Hall, Augusta (1802–96)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:36, 24 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Augusta Waddington oedd aeres stad Llanofer, Sir Fynwy. Priododd Benjamin Hall yn 1823 a mabwysiadodd yr enw barddol Gwenynen Gwent yn 1834 (Ley 1996, 128). Urddwyd ei gŵr yn farwn Llanofer yn 1859 ac, o ganlyniad, derbyniodd hithau’r teitl Arglwyddes Llanofer. Er nad Cymraeg oedd ei mamiaith bu’n ddiwyd yn noddi a hyrwyddo agweddau gwahanol ar ddiwylliant gwerin Cymru, yn enwedig cerddoriaeth a’r wisg Gymreig.

Bu’n byw yn ôl yr hyn a dybiai oedd safonau a dulliau traddodiadol yr oes. Er enghraifft, bu’n gyfrifol am greu gwisg genedlaethol ac fe’i gwisgai’n aml er mwyn gosod esiampl i weddill merched Cymru. Dyma a ddaeth maes o law yn wisg Gymreig draddodiadol. Gwnaeth Augusta Hall ymdrech hefyd i gadw’r hen arferion Cymreig yn fyw, megis y Fari Lwyd, gwasanaethau’r Plygain, Gŵyl Ifan, defodau nos Ystwyll, hel calennig, cerdd dant a dawnsio. Dynoda ei henw barddol natur ddeublyg ei chymeriad, yn cynnig ei phrysurdeb a’i chefnogaeth ar y naill law ac yn barod i gyhuddo a beirniadu ar y llall.

Nodweddid y 19g. gan gyfnod o ddadeni diwylliannol ac roedd ei chartref, Llys Llanofer, yn ganolfan ddiwylliannol Gymreig o bwys. Gohebai â thywysogion a thywysogesau a châi gwleidyddion, ysgolheigion, beirdd, llenorion, cerddorion a haneswyr groeso mawr ar ei haelwyd. Adwaenid ei chyfeillion pennaf fel aelodau ‘cylch Llanofer’ a gynhwysai Angharad Llwyd, y Foneddiges Elizabeth Brown Greenly (Llwydlas), a fu’n ysbrydoliaeth iddi ddysgu’r Gymraeg, Maria Jane Williams, John Jones (Tegid), Thomas Price (Carnhuanawc), y Foneddiges Charlotte Guest a John Parry (Bardd Alaw). Ystyriai’r rhain ei chartref yn noddfa, gan iddi gyflogi telynorion yn y llys, gan gynnwys John Roberts (Telynor Cymru), sefydlu ysgol ar gyfer telynorion dall yn Llanymddyfri a chefnogi gwneuthurwyr telynau teires ar ei stad, unigolion megis Bassett Jones (Caerdydd).

Bu’n weithgar ac yn ymroddedig hefyd er budd unigolion lleol. Cynorthwyodd Maria Jane Williams gyda’i chyfrol Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844) gan fynnu y dylai ‘gynnwys geiriau Cymraeg yn unig’ (Williams 1988, 13). Gellir honni mai ei dylanwad ar gyfrol Jane Williams oedd un o’i phrif gyfraniadau i gerddoriaeth werin Cymru, gan mai hwn oedd y casgliad cyhoeddedig cyntaf i gynnwys geiriau Cymraeg.

Roedd hi’n aelod blaenllaw o Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni, a sefydlwyd yn 1834 (Morgan 1988, 5; gw. hefyd Thomas 1978, sy’n cynnig mai yn 1833 y sefydlwyd y gymdeithas), a bu’n bleidiol i’r eisteddfodau a gynhaliwyd rhwng 1834 ac 1853. Sicrhaodd nawdd a chefnogaeth ar eu cyfer gan gynnig gwobrau gwerthfawr, sy’n cyfateb i gyfanswm o oddeutu can mil o bunnoedd yn ein harian ni heddiw (Morgan 1988, 9), a thrwy ei gweithgarwch diflino yn hyrwyddo’r delyn deires. Câi ei hystyried yn lladmerydd ar ran y delyn deires mewn oes pan welid y delyn bedal yn ennill tir a thelynorion mawr y dydd, rhai fel John Thomas (Pencerdd Gwalia) yn troi cefn ar yr offeryn a gyfrifid ar y pryd yn offeryn cenedlaethol y Cymry. Ystyriai Augusta Hall yr hyn a wnaeth John Thomas yn frad (Ley 1996, 133) a digiodd wrtho am byth. Yn wir, cymaint oedd ei sêl dros y delyn deires fel y sefydlodd weithdy ar dir y stad i gynhyrchu’r offeryn, a llwyddodd i ddwyn perswâd ar deuluoedd cefnog i gynnig telynau teires drudfawr yn wobrau yn eisteddfodau’r cyfnod (Evans 1986, 203).

Dyma wraig a ddefnyddiodd ei chyfoeth a’i statws i roi asbri o’r newydd i ffordd o fyw a oedd mewn perygl o ddiflannu am byth. Bu farw ar 17 Ionawr 1896.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

Maxwell Fraser, ‘The Girlhood of Augusta Waddington (afterwards Lady Llanover) – 1802–23’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, XII/4 (Gaeaf, 1962), 305–22
Mair Elvet Thomas, Afiaith yng Ngwent (Caerdydd, 1978)
Gwynfor Evans, ‘Gwenynen Gwent – Arglwyddes Llanofer (1802–1896)’, Seiri Cenedl y Cymry (Llandysul, 1986), 201–5
Eunice Bryn Williams, ‘Arglwyddes Llanofer a Cherddoriaeth Gymreig’, Welsh Music, 8/8 (Gwanwyn/ Haf, 1988), 7–15
Prys Morgan, Gwenynen Gwent (Casnewydd, 1988)
Rachel Ley, ‘Arglwyddes Llanofer a’r Delyn Deires’, Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History, 1 (1996), 128–35
———, ‘Pencerddes Gerddgar: Augusta Hall (1802–1896) a Cherddoriaeth Werin Gymreig’, Canu Gwerin, 19 (1996), 22–34
Prys Morgan, ‘Lady Llanover (1802–1896), “Gwenynen Gwent”’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 13 (2006), 94–106



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.