Gwynneth, John neu Siôn Gwynedd (m.c.1560-63)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:01, 4 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr a dadleuwr di-flewyn-ar-dafod dros Babyddiaeth. Roedd yn un o’r Cymry prin iawn i gael eu rhestru ymhlith yr ‘ymarferwyr’ cerddoriaeth nodedig yng ngwaith Thomas Morley, Plaine and Easie Introduction to Practicall Musicke (1597).

Honnir ei fod yn fab i Dafydd ap Llewelyn ab Ithel o Gastellmarch, Llanbedrog, Llŷn, ac er ei bod yn debygol mai ychydig iawn o amser a dreuliodd yng Nghymru fel oedolyn, roedd yn dwyn teitl profost eglwys golegol Beuno Sant, Clynnog Fawr, o 1540 o leiaf. Yn 1522 y ceir y cyfeiriad cyntaf ato y gwyddys amdano, yn enwi ‘John Gwynneth, clerk’ a oedd yn gyflogedig gan abaty Benedictaidd St Albans yr oedd arnynt £18 iddo y flwyddyn honno; mae’n debyg iddo gael ei recriwtio yno ar gyfrif ei ddoniau cerddorol, ond yno hefyd y dechreuodd ar ei yrfa fel awdur polemeg. Erbyn 1535, roedd yn ‘chapelyn’ yn St Albans, ac erbyn 1540 yn gaplan i’r brenin, ond ei fod, mae’n amlwg, yn dal swyddi eraill ar y cyd â’r rhain: ac yntau wedi’i dderbyn yn rheithor Stuchbury, Swydd Northampton, yn 1528, fe’i henwir yn ficer plwyf Luton yn St Albans, Swydd Bedford, yn 1537 ac yn rheithor St Peter Westcheap, Llundain, yn 1543.

Yn 1531 cyflwynodd gais llwyddiannus am radd DMus ym Mhrifysgol Rhydychen, gan honni iddo ymarfer celfyddyd cerddoriaeth am ddeuddeng mlynedd, a gosod yr holl atebiadau am flwyddyn gyfan mewn polyphoni (cantis chrispis aut fractis ut aiunt) ynghyd â sawl Offeren, ‘including three masses of five parts and five masses of four parts, besides hymns, antiphons, and divers songs for the use of the church’ (Boase 1885). Collwyd y rhain i gyd, a’r unig ddarn y gellir ei gysylltu ag ef yn ddigamsyniol yw’r rhan bas o’i gân bedwar-llais ‘And I mankind have not in mynd/My love that mornyth for me’, a gyhoeddwyd yn XX Songes Wynkyn de Worde yn 1530 (mae gweddill y rhannau’n eisiau). Myfyrdod ar y Dioddefaint sydd yma, mewn addasiad o’r gân boblogaidd ‘My love she mourneth’ (gw. Harper 2007, 283–4).

Sally Harper

Llyfryddiaeth

  • C. W. Boase (gol.), Register of the University of Oxford, i (Rhydychen, 1885)
  • J. P. D. Cooper, ‘John Gwynneth [John Gwynedd]’, Oxford Dictionary of National Biography, gol. C. Matthew, B. Harrison et al., 60 cyfrol (Rhydychen, 2004) http://www.oxforddnb.com/)
  • Sally Harper, Music in Welsh Culture before 1650: A Study of the Principal Sources (Aldershot, 2007)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.