Gwyddonias

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 01:05, 1 Awst 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Genre llenyddol yw gwyddonias (gellir hefyd defnyddio’r termau ‘ffuglen wyddonol’ a ‘ffugwyddonol’) sy’n aml yn canolbwyntio ar effeithiau technoleg a datblygiadau cymdeithasol ar gymdeithas, a hynny yn amlach na pheidio drwy bortreadu lleoliadau arallfydol neu ddyfodolaidd. Nid yw’n genre hawdd ei ddiffinio, er bod nifer o feirniaid wedi ceisio gwneud hynny. Ystyrir gwyddonias gan amlaf fel genre sy’n tynnu’n groes – yn fwriadol gan rai llenorion, yn anfwriadol gan eraill – i werthoedd canonau llenyddol cydnabyddedig a thraddodiadol.

Perthyna un o’r diffiniadau mwyaf adnabyddus o wyddonias i Darko Suvin, a gred fod creu ‘dieithrwch cyfarwydd’ ('cognitive estrangement') yn rhan annatod o fyd rhyddiaith wyddonias. Noda Suvin fod pwysigrwydd novum (sef newyddbeth) wrth wraidd pob enghraifft o ddieithrwch cyfarwydd. ‘SF is distinguished by the narrative dominance of a fictional novelty (novum, innovation) validated both by being continuous with a body of already existing cognitions and by being a “mental experiment” based on cognitive logic.’ Pwysleisia hefyd fod annog ffordd newydd o feddwl am y gymdeithas sydd ohoni yn holl bwysig gan ei bod yn ysbrydoli pobl i edrych ar y byd o’u hamgylch mewn ffordd wahanol, a beirniada enghreifftiau ysgafn, pulp o’r genre am danseilio gwerthoedd gwyddonias bur.

Mae sylwadau unigolion megis Norman Spinrad – ‘Science fiction is anything published as science fiction’ – yn mynd yn groes i ddadansoddiad trylwyr Suvin. Serch hynny, mae eraill megis Gwyneth Jones a Samuel R. Delany wedi ceisio dadadeiladu testunau gwyddonias er mwyn cymharu iaith gwyddonias ag iaith genres eraill. Er bod Delany yn cydsynio gydag egwyddor gwaith Suvin, gan nodi nad yw enghreifftiau o wyddonias yn crwydro’n rhy bell oddi wrth dueddiadau realaidd (neu ‘mundane’, fel y’i gelwir gan Delany), mae’n ystyried mai agwedd y darllenydd at ieithwedd y testun yw’r ffordd orau o ddiffinio gwyddonias. Yn ôl Delany, rhaid i ddarllenydd gofio mai pethau nad ydynt wedi digwydd (‘things that have not happened’) yw’r nodweddion sy’n greiddiol i ffuglen wyddonias.

Mae diffiniadau yn y Gymraeg yn dueddol o ganolbwyntio ar ddigwyddiadau neu fotiffau cyfarwydd yn hytrach na thechnegau darllen. Er enghraifft, mae Eirwen Gwynn yn datgan mai tri dosbarth o straeon gwyddonias sy’n bodoli, sef: y stori gonfensiynol ei chynllun sy’n defnyddio er hynny declynnau gwyddoniaeth (paladr ‘laser’ yn lle gwn neu fwa a saeth); stori sy’n darogan y dyfodol ac o bosib yn rhybuddio (1984, fel enghraifft); a stori sy’n wirioneddol wreiddiol, gan godi o natur darganfyddiadau gwyddonol.

Fodd bynnag, Johan Schimanski, ar ddechrau’r 1990au, fu un o’r cyntaf i lunio erthyglau beirniadol yn trafod ffuglen wyddonol yn y Gymraeg, gan fwrw golwg ar Seren Wen ar Gefndir Gwyn ac Wythnos yng Nghymru Fydd, ac edrych ar rôl (neu ddiffyg rôl) prif gymeriadau a chanolbwyntio ar ddelweddau arwyddocaol.

Ynghyd â diffinio beth yw gwyddonias, mae canfod dechreubwynt y ffurf hefyd yn broblematig. Un ddadl yw nad oedd science fiction yn bodoli tan i Hugo Gernsbeck, golygydd y gyfres o gyfrolau pulp 'Amazing Stories', fathu’r term yn 1926. (Yn 1968, gyda chyhoeddi Y Blaned Dirion gan Islwyn Ffowc Elis, y cyflwynwyd y gair ‘gwyddonias’ am y tro cyntaf.) Dywed eraill, megis Brian Aldiss, mai Frankenstein gan Mary Shelley (1818) yw dechreubwynt y genre, tra dadleua rhai fod ei wreiddiau yn mynd mor bell yn ôl ag Utopia Thomas Moore (1516) ac eraill fod elfennau ffuglen wyddonol yn perthyn i’r chwedlau Groegaidd cynnar. Tecach efallai fyddai honni mai effeithiau’r Chwyldro Diwydiannol a datblygiadau newydd yn y 19g. a arweiniodd at ddatblygiad gwyddonias, gyda’r diddordeb mewn datblygiadau gwyddonol a thechnolegol yn dod yn fwyfwy cyffredin.

Yn y Gymraeg, ystyrir Wythnos yng Nghymru Fydd (1957) gan Islwyn Ffowc Elis yn un o’r enghreifftiau cynharaf o wyddonias, er bod testunau megis gohebiaeth Syr Meurig Grynswth (a gyhoeddwyd yn achlysurol yn Yr Arweinydd yn 1856-7 gan Ceiriog), yn cynnwys elfennau o ffuglen wyddonol. Yn yr ohebiaeth honno, mae persona bywiog y bardd yn mynd i’r lleuad er mwyn dianc rhag ei ddyledion, a manteisia ar y cyfle i feirniadu’r gymdeithas islaw o’r uchelfan hwnnw.

Fodd bynnag, nid yw ymhlith y dylanwadau a nodwyd gan Islwyn Ffowc Elis mewn ysgrif yn Cyn Oeri’r Gwaed (1952), ‘Mynd i’r Lleuad’. Crybwylla yn hytrach Rhys Llwyd y Lleuad gan E. Tegla Davies (1925) a sonia hefyd ei fod yn hoff iawn o waith H. G. Wells. Arbrofodd Elis gyda gwyddonias ar hyd ei yrfa fel llenor. Cyhoeddwyd ei gyfrol, Wythnos yng Nghymru Fydd, gan Blaid Cymru, a defnyddir 'Deg Pwynt Polisi' Plaid Cymru fel ffrâm i lunio dyfodol iwtopaidd i Gymru. Teithia Ifan, prif gymeriad y nofel, i 2033, i weld rhyfeddodau’r Gymru Rydd a chwympa mewn cariad ag actores, Mair Llywarch. Yn ei oes ei hun eto wedi’r profiad hwnnw, mae’n mynnu dychwelyd i’r dyfodol. Fodd bynnag, dystopia yw’r ail ddyfodol, lle gwêl Ifan siaradwraig olaf yr iaith yn marw o flaen ei lygaid yn ‘Western England’. Ar ddiwedd y nofel, cyflwynir dewis amlwg i’r darllenydd: ‘Mae Cymru 2033 – a chyn hynny, debyg iawn – yn dibynnu arnoch chi, a Tegid, a’ch teuluoedd a’ch cyfeillion a’u teuluoedd hwy a chyfeillion y rheini, o Gaergybi i Gaerdydd . . . Chi Gymry, a chi’n unig, sydd i ddewis.’

Enghreifftiau nodedig eraill o wyddonias yn y Gymraeg yw: W. J. Jones, Dinas y Lloer (1961); Owain Owain, Y Dydd Olaf (1976); John Idris Owen, Y Tŷ Haearn (1984); Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn (1992); Eurig Wyn, Blodyn Tatws (1998); Arwel Vittle, Talu’r Pris (2000); Emyr Wyn Roberts, Sibrydion o Andromeda (2008) a Jerry Hunter, Ebargofiant (2014). Yn y Gymraeg, ymddengys mai’r dyfodol dystopaidd gyda’i ddatblygiadau gwleidyddol sy’n mynd â bryd llenorion Cymraeg eu hiaith yn hytrach na datblygiadau gwyddonol. Gellid dyfalu mai argyfwng y Gymraeg – gydag ymwybyddiaeth y Cymry ynglŷn â thranc yr iaith a diwylliant Cymraeg a Chymreig – sy’n arwain llenorion gwyddonias i archwilio posibiliadau’r fath fydoedd.

Miriam Elin Jones

Llyfryddiaeth

Aldiss, B. (1986), Trillion Year Spree: The History of Science Fiction (New York: Avon Books).

Clute, J. & Nicholls, P. (1993), The Encyclopedia of Science Fiction (London: Orbit).

Delany, S. R. (2009), The Jewel-Hinged Jaw: Notes on the Language of Science Fiction, 2il argraffiad (Middletown: Wesleyan University Press).

Gwynn, E. (1976) ‘Rhyddiaith Gwyddoniaeth’, yn Bowen, G. (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif (Llandysul: Gwasg Gomer), tt. 241-50.

Jones, G. (1999), Deconstructing the Starships: Essays and Reviews (Liverpool: Liverpool University Press).

Roberts, A. (2000), Science Fiction (London: Routledge).

Schimanski, J. (1993), ‘Genre a Chenedl’, Tu Chwith, 1, 39-42.

Schimanski, J. (1994), ‘Wythnos yng Nghymru Fydd – eto’, Taliesin, 88, 24-30.

Suvin, D. (1978), ‘On What Is and Is Not a SF Narration: With a List of 101 Victorian Books That Should Be Excluded from SF Bibliographies’, Science Fiction Studies, 14, 45-57.

Suvin, D. (1979), Metamorphoses of Science Fiction: On the Poetics and History of a Literary Genre (New Haven, CT: Yale University Press).

Tomos, R. (1994), ‘Llên Yfory: Gwyddonias’, Golwg, 28 Ebrill, tt. 18-9.

Wiliam, U. (1985), ‘Ble mae’r Asmiov Cymraeg?’ Barn, 262, 419-20.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.