Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Heath, John Rippener (1887-1950)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 4: Llinell 4:
 
Sais a aned yn Birmingham oedd Heath, ond treuliodd y rhan helaethaf o’i fywyd fel oedolyn yn Abermaw (Bermo), lle bu’n gwasanaethu’r gymuned fel meddyg, gan ddilyn ail yrfa fel cyfansoddwr.
 
Sais a aned yn Birmingham oedd Heath, ond treuliodd y rhan helaethaf o’i fywyd fel oedolyn yn Abermaw (Bermo), lle bu’n gwasanaethu’r gymuned fel meddyg, gan ddilyn ail yrfa fel cyfansoddwr.
  
Roedd yn fab i is-brifathro [[Prifysgol]] Birmingham ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton, Bryste, lle lluniodd ei gyfansoddiadau cydnabyddedig cyntaf. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, i astudio meddygaeth ond bu’n ymwneud llawer â bywyd cerddorol y brifysgol. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yn 1911, treuliodd ddwy flynedd yn feddyg iau yn Ysbyty Queen’s, Birmingham, ac yn ddarlithydd hefyd mewn Ffisioleg ym Mhrifysgol Birmingham. Daeth Heath i Abermaw yn feddyg teulu yn 1913. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf treuliodd gyfnod yn Salonica gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, profiad a fyddai’n ysbrydoli nifer o’i weithiau gorau. Yn 1919 dychwelodd i Abermaw, lle’r enillodd enw iddo’i hun dros y 30 mlynedd nesaf fel meddyg a feddai ar gydymdeimlad a dealltwriaeth, ac un a oedd â diddordeb arbennig mewn seiciatreg.
+
Roedd yn fab i is-brifathro [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Birmingham ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton, Bryste, lle lluniodd ei gyfansoddiadau cydnabyddedig cyntaf. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, i astudio meddygaeth ond bu’n ymwneud llawer â bywyd cerddorol y brifysgol. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yn 1911, treuliodd ddwy flynedd yn feddyg iau yn Ysbyty Queen’s, Birmingham, ac yn ddarlithydd hefyd mewn Ffisioleg ym Mhrifysgol Birmingham. Daeth Heath i Abermaw yn feddyg teulu yn 1913. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf treuliodd gyfnod yn Salonica gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, profiad a fyddai’n ysbrydoli nifer o’i weithiau gorau. Yn 1919 dychwelodd i Abermaw, lle’r enillodd enw iddo’i hun dros y 30 mlynedd nesaf fel meddyg a feddai ar gydymdeimlad a dealltwriaeth, ac un a oedd â diddordeb arbennig mewn seiciatreg.
  
Ymddiddorodd yng ngweithgareddau cerddorol canolbarth Cymru. Bu’n arwain Undeb [[Corawl]] Abermaw ac roedd ganddo gysylltiad clos â [[Gŵyl]] Gerddoriaeth Harlech, lle câi ei weithiau eu chwarae o bryd i’w gilydd. Bu [[Walford Davies]] a Heath yn cydweithio’n gyson, yn fwyaf nodedig i drefnu ymweliad Elgar â Harlech yn 1924, lle bu’r cyfansoddwr yn arwain ei [[oratorio]] ''The Apostles''. Câi Heath ei wahodd yn rheolaidd i gyfrannu cyfansoddiadau ar gyfer cyfres cerddoriaeth siambr Prifysgol Aberystwyth, ac ar gyfer nifer o gyngherddau yng Ngŵyl Gerddoriaeth Aberystwyth yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel.
+
Ymddiddorodd yng ngweithgareddau cerddorol canolbarth Cymru. Bu’n arwain Undeb [[Corau Cymysg | Corawl]] Abermaw ac roedd ganddo gysylltiad clos â [[Gwyliau Cerddoriaeth | Gŵyl]] Gerddoriaeth Harlech, lle câi ei weithiau eu chwarae o bryd i’w gilydd. Bu [[Davies, Henry Walford (1869-1941) | Walford Davies]] a Heath yn cydweithio’n gyson, yn fwyaf nodedig i drefnu ymweliad Elgar â Harlech yn 1924, lle bu’r cyfansoddwr yn arwain ei [[Oratorio, Yr | oratorio]] ''The Apostles''. Câi Heath ei wahodd yn rheolaidd i gyfrannu cyfansoddiadau ar gyfer cyfres cerddoriaeth siambr Prifysgol Aberystwyth, ac ar gyfer nifer o gyngherddau yng Ngŵyl Gerddoriaeth Aberystwyth yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel.
  
Rhwng 1919 ac 1924 daeth gweithiau Heath yn bur boblogaidd ym Mhrydain. Bu perfformiadau o’i weithiau newydd yn Llundain, Birmingham a Lerpwl, gan gynnwys un o Gyngherddau Promenâd Henry Wood, a chyhoeddwyd ugain o’i gyfansoddiadau yn y cyfnod hwn. Bu cerddorion o statws Granville Bantock (1868–1946), y gantores Astra Desmond (1893–1973) a’r pianydd Benno Moiseiwitsch (1890–1963) yn perfformio ei gyfansoddiadau. Ond yn raddol dechreuodd ei yrfa gerddorol edwino, ac er iddo barhau i gyfansoddi llawer o gerddoriaeth hyd ei farwolaeth yn Abermaw yn 1950, ni lwyddodd rywsut i adennill ei le ym mywyd cerddorol Prydain.
 
Ar ffurf [[llawysgrifau]] yn unig y goroesodd y rhan fwyaf o’i gyfansoddiadau. Ar ôl ei farwolaeth collwyd nifer o’i weithiau, ond mae’r mwyafrif o’r nifer sylweddol sy’n weddill bellach yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] ac yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth; mae nifer bychan mewn dwylo preifat. Ymhlith ei weithiau gorau y mae’r ''Serbian Quartet, Three Macedonian Sketches, Three Welsh Landscapes,  Reflexions,  Symphonic  Study  (Dunkirk), The harp of Caergai: a choral ballet, y Cello Concerto'' (a gyfansoddwyd i’w fab, y chwaraewr sielo Kenneth Heath, a fu’n un o sefydlwyr cerddorfa Academy St. Martin-in-the-Fields), a ''Five Pictures of the Night''.
+
Ar ffurf [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | llawysgrifau]] yn unig y goroesodd y rhan fwyaf o’i gyfansoddiadau. Ar ôl ei farwolaeth collwyd nifer o’i weithiau, ond mae’r mwyafrif o’r nifer sylweddol sy’n weddill bellach yn [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] ac yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth; mae nifer bychan mewn dwylo preifat. Ymhlith ei weithiau gorau y mae’r ''Serbian Quartet, Three Macedonian Sketches, Three Welsh Landscapes,  Reflexions,  Symphonic  Study  (Dunkirk), The harp of Caergai: a choral ballet, y Cello Concerto'' (a gyfansoddwyd i’w fab, y chwaraewr sielo Kenneth Heath, a fu’n un o sefydlwyr cerddorfa Academy St. Martin-in-the-Fields), a ''Five Pictures of the Night''.
  
Roedd arddull gerddorol Heath yn aml yn gymhleth, wedi’i seilio ar elfennau Argraffiadol ynghyd â chromatyddiaeth aflonydd yn null y cyfansoddwr Rwsiaidd Alexander Scriabin (1872–1915). Offeryniaeth oedd ei gryfder arbennig ac mae ei gerddoriaeth yn cynnwys eiliadau lawer o sgorio llawn dychymyg. Pan ysgrifennai ar gyfer amaturiaid, gallai bob amser symleiddio ei arddull i weddu i allu ei berfformwyr.
 
Y diwygiad cyfredol, am 17:16, 12 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Sais a aned yn Birmingham oedd Heath, ond treuliodd y rhan helaethaf o’i fywyd fel oedolyn yn Abermaw (Bermo), lle bu’n gwasanaethu’r gymuned fel meddyg, gan ddilyn ail yrfa fel cyfansoddwr.

Roedd yn fab i is-brifathro Prifysgol Birmingham ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton, Bryste, lle lluniodd ei gyfansoddiadau cydnabyddedig cyntaf. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, i astudio meddygaeth ond bu’n ymwneud llawer â bywyd cerddorol y brifysgol. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yn 1911, treuliodd ddwy flynedd yn feddyg iau yn Ysbyty Queen’s, Birmingham, ac yn ddarlithydd hefyd mewn Ffisioleg ym Mhrifysgol Birmingham. Daeth Heath i Abermaw yn feddyg teulu yn 1913. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf treuliodd gyfnod yn Salonica gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, profiad a fyddai’n ysbrydoli nifer o’i weithiau gorau. Yn 1919 dychwelodd i Abermaw, lle’r enillodd enw iddo’i hun dros y 30 mlynedd nesaf fel meddyg a feddai ar gydymdeimlad a dealltwriaeth, ac un a oedd â diddordeb arbennig mewn seiciatreg.

Ymddiddorodd yng ngweithgareddau cerddorol canolbarth Cymru. Bu’n arwain Undeb Corawl Abermaw ac roedd ganddo gysylltiad clos â Gŵyl Gerddoriaeth Harlech, lle câi ei weithiau eu chwarae o bryd i’w gilydd. Bu Walford Davies a Heath yn cydweithio’n gyson, yn fwyaf nodedig i drefnu ymweliad Elgar â Harlech yn 1924, lle bu’r cyfansoddwr yn arwain ei oratorio The Apostles. Câi Heath ei wahodd yn rheolaidd i gyfrannu cyfansoddiadau ar gyfer cyfres cerddoriaeth siambr Prifysgol Aberystwyth, ac ar gyfer nifer o gyngherddau yng Ngŵyl Gerddoriaeth Aberystwyth yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel.

Rhwng 1919 ac 1924 daeth gweithiau Heath yn bur boblogaidd ym Mhrydain. Bu perfformiadau o’i weithiau newydd yn Llundain, Birmingham a Lerpwl, gan gynnwys un o Gyngherddau Promenâd Henry Wood, a chyhoeddwyd ugain o’i gyfansoddiadau yn y cyfnod hwn. Bu cerddorion o statws Granville Bantock (1868–1946), y gantores Astra Desmond (1893–1973) a’r pianydd Benno Moiseiwitsch (1890–1963) yn perfformio ei gyfansoddiadau. Ond yn raddol dechreuodd ei yrfa gerddorol edwino, ac er iddo barhau i gyfansoddi llawer o gerddoriaeth hyd ei farwolaeth yn Abermaw yn 1950, ni lwyddodd rywsut i adennill ei le ym mywyd cerddorol Prydain.

Ar ffurf llawysgrifau yn unig y goroesodd y rhan fwyaf o’i gyfansoddiadau. Ar ôl ei farwolaeth collwyd nifer o’i weithiau, ond mae’r mwyafrif o’r nifer sylweddol sy’n weddill bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth; mae nifer bychan mewn dwylo preifat. Ymhlith ei weithiau gorau y mae’r Serbian Quartet, Three Macedonian Sketches, Three Welsh Landscapes, Reflexions, Symphonic Study (Dunkirk), The harp of Caergai: a choral ballet, y Cello Concerto (a gyfansoddwyd i’w fab, y chwaraewr sielo Kenneth Heath, a fu’n un o sefydlwyr cerddorfa Academy St. Martin-in-the-Fields), a Five Pictures of the Night.

Roedd arddull gerddorol Heath yn aml yn gymhleth, wedi’i seilio ar elfennau Argraffiadol ynghyd â chromatyddiaeth aflonydd yn null y cyfansoddwr Rwsiaidd Alexander Scriabin (1872–1915). Offeryniaeth oedd ei gryfder arbennig ac mae ei gerddoriaeth yn cynnwys eiliadau lawer o sgorio llawn dychymyg. Pan ysgrifennai ar gyfer amaturiaid, gallai bob amser symleiddio ei arddull i weddu i allu ei berfformwyr.

David Evans

Llyfryddiaeth

  • Sidney Grew, ‘Some Birmingham Musicians 111: John R. Heath’, The Musical Standard (Mehefin, 1920)
  • Robert Smith (gol.), Seventh Catalogue of Contemporary Welsh Music (Guild for the Promotion of Welsh Music, 1981)
  • Keith Davies Jones, ‘John R. Heath (Music and Medicine, Part 20)’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/1 (1982), 52–58
  • David R. A. Evans, ‘J. R. Heath (1887–1950): Meddyg Teulu a Chyfansoddwr’, Welsh Music History/Hanes Cerddoriaeth Cymru, 1 (1996), 59–76

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.