Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hagiograffeg"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
Defnyddir y term hwn i gyfeirio at fywgraffiadau’r seintiau sydd wedi goroesi ar hyd y canrifoedd. Gall testun hagiograffeg fod yn destun ar hanes unrhyw unigolyn sanctaidd, boed yn destun rhyddiaith neu’n farddoniaeth, a hynny mewn unrhyw iaith. Pwrpas gwaith o’r fath yw lledaenu’r storïau am fywydau moesol y seintiau hyn: eu gwyrthiau, eu dioddefaint a’u hymroddiad ysbrydol.
 
Yn yr Oesoedd Canol, roedd bri mawr ar gofnodi hanesion y seintiau gyda gweithiau hagiograffeg yn cael eu cyfansoddi mewn gwahanol ieithoedd. Roedd y casgliad mwyaf, o bosibl, yn Lladin gan Jacobus de Voragine, sef y ''Legenda aurea''. Defnyddid sawl ffyhonnell ganddo i lunio cofnod o hanes dwsinau o seintiau o bob math. Daeth ei waith yn ffynhonnell i nifer fawr o destunau eraill am y seintiau wrth i gyfieithwyr addasu a chyfieithu’r gwaith Lladin poblogaidd hwn.  
+
Yn yr Oesoedd Canol, roedd bri mawr ar gofnodi hanesion y seintiau gyda gweithiau hagiograffeg yn cael eu cyfansoddi mewn gwahanol ieithoedd. Lluniwyd y casgliad mwyaf, o bosibl, yn Lladin gan Jacobus de Voragine, sef y ''Legenda aurea''. Defnyddid sawl ffyhonnell ganddo i lunio cofnod o hanes dwsinau o seintiau o bob math. Daeth ei waith yn ffynhonnell i nifer fawr o destunau eraill am y seintiau wrth i gyfieithwyr addasu a chyfieithu’r gwaith Lladin poblogaidd hwn.  
  
Credir i’r gwaith hwn ddylanwadu ar rai o’r testunau Cymraeg a luniwyd o’r 14g. ymlaen. Fodd bynnag, nid y Legenda aurea yw ffynhonnell pob buchedd Gymraeg gan fod hanesion nifer o’r seintiau brodorol yn unigryw ac wedi eu cofnodi yn y Gymraeg yn unig, a’u cynsail – boed yn Gymraeg neu’n Lladin – wedi mynd yn angof. Cedwid hwy mewn gwahanol lawysgrifau a chopiwyd hwy gan sawl ysgrifydd o’r 13g. ymlaen, gyda’r casgliad mwyaf swmpus yn ymddangos yn llawysgrif Llansteffan 34 (dechrau’r 11g.). Wrth gwrs, roedd canrifoedd rhwng cyfnod tybiedig y sant fodoli a’r cyfnod pan yr ysgrifennwyd y testun cynharaf am y sant hwnnw. Mae’r testunau rhyddiaith cynharaf sydd wedi goroesi yn y Gymraeg yn cynnwys hanes Dewi, Beuno a rhai o’r santesau rhyngwladol, megis Margred, Catrin a Mair o’r Aifft.  
+
Credir i’r gwaith hwn ddylanwadu ar rai o’r testunau Cymraeg a luniwyd o’r 14g. ymlaen. Fodd bynnag, nid y ''Legenda aurea'' yw ffynhonnell pob buchedd Gymraeg gan fod hanesion nifer o’r seintiau brodorol yn unigryw ac wedi eu cofnodi yn y Gymraeg yn unig, a’u cynsail – boed yn Gymraeg neu’n Lladin – wedi mynd yn angof. Cedwid hwy mewn gwahanol lawysgrifau a chopiwyd hwy gan sawl ysgrifydd o’r 13g. ymlaen, gyda’r casgliad mwyaf swmpus yn ymddangos yn llawysgrif Llansteffan 34 (dechrau’r 11g.). Wrth gwrs, roedd canrifoedd rhwng cyfnod tybiedig y sant a’r cyfnod pan yr ysgrifennwyd y testun cynharaf am y sant hwnnw. Mae’r testunau rhyddiaith cynharaf sydd wedi goroesi yn y Gymraeg yn cynnwys hanes Dewi, Beuno a rhai o’r santesau rhyngwladol, megis Margred, Catrin a Mair o’r Aifft.  
  
Roedd rhai beirdd yn gyfarwydd â’u hanesion a cheir cerddi i seintiau gan Feirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. Un o’r cerddi hagiograffeg cynharaf yw’r gerdd i Gadfan Sant gan Lywelyn Fardd ac roedd Dewi Sant hefyd yn sant a folir gan Feirdd y Tywysogion. Gydag amser, gwelwyd cerddi i feirdd lleol, anghyfarwydd, yn ogystal â cherddi i’r seintiau rhyngwladol poblogaidd. Bardd diweddarach a ganodd i amrywiaeth o seintiau yw Lewys Glyn Cothi (canol y 15g.) ac fe barhaodd y traddodiad o ganu cerddi hagiograffeg ymhell i’r 16g. Yn aml, gwelir bod y cerddi’n cynnwys yr un storïau â’r testunau rhyddiaith am yr un sant, er bod ambell gerdd yn adlewyrchu traddodiadau coll am rai seintiau ble nad yw’r fuchedd ysgrifenedig wedi goroesi.
 
Y diwygiad cyfredol, am 21:27, 15 Tachwedd 2016

Defnyddir y term hwn i gyfeirio at fywgraffiadau’r seintiau sydd wedi goroesi ar hyd y canrifoedd. Gall testun hagiograffeg fod yn destun ar hanes unrhyw unigolyn sanctaidd, boed yn destun rhyddiaith neu’n farddoniaeth, a hynny mewn unrhyw iaith. Pwrpas gwaith o’r fath yw lledaenu’r storïau am fywydau moesol y seintiau hyn: eu gwyrthiau, eu dioddefaint a’u hymroddiad ysbrydol.

Yn yr Oesoedd Canol, roedd bri mawr ar gofnodi hanesion y seintiau gyda gweithiau hagiograffeg yn cael eu cyfansoddi mewn gwahanol ieithoedd. Lluniwyd y casgliad mwyaf, o bosibl, yn Lladin gan Jacobus de Voragine, sef y Legenda aurea. Defnyddid sawl ffyhonnell ganddo i lunio cofnod o hanes dwsinau o seintiau o bob math. Daeth ei waith yn ffynhonnell i nifer fawr o destunau eraill am y seintiau wrth i gyfieithwyr addasu a chyfieithu’r gwaith Lladin poblogaidd hwn.

Credir i’r gwaith hwn ddylanwadu ar rai o’r testunau Cymraeg a luniwyd o’r 14g. ymlaen. Fodd bynnag, nid y Legenda aurea yw ffynhonnell pob buchedd Gymraeg gan fod hanesion nifer o’r seintiau brodorol yn unigryw ac wedi eu cofnodi yn y Gymraeg yn unig, a’u cynsail – boed yn Gymraeg neu’n Lladin – wedi mynd yn angof. Cedwid hwy mewn gwahanol lawysgrifau a chopiwyd hwy gan sawl ysgrifydd o’r 13g. ymlaen, gyda’r casgliad mwyaf swmpus yn ymddangos yn llawysgrif Llansteffan 34 (dechrau’r 11g.). Wrth gwrs, roedd canrifoedd rhwng cyfnod tybiedig y sant a’r cyfnod pan yr ysgrifennwyd y testun cynharaf am y sant hwnnw. Mae’r testunau rhyddiaith cynharaf sydd wedi goroesi yn y Gymraeg yn cynnwys hanes Dewi, Beuno a rhai o’r santesau rhyngwladol, megis Margred, Catrin a Mair o’r Aifft.

Roedd rhai beirdd yn gyfarwydd â’u hanesion a cheir cerddi i seintiau gan Feirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. Un o’r cerddi hagiograffeg cynharaf yw’r gerdd i Gadfan Sant gan Lywelyn Fardd ac roedd Dewi Sant hefyd yn sant a folir gan Feirdd y Tywysogion. Gydag amser, gwelwyd cerddi i feirdd lleol, anghyfarwydd, yn ogystal â cherddi i’r seintiau rhyngwladol poblogaidd. Bardd diweddarach a ganodd i amrywiaeth o seintiau yw Lewys Glyn Cothi (canol y 15g.) ac fe barhaodd y traddodiad o ganu cerddi hagiograffeg ymhell i’r 16g. Yn aml, gwelir bod y cerddi’n cynnwys yr un storïau â’r testunau rhyddiaith am yr un sant, er bod ambell gerdd yn adlewyrchu traddodiadau coll am rai seintiau ble nad yw’r fuchedd ysgrifenedig wedi goroesi.

Alaw Mai Edwards

Llyfryddiaeth

Baring-Gould, S. a Fisher, J. (1907–1923), The Lives of the British Saints, pedair cyfrol (London: Honourable Society of Cymmrodorion).

Cartwright, J. (gol.) (2003), Celtic Hagiography and Saints’ Cults (Cardiff: University of Wales Press).

Cartwright, J. (2006), Feminine Sanctity and Spirituality in Medieval Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Cartwright, J. (gol.) (2013), Mary Magdalene and her Sister Martha: An Edition and Translation of the Medieval Welsh Lives (Washington: Catholic University of America Press).

Doble, G. H. ac Evans, D. S. (goln) (1971), Lives of the Welsh Saints (Cardiff: University of Wales Press).

Evans, D. S. (gol.) (1988), The Welsh Life of St David (Cardiff: University of Wales Press).

James, J. W. (gol.) (1967), Rhigyfarch’s Life of St. David (Cardiff: University of Wales Press).

Jones, J. M. (gol.) (1912), The Life of Saint David and other tracts in Medieval Welsh from the Book of the Anchorite of Llandewivrevi A.D. 1346 (Oxford: Clarendon Press).

Lewis, B. (gol.) (2015), Medieval Welsh Poems to Saints and Shrines (Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies).

Ryan, W. G. (cyf.) (2012), The Golden Legend: Readings of the Saints (Princeton: Princeton University Press).

Wade-Evans, A. W. (gol. a chyf.) (1944), Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae, The Lives and Genealogies of the Welsh Saints (Cardiff: Welsh Academic Press).

Wade-Evans, A. W. (gol.) (1923), Life of St David (London: Society for Promoting Christian Knowledge).

Cwlt y Seintiau yng Nghymru, http://www.seintiaucymru.ac.uk [Cyrchwyd: 10 Tachwedd 2016].

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.