Gwireb

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gosodiad sy’n cyfleu gwirionedd cyffredinol, a hynny mewn ffordd gryno fel rheol, yw gwireb. Gellir cymharu gwirebau â diarhebion, ond mae dihareb fel rheol yn cyfleu rhyw ddoethineb moesol neu addysgiadol mewn modd sy’n drosiadol ond eto sy’n ddigon amlwg. Nid yw cyfleu negeseuon o’r fath yn greiddiol i’r wireb, ond rhaid cofio y gall darllenwyr gwahanol ddehongli’r un gosodiad mewn gwahanol ffyrdd.

Er mai term a fathwyd yn y 19g. yw gwireb, fe’i defnyddir yn aml i gyfeirio at farddoniaeth ganoloesol a elwir yn ‘ganu gwirebol’ (yn Saesneg, ‘gnomic poetry’). Mae’r canu hwn gan amlaf yn trafod bywyd dynol neu fyd natur a’r prif fesur ar ei gyfer yw’r englyn, yn arbennig englynion ‘o’r hen ganiad’ (sef englynion ac iddynt dair llinell).

Ceir casgliadau o englynion gwirebol mewn sawl llawysgrif, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin (c. 1250) a Llyfr Coch Hergest (c. 1400). Nid enwir awduron y cerddi hyn ac nid yw eu dyddio’n fater rhwydd, ond awgrymwyd iddynt gael eu cyfansoddi yn yr 11g. neu’r 12g. Mae rhai casgliadau o ganu gwirebol ar gael sydd yn amlwg yn ddiweddarach na hynny.

Yn ei astudiaeth bwysig o’r canu gwirebol, cyfeiriodd Kenneth Jackson at ddau fath o wireb, sef y wireb ddynol (‘human-gnome’) a’r wireb natur (‘nature-gnome’). Enghraifft o’r gyntaf yw bid wreic drwc ae mynych warth (‘bydd gwraig ddrwg [yn achosi] gwarth yn aml’) ac enghraifft o’r ail yw gnawt nyth eryr ym blaen dar (‘mae’n arferol fod nyth yr eryr ym mrig y dderwen’). Cyfeiriodd hefyd at gategori cysylltiedig, sef ‘disgrifiad o fyd natur’ (‘nature-description’), er enghraifft eiry mynyd gwynn to tei (‘eira mynydd, mae toeau’r tai yn wyn’).

I ddarllenwyr modern, gall symlrwydd ymddangosiadol y canu gwirebol fod yn gyfareddol neu’n broblemataidd (neu’r ddau). Mae’n anodd gwybod sut yn union y byddai cynulleidfa ganoloesol wedi ymateb iddo, ond mae’n amlwg ei fod yn ffrwyth myfyrio ynghylch perthynas yr unigolyn â’i gymdeithas a’i amgylchedd. Gwelir dylanwad y canu gwirebol ar genres eraill hefyd, gan gynnwys y canu mawl a’r canu chwedlonol.

Dylan Foster Evans

Llyfryddiaeth

Jackson, K. (gol.) (1960), Early Welsh Gnomic Poems (ail argraffiad, Cardiff: University of Wales Press).

Jacobs, N. (gol.) (2012), Early Welsh Gnomic and Nature Poetry (London: Modern Humanities Research Association).

Morgan, T. J. (1974), ‘Canu Gwirebol’, yn Williams, J. E. C. (gol.), Ysgrifau Beirniadol VIII (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 16–28.

Rowland, J. (gol.) (1990), Early Welsh Saga Poetry: A Study and Edition of the Englynion (Cambridge: D. S. Brewer)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.