Henry, John (1859-1914)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y cerddor a’r canwr John Henry ym Mhorthmadog i deulu cerddorol ac yn dair ar ddeg oed daeth yn arweinydd Seindorf Gwirfoddolwyr Caernarfon. Roedd hefyd yn meddu ar lais bariton cyfoethog ac enillodd am ganu yn Eisteddfod Pwllheli yn 1875. Yn un ar hugain oed aeth i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ac wedi cwblhau ei gwrs arhosodd yn y ddinas fel athro canu yn bennaf. Yn y man, symudodd i Lerpwl lle bu’n unawdydd yn nifer o oratorios poblogaidd y dydd megis Samson a Messiah Handel ac Elijah Mendelssohn.

Trodd ei law at gyfansoddi yn ogystal ac roedd bri mawr ar nifer o’i unawdau yn y cyfnod, yn eu plith Teyrn y Dydd, Galwad y Tywysog, Cân y Bugail, Cenwch im yr Hen Ganiadau ac yn arbennig, Gwlad y Delyn, ei unawd fwyaf adnabyddus. Mae ei waith yn adlewyrchu themâu poblogaidd y dydd – serch, byd natur, cefn gwlad a’r gwladgarol, ac roedd yn deall adnoddau lleisiol yn dda. Ymhlith y darnau corawl o’i eiddo y bu canu mawr arnynt y mae Nos Ystorm a Selene. Cyfansoddodd y gantata Olga ynghyd â’r opera Caradog ond, ar wahân i Gwlad y Delyn efallai, ni oroesodd ei weithiau mwyaf uchelgeisiol. Bu farw yn Lerpwl ar 14 Ionawr 1914.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • F. Griffith, Notable Welsh Musicians (Llundain, 1896)
  • Y Cerddor, Mawrth 1914 (ysgrif goffa am John Henry)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.