Herbert, Trevor (g.1945)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:19, 12 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ysgolhaig ac awdurdod ar gerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru o’r 19g. yn arbennig cerddoriaeth leisiol a thwf bandiau pres a bandiau militaraidd yn ystod y cyfnod.

Ganed yng Nghwmparc, De Cymru. Treuliodd dair blynedd yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain yn astudio’r trombôn gydag Arthur Wilson a chyfansoddi gyda Jeremy Dale Roberts. Rhwng 1969 ac 1976 bu’n perfformio’n gyson fel trombonydd proffesiynol. Ar yr un pryd aeth ati i gwblhau graddau BA a PhD gyda’r Brifysgol Agored, gan arbenigo ar hanes a datblygiad y trombôn yn Lloegr cyn 1800.

Ymunodd â staff y Brifysgol Agored yn 1976 gan ddatblygu diddordeb yn hanes a diwylliant perfformio offerynnau pres a swyddogaeth cerddoriaeth yn hanes a diwylliant Cymru. Mae wedi cyhoeddi, golygu a chyd-olygu nifer o lyfrau, gan gynnwys The Cambridge Companion to Brass Instruments (Cambridge University Press, 1997). Mae ei lyfrau ar gerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys The Remaking of Wales in the Eighteenth Century (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988) a Hymns and Arias: Great Welsh Voices (Gwasg Prifysgol Cymru, 2001).



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.