Hill, Sarah (g.1966)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae Sarah Hill yn uwch-ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd ac yn arbenigwraig ar ganu pop Cymraeg. Yn wreiddiol o Galiffornia, graddiodd ym Mhrifysgol Califfornia, Santa Cruz cyn derbyn gradd meistr ym Mhrifysgol Chicago. Aeth ymlaen i gwblhau cwrs meistr ym Mhrifysgol Caerdydd mewn Cerddoriaeth, Diwylliant a Gwleidyddiaeth, lle aeth ati i gynnig cymhariaeth dreiddgar rhwng cymunedau Lladin- Americanaidd yn Los Angeles a chanu pop Cymraeg. Ffrwyth ei hymchwil doethurol ym maes canu pop yng Nghymru oedd ei llyfr ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music (Ashgate, 2007). Ynghyd â chanu pop, mae Sarah hefyd wedi cyhoeddi ar hunaniaeth ddiwylliannol, lleisiau benywaidd mewn canu pop, roc blaengar a chaneuon gwleidyddol. Bu’n gyd-olygydd y gyfrol Popular Music ac mae’n eistedd ar banel golygyddol y cyfnodolyn Twentieth-Century Music.



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.