Gwilym, Tich (Robert John Gwilliam; 1950-2005)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Jarman, Geraint)

Gitarydd amryddawn a gysylltir yn bennaf gyda recordiau Geraint Jarman ac un o gerddorion mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Fe’i ganed ym mhentref Pen-y-graig, Rhondda. Roedd ei fodryb Evelyn yn gantores opera amatur, ond nid oedd unrhyw un arall o’r teulu’n gerddorol. Roedd ei ewythr John Gwilliam (1923-2016), fodd bynnag, yn gapten llwyddiannus iawn ar dîm rygbi Cymru yn yr 1950au, gan arwain y tîm hwnnw i ennill dwy Gamp Lawn (1950 ac 1952) ynghyd â churo Awstralia a Seland Newydd.

Dechreuodd Robert Gwilliam chwarae’r gitâr pan oedd tua wyth mlwydd oed. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tonypandy, ac yn ystod y cyfnod yma dechreuwyd ei alw wrth y llysenw ‘Tich Beck’ oherwydd ei fod yn fyr o ran taldra ac yn edmygu’r gitarydd Jeff Beck (g.1944). O ganlyniad cafodd ei adnabod fel Tich Gwilym. Roedd gitaryddion megis Jimi Hendrix (1942-70), Hank Marvin (g.1941) a Nils Lofgren (g.1951) hefyd yn ddylanwad arno.

Ac yntau’n ddim ond 14 oed daeth Tich i sylw hyrwyddwr lleol o’r enw Bob McClure, a drefnodd sesiwn recordio ar ei gyfer. Yn fuan wedyn, gyda’i gyfaill y cerddor Mike Monk, ffurfiodd Tich grŵp roc/blues o’r enw Tich Beck Reunion. Yn 1967 symudodd Tich i Gaerdydd a newidiwyd enw’r band i Kimla Taz. Bu gwahanol gerddorion yn perthyn i’r band, gan gynnwys John Morgan (gitâr fas), Pete Hurley (gitâr fas) a Robert ‘Dodo’ Wilding (drymiau), a ddaeth yn ddiweddarach, fel Tich, yn aelodau o fand Geraint Jarman.

Denodd Kimla Taz gryn ddiddordeb gan nifer o gwmnïau recordio ac arwyddwyd cytundeb gyda chwmni Decca i ryddhau record; fodd bynnag, chwalodd y band cyn iddynt gwblhau’r albwm.

Yn ystod yr 1970au a’r 1980au aeth Tich ymlaen i berfformio gyda nifer o gerddorion amlycaf Cymru, gan gynnwys Andy Fairweather Low, Dave Edmunds, Geraint Watkins, Arran Ahmun a Pino Palladino, ond daeth yn fwyaf adnabyddus am ei waith gyda Geraint Jarman. Cyfarfu’r ddau yn ystod sesiynau recordio albwm cyntaf Jarman, Gobaith Mawr y Ganrif (Sain, 1976). Bu Tich hefyd yn recordio ar albwm Heather Jones, Jiawl (Sain, 1976), a thrwy hynny daeth yn fwy ymwybodol o’r sîn roc Gymraeg.

Clywir dylanwad Tich yn fwy amlwg ar ail record hir Jarman, Tacsi i’r Tywyllwch (Sain, 1977), er enghraifft yn y gân deitl ac ‘Ambiwlans’. Yn fuan wedyn dechreuodd y band deithio o dan yr enw Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr. Fodd bynnag, ar ôl recordio’r albwm Hen Wlad Fy Nhadau (Sain, 1978) gadawodd Tich y band er mwyn chwarae a theithio gyda’r band Racing Cars. Chwe mis yn ddiweddarach daeth yn ôl at y Cynganeddwyr gan recordio sawl albwm llwyddiannus, megis Gwesty Cymru (Sain, 1979), Fflamau’r Ddraig (Sain, 1980), Diwrnod i’r Brenin (Sain, 1981) a Macsen (Sain, 1983). Derbyniodd wobr offerynnwr y flwyddyn gan y cylchgrawn Sgrech yn 1980, gwobr a enillodd deirgwaith i gyd.

Ac yntau’n ysu bob amser i symud ymlaen, daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm arbrofol newydd Mochyn ’Apus yn 1983, gyda Dewi ‘Pws’ Morris (llais), Dyfed Thomas (llais), Dafydd Pierce (gitâr) a Dai Watkins (drymiau). Tua’r un cyfnod sefydlodd Tich Los Ionisos, band a chwaraeai alawon traddodiadol Chile yng Nghymru, ar ôl iddo ddod yn ffrindiau gyda’r chwaraewr charango, Mario Gaete. Bu hefyd yn perfformio mewn band o’r enw’r Superclarks gydag aelod o’r grŵp roc trwm Budgie, Burke Shelley. Trwy gysylltiad y Cynganeddwyr â Maffia Mr Huws, a fu’n teithio gyda Jarman yn ystod yr 1980au, rhoddodd Tich wahoddiad i ddrymiwr Maffia, Gwyn Jones, ymuno â’r Superclarks, ac yn sgil hyn dechreuodd berfformio a recordio gyda’r gantores werin Siân James. Cyfrannodd at sawl albwm ganddi, gan gynnwys Cysgodion Karma (Sain, 1990) a Distaw (Sain, 1993).

Daeth yn ôl i gysylltiad gyda Jarman yn yr 1990au, gan chwarae ar Rhiniog (Ankst, 1992), a pherfformio ym Maes B o flaen torf o dros fil o bobl yn 1998. Ar ddechrau’r mileniwm newydd chwaraeodd y band yng Ngŵyl y Faenol ym Mangor ac yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod yn 2003.

Er iddo adael yr ysgol yn 16 mlwydd oed, roedd Tich yn amryddawn mewn nifer o feysydd, megis disgyblaeth ac athroniaeth Aikido. Ar 19 Mehefin 2005 bu farw mewn tân yn nhŷ ffrind yng Nghaerdydd. Dyfarnwyd yn ddiweddarach mai marwolaeth ddamweiniol ydoedd o ganlyniad i effeithiau mwg ar ôl i gannwyll ddisgyn mewn ystafell ymolchi. Fe’i cofir yn arbennig am berfformiadau ysbrydoledig o’r anthem genedlaethol ar ddiwedd gigs Geraint Jarman. Yn 2006 derbyniodd James, mab Tich, wobr RAP Cyfraniad Arbennig ar ran ei dad. Yn sicr, roedd Tich Gwilym yn ffigwr eiconig ym myd canu pop Cymraeg ac yn un o gitaryddion gorau Cymru.

Rhys James

Am wybodaeth pellach gweler Gwilym, Tich gan Rhys James.

Disgyddiaeth

(gw. Jarman, Geraint)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.