodd ei hun a rhai a adeiladodd ar y cyd â’i frawd Adrian. Mae’n fwy na thebyg mai un o’r rhain sydd ar y llun cynnar o’r band Tich Beck Reunion.

Roedd Tich yn feistr ar osod y Stratocaster, a byddai nifer o gitaryddion ifanc yn gofyn iddo i’w gosod yn iawn. Yn ôl Siôn Jones, byddai’n gosod pont y tremolo yn is na’r hyn a argymhellir gan gwmni Fender, gan adael dim ond digon o le i ddyfnder plectrwm ffitio o dan y bont, h.y. yn agos i gorff y gitâr ond heb gyffwrdd.

Gyda’i brofiad o adeiladu gyddfau i’r gitârs gyda’i frawd a oedd yn saer coed, gwyddai Tich yn reddfol a oedd angen ffeilio cribell (fret) benodol ar gitâr.

Roedd Siôn yn dweud iddo chwarae ambell un o gitarau Tich a’u bod yn rhwydd ac yn llyfn i’w chwarae. Roedd y tremolo hefyd yn symud yn rhwydd ac yn ddiffwdan.


Effeithiau

  • Pedal fuzz[34]
  • Pedal Vox Distortion (siâp V)
  • Big Muff[35]
  • Watkins Tape Echo
  • Pedal octave
  • Ibanez Tube Screamer TS-808[36]

Yr hyn sy’n drawiadol yma yw na ddefnyddiai bedal ‘wah-wah’ yn aml o gwbl, yn wahanol i Jimi Hendrix a Eric Clapton.

Mwyhaduron

  • Vox AC30 (top boost) – sawl un dros y blynyddoedd.
  • Hi-Watt Head i mewn i gabinet seinyddion 4 x 12.
  • Mesa Boogie brown[37]

Tannau: Pwysau 10 h.y. .010, .013, .017, .026, .036, .046.

Gitarau acwstig: Roedd ganddo wahanol gitarau ac mae’n chwarae gitâr 12 llinyn ar ambell drac. Y brif gitâr acwstig oedd ganddo oedd Epiphone J200 neu rywbeth tebyg (mae’n bosibl mai oddi wrth Meic Stevens y daeth hwn yn wreiddiol).

Arall: Charango

Atodiad 2: Yn y stiwdio

Tra bod nifer o recordiadau o Tich, roedd Tich ar ei orau yn chwarae’n fyw, yn ymateb i gynulleidfa. Dywedodd Siân James y teimlai fod Tich yn gweld gwaith stiwdio gyda hi’n anodd a’i fod yn teimlo bod pwysau arno i berfformio. Mae’n bosibl nad ymatebai gonestrwydd artistig Tich yn dda i awyrgylch annaturiol y stiwdio, a oedd yn ei wneud yn anodd iddo fod yn greadigol.

Atodiad 3: Techneg

Roedd Tich yn feistr ar bob math o dechnegau ar y gitâr, ac yn gallu eu cyflawni’n ddiymdrech yng nghanol caneuon. Er mai sylfaen y blues oedd i’w arddull chwarae, gallai addasu i chwarae reggae, canu gwlad a roc trwm i safon uchel iawn. Ar yr acwstig, gallai chwarae cordiau cyffredin neu chwarae â’r bysedd ac roedd yr un mor gyfforddus yn chwarae unawd ar y gitâr acwstig a’r gitâr drydan. Gallai chwarae gyda gwddf potel neu slide yn dda iawn a gallai efelychu arddull Robert Johnson yn berffaith.

Mae nifer o bobl wedi canmol gallu Tich i chwarae rhythm yn rhagorol gyda’i law dde. Roedd yn ddrymiwr da iawn mae’n debyg ac mae’n amlwg i hyn roi dawn amseru iddo.

Rhai technegau nodweddiadol

Pinch harmonics – chwarae’r nodyn gyda’r plectrwm a’r bys yn cyffwrdd y llinyn i greu’r harmonig (enghraifft ar ‘Ambiwlans’).

Violining – defnyddio’r rheolydd sain ar y gitâr i dorri dechrau’r sain i ffwrdd.

Defnydd o dannau agored (enghraifft ar ‘Cwn Hela’).

Rhediad tripledi (enghraifft ar ddiwedd ‘Cae’r Saeson’).

Yn dilyn, ceir esiamplau o arddull chwarae Tich ar gyfer gitaryddion er mwyn arddangos rhywfaint o’i syniadau. Y bwriad yma yw dangos rhai o’i dechnegau a’i syniadau fel man cychwyn gan obeithio y bydd yn ysbrydoli gwrando mwy treiddgar.

Ceir enghraifft lawn ac enghraifft heb gitâr (trac cefndirol) ar gyfer ymarfer. Ceir sgôr a TAB i bob unawd. Tra bod y rhain yn rhoi rhywfaint o syniad o’i arddull chwarae, awgrymir yn gryf y dylid gwrando ar y traciau gwreiddiol i gael gwell blas. Mae rhestr wrando isod hefyd.

Enghraifft gitâr drydan – ysbrydolwyd gan draciau fel ‘Ethiopia Newydd’, ‘Cae’r Saeson’, ‘Cwn Hela’ a ‘Gwesty Cymru'.

Enghraifft gitâr drydan t.1
Enghraifft gitâr drydan t.2

  • Bar 1–3: defnydd o’r whammy bar a phlygu traw’r nodau trwy blygu’r tannau er mwyn ychwanegu dwyster i’r vibrato cyffredin.
  • Bar 4: triliau neu droadau yn dilyn patrwm pentatonig ar y cyfan.
  • Bar 5–8: rhagor o blygu tannau a fibrato.
  • Bar 9: triliau a throadau yn dilyn patrwm pentatonig ar y cyfan.
  • Bar 17–19: dechrau syniad rhythmig a oedd yn nodweddiadol iawn o chwarae solos Tich.
  • Bar 27, 28 a 31, 32: defnydd o feedback er mwyn dal nodau’n hirach a defnydd o’r whammy bar er mwyn newid y traw ychydig.

Enghraifft acwstig – ysbrydolwyd gan draciau fel ‘Distaw’ Siân James

Enghraifft acwstig

Roedd Tich yn feistr ar chwarae’r gitâr yn deimladwy, ac wrth chwarae’r gitâr acwstig, amlygai fwy o deimlad. Ar ‘Distaw’, mae’n defnyddio llawer o ddynameg wrth chwarae a cheir brawddegu cerddorol gwych er mwyn creu unawd llawn teimlad.

Nid oedd Tich ofn tawelwch a gadael lle i’r gerddoriaeth anadlu, ac mae ‘Distaw’ yn enghraifft wych o adael lle rhwng brawddegau cerddorol pwrpasol.

  • Bar 1–4: defnydd o dannau agored i greu swn llawn a mwy o ddwyster.
  • Bar 5–8: defnydd o hammer-on a pull-offs. Mae angen nerth yn y bysedd ar gyfer gwneud hyn.
  • Bar 10: rhediad o dripledi yn ychwanegu cyffro annisgwyl.
  • Bar 18: brawddeg sy’n cefnogi’r newid harmoni ar y piano.

Atodiad 4: Rhestr wrando gychwynnol

Dyma fan cychwyn i gael blas ar Tich yn chwarae. Mae albymau cynnar Geraint Jarman yn dda iawn ac yn dangos ystod eang o arddulliau chwarae Tich.

Gobaith Mawr y Ganrif

4. ‘Lle Mae’r Bobl Gwyllt Yn Byw’ – (0’25”: Llaw dde yn awgrymu ‘Rhywbeth Bach Yn Poeni Pawb O Hyd’ a ryddhawyd yn ddiweddarach).
7. ‘Gwylio y Byd Ar Y Teledu’.

Tacsi i'r Tywyllwch

Dangos gwahanol arddulliau Tich – reggae, gwlad:

2. ‘Y Dyn Oedd yn Hoffi Pornograffi’
3. ‘Tacsi i’r Tywyllwch’
4. ‘Ambiwlans’
5. ‘Wele Gwawriodd’

Hen Wlad Fy Nhadau

1. ‘Ethiopia Newydd’
2. ‘Methu Dal y pwysau’ (riff ar y dechrau)

Gwesty Cymru

1. ‘Gwesty Cymru’
2. ‘Beirdd Gwleidyddol’
3. ‘Byth yn Mynd i Redeg Bant’
10. ‘Pwy all Brynu Dy Feddylie?’

Fflamau'r Ddraig

2. ‘Cwn Hela’
6. ‘Cae’r Saeson’
8. ‘Rhywbeth Bach’ (chwarae rhythmig Tich)
9. ‘Colli Ti’

O ran egni a chael ysbrydoliaeth, mae’r recordiadau byw yn dda iawn ac efallai’n well na’r albymau stiwdio am ddangos beth oedd yn gwneud Tich yn arbennig.

Siân James: Distaw

11. ‘Distaw’ – enghraifft ragorol o’r ffordd y defnyddiai Tich ddynameg a brawddegu cerddorol mewn unawd acwstig.

Disgyddiaeth

Gweler Tich Gwilym: Disgyddiaeth.

Gwybodaeth bellach

Mae llawer o wybodaeth a chlipiau ar gael ar y we a gellir defnyddio’r wybodaeth ar y dudalen hon i chwilio am ragor o ffynonellau a chlipiau sain e.e. o fandiau fel Mrs Huggett. Ceir clipiau sain ar y gwefannau canlynol:

Mae'r dudalen Tich Gwilym: Cyfweliadau yn cynnwys gwybodaeth am yr unigolion a gyfwelwyd wrth baratoi'r dudalen hon.

Cyfeiriadau

  1. Cyfweliad ag Adrian a William John Gwilliam.
  2. Cyfweliad â Mike Monk.
  3. A Brief History of the Welsh Rugby Union, http://www.wru.wales/eng/thewru/history/brief_history.php [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  4. Erthygl bapur newydd am glawr albwm Kimla Taz.
  5. Nodyn gan Terry Lewis – llun o fewn CD Kimla Taz.
  6. Croeso 69 Blues Festival, http://www.ukrockfestivals.com [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  7. April 2, 1969, http://www.ledzeppelin.com/show/april-2-1969 [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016]
  8. Sgwrs gyda Pete Hurley.
  9. Erthygl bapur newydd ar glawr albwm Kimla Taz.
  10. Gellir gwrando ar y traciau hyn ar http://www.britishmusicarchive.com/K/274-kimla-taz/songs.
  11. Coeden deuluol ar dudalennau clawr Kimla Taz.
  12. Llun o Tich yn chwarae gyda’r band ar wefan JimJam, http://homepage.ntlworld.com/thejimjam/jjTichGwilym.html [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016]
  13. Jarman, G. a Williams, E. (2011), Twrw Jarman (Llandysul: Gwasg Gomer), t. 31.
  14. Ibid., t. 33.
  15. Valleys band Racing Cars call it a day, http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/valleys-band-racing-cars-call-2136432 [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  16. Jarman a Williams (2011), Twrw Jarman, tt. 49–50.
  17. Archival recordings, http://www.edensongs.com/recordings/recordings.html [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  18. Llun yn Jarman a Williams (2011), Twrw Jarman, t. 50.
  19. Sgwrs ffôn gyda Dewi ‘Pws’ Morris.
  20. Rhaglen deledu Geraint Jarman: Chwilio am y Llais Angerddol, 2000 / Sgwrs ffôn gyda Dafydd Pierce.
  21. Sgwrs gydag Adrian Gwilliam.
  22. Trystan Pritchard (2005), 'tich', Y Selar, 4, Awst 2005 https://issuu.com/y_selar/docs/selar5/1 [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  23. Jarman a Williams (2011), Twrw Jarman, t. 145.
  24. Nodiadau ar glawr Kimla Taz gan Gari Melville.
  25. Jarman (2011), Twrw Jarman, t. 88.
  26. Amrywiol (1980), Sesiwn Sosban.
  27. Tich yn siarad ar y rhaglen deledu Geraint Jarman: Chwilio am y Llais Angerddol, Cwmni Da (2000).
  28. Yn ôl Siôn Jones, mae llun hefyd yn Sgrech o’r un cyfnod.
  29. Jarman a Williams (2011), Twrw Jarman, t. 42.
  30. Ibid.
  31. Roc ‘Rol Te, HTV, 5/11/1985.
  32. Ibid.
  33. Cadarnhawyd gan Peredur ap Gwynedd
  34. Adeiladwyd gan ffrind – defnyddir ar 'Tacsi i’r Tywyllwch' ac 'Y Dyn Oedd Yn Hoffi Pornograffi'.
  35. I’w weld ar recordiad yn y Royal Oak, Roc ’Rôl Te, HTV, 5/11/1985.
  36. Cyfweliad gyda Peredur ap Gwynedd.
  37. I’w weld ar recordiad yn y Royal Oak, Roc ’Rôl Te, HTV, 5/11/1985.

Diolchiadau

Dymuna'r awdur ddiolch i: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Y Llyfrgell Genedlaethol a’r Archif Sain, Siân James, Siôn a Gwyn Jones, Geraint Jarman, Adrian Gwilliam a’r teulu, Mike Monk, Stephen Rees, Dewi ‘Pws’ Morris, Heledd ap Gwynfor, Peredur ap Gwynedd, Gari Melville, Eurof Williams, Dafydd Pierce, Gerallt Llewelyn, Pete Hurley a phawb arall a gyfrannodd at y prosiect.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.
Oni nodir yn wahanol, mae recordiadau sain a fideo y cofnod hwn wedi’u rhyddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.
Ceir telerau defnydd pob llun ar dudalen y llun hwnnw (noder y cedwir pob hawl ar rai o'r lluniau).