Halsing (Halsingod)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:06, 12 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cân grefyddol neu garol yw’r halsing. Mae tarddiad y gair yn y Saesneg ha(i)lsing, sef cyfarchiad.

Daw’r enghraifft gynharaf a ddyddiwyd o 1622, ond perthyn y rhan fwyaf i’r cyfnod rhwng tuag 1662 a chanol y 18g.: mae’r penillion eu hunain yn aml yn cynnwys enw’r awdur a dyddiad y cyfansoddi. Gellir enwi tua hanner cant o awduron halsingod, gan gynnwys yr arweinydd Methodistaidd Daniel Rowland, Llangeitho; Ifan Gruffydd, Troed-yr-aur (c.1655–c.1735); a Samuel Williams (c.1660–c.1722), Llandyfrïog a Llangynllo.

At ei gilydd, cynnyrch beirdd gwlad yw’r halsingod, ond dengys rhai awduron ymwybyddiaeth o’r traddodiad barddonol clasurol, a cheir trawiadau cynganeddol yn eu gwaith. Daw’r mwyafrif o’r enghreifftiau sydd ar glawr o Ddyffryn Teifi, Sir Gaerfyrddin a gogledd Penfro, ond ceir un o leiaf o ogledd Ceredigion. Mae’r rhan fwyaf yn y mesur Cymreig pedwar curiad, rhai ym Mesur Salm Edmwnd Prys, a dau ar y mesur cyhydedd hir. Yn ôl Geraint Bowen gellir canfod dylanwad penillion y Ficer Prichard (a gyhoeddwyd gan Stephen Hughes o 1658 ymlaen) ar yr halsingod, a moesol a chrefyddol yw eu themâu fel penillion Prichard. Defnyddir hanesion y Beibl i gyflwyno gwers foesol neu grefyddol, a cheir tipyn o sôn am Ddydd y Farn yn rhybudd i’r werin.

Awgrymwyd eu bod yn boblogaidd am nad oedd yr Eglwys Wladol yn gwbl effeithiol yn ei gwaith o addysgu’r bobl, a gellir eu gosod yn llinach yr hen draddodiad o ddefnyddio celfyddyd i ddarlunio gwersi’r Ysgrythur, ond gyda geiriau yn lle darluniau. Disgrifia Erasmus Saunders eu defnydd yn A View of the State of Religion in the Diocese of St David’s... (1721), gan ddweud eu bod yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc ym misoedd y gaeaf, rhwng Gŵyl yr Holl Saint (1 Tachwedd) a Gŵyl Fair y Canhwyllau (2 Chwefror).

Fe’u cenid yn yr eglwysi, yn enwedig ar ddyddiau gŵyl, ond awgryma Saunders fod canu anffurfiol arnynt hefyd, gyda chantorion yn ymffurfio’n gorau ar wahân ac yn canu’n antiffonaidd, a phawb yn ymuno mewn cytgan. Awgrymodd Meredydd Evans mai ffurf estynedig ar ‘Yr Hen Ganfed’ allan o gasgliad Edmwnd Prys o Salmau Cân yw’r gainc boblogaidd y cyfeiria Erasmus Saunders ati ac y cenid halsingod arni (Evans 1995). Un casgliad o halsingod a gyhoeddwyd, sef Pedwar o Ganuau (1718), efallai gan Samuel Williams: diogelwyd y gweddill mewn llawysgrifau.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

  • Geraint Bowen, ‘Yr halsingod’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1945–6), 103–8
  • Meredydd Evans, ‘Cainc ar gyfer halsingod’, Canu Gwerin, 18 (1995), 45–8



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.