Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hogia Bryngwran"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Ffurfiwyd y grŵp tua 1955–56, gyda’r aelodau’n mynychu’r un Ysgol Sul a’r un Band of Hope ym mhentref Bryngwran, Ynys Môn. Yn y cyfnod hwnnw, cyn i drydan gyrraedd y pentref, byddai’r grŵp yn ymarfer dan olau lamp baraffîn gan ymhyfrydu yn harmoni a lleisiau ei gilydd. Bryd hynny, roedd y cyfeiliant yn dilyn arddull sgiffl y cyfnod, gyda gitâr fas syml (sef llinyn tyn wedi ei gysylltu wrth gist bren), drymiau syml, pren golchi ac organ geg.
+
Ffurfi wyd y grãp tua 1955–56, gyda’r aelodau’n mynychu’r un Ysgol Sul a’r un Band of Hope ym mhentref Bryngwran, Ynys Môn. Yn y cyfnod hwnnw, cyn i drydan gyrraedd y pentref, byddai’r grŵp yn ymarfer dan olau lamp baraffîn gan ymhyfrydu yn harmoni a lleisiau ei gilydd. Bryd hynny, roedd y cyfeiliant yn dilyn arddull sgiffl y cyfnod, gyda gitâr fas syml (sef llinyn tyn wedi ei gysylltu wrth gist bren), drymiau syml, pren golchi ac organ geg.
  
Roedd Lonnie Donegan a’i ganeuon sgiffl yn ddylanwad mawr arnynt ac o’r 1950au ymlaen roedd Radio Luxembourg yn cyflwyno cantorion gwlad megis Hank Williams i gynulleidfaoedd eang. Gwelwyd dylanwad cerddoriaeth newydd o’r fath yn Eisteddfod Môn yn 1959 pan fu cystadleuaeth frwd rhwng Hogia Bryngwran a Hogia Llandegai gyda Hogia Bryngwran yn fuddugol (o dan yr enw Hogia’r Werin). O ganlyniad, tyfodd nifer y cynulleidfaoedd a’r cefnogwyr ar gyfer Hogia Bryngwran mewn nosweithiau llawen a chyngherddau, a thrwy gyfrwng radio a theledu yn ogystal.
 
Ymddangosodd y grwp ar raglen gylchgrawn ''Amser Te'', gyda Myfanwy Howell yn cyflwyno, rhaglen a gynhyrchwyd gan gwmni teledu TWW o’u stiwdio ym Mhontcanna, Caerdydd, a hefyd ar raglenni Cymraeg y byddai cwmni Granada yn eu darparu o’u stiwdio ym Manceinion ar gyfer cynulleidfa Gymreig yng ngogledd Cymru. Roedd gan yr Hogia eu sŵn unigryw, ac un o’u prif nodweddion oedd iodlo Idris Hughes. Yn y 1960au, ymunodd Neville Jones (ddaeth yn aelod o Traed Wadin) â hwy, a thrwy gyfrwng sain ei gitâr Hawaiaidd, datblygodd sŵn y grŵp ymhellach.
+
Ymddangosodd y grãp ar raglen gylchgrawn ''Amser Te'', gyda Myfanwy Howell yn cyflwyno, rhaglen a gynhyrchwyd gan gwmni teledu TWW o’u stiwdio ym Mhontcanna, Caerdydd, a hefyd ar raglenni Cymraeg y byddai cwmni Granada yn eu darparu o’u stiwdio ym Manceinion ar gyfer cynulleidfa Gymreig yng ngogledd Cymru. Roedd gan yr Hogia eu sãn unigryw, ac un o’u prif nodweddion oedd iodlo Idris Hughes. Yn yr 1960au, ymunodd Neville Jones (a ddaeth yn aelod o Traed Wadin) â hwy, a thrwy gyfrwng sain ei gitâr Hawaiaidd, datblygodd sŵn y grŵp ymhellach.
  
Ar adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glynebwy yn 1958 roedd Hogia Bryngwran yn aros ym mhentref Cwm pan gawsant wahoddiad i deithio i Iwerddon i berfformio ar Radio Eire, gan droi’n grŵp ‘rhyngwladol’ os am ennyd yn unig. Rhyddhaodd y grŵp record ar label Cambrian yn 1968 gan dderbyn archeb bost am saith swllt a chwe cheiniog yn dâl.
 
'''Sarah Hill/Wyn Thomas'''
+
'''Sarah Hill'''
  
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
Llinell 16: Llinell 16:
  
''Y Bois a’r Hogia'' (Sain SCD2578, 2010)
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Diwygiad 15:13, 25 Gorffennaf 2018

Ffurfi wyd y grãp tua 1955–56, gyda’r aelodau’n mynychu’r un Ysgol Sul a’r un Band of Hope ym mhentref Bryngwran, Ynys Môn. Yn y cyfnod hwnnw, cyn i drydan gyrraedd y pentref, byddai’r grŵp yn ymarfer dan olau lamp baraffîn gan ymhyfrydu yn harmoni a lleisiau ei gilydd. Bryd hynny, roedd y cyfeiliant yn dilyn arddull sgiffl y cyfnod, gyda gitâr fas syml (sef llinyn tyn wedi ei gysylltu wrth gist bren), drymiau syml, pren golchi ac organ geg.

Roedd Lonnie Donegan a’i ganeuon sgiffl yn ddylanwad mawr arnynt ac o’r 1950au ymlaen roedd Radio Luxembourg yn cyflwyno cantorion gwlad megis Hank Williams i gynulleidfaoedd eang. Gwelwyd dylanwad cerddoriaeth newydd o’r fath yn Eisteddfod Môn yn 1959 pan fu cystadleuaeth frwd rhwng Hogia Bryngwran a Hogia Llandegai gyda Hogia Bryngwran yn fuddugol (o dan yr enw Hogia’r Werin). O ganlyniad, tyfodd nifer y cynulleidfaoedd a’r cefnogwyr ar gyfer Hogia Bryngwran mewn nosweithiau llawen a chyngherddau, a thrwy gyfrwng radio a theledu yn ogystal.

Ymddangosodd y grãp ar raglen gylchgrawn Amser Te, gyda Myfanwy Howell yn cyflwyno, rhaglen a gynhyrchwyd gan gwmni teledu TWW o’u stiwdio ym Mhontcanna, Caerdydd, a hefyd ar raglenni Cymraeg y byddai cwmni Granada yn eu darparu o’u stiwdio ym Manceinion ar gyfer cynulleidfa Gymreig yng ngogledd Cymru. Roedd gan yr Hogia eu sãn unigryw, ac un o’u prif nodweddion oedd iodlo Idris Hughes. Yn yr 1960au, ymunodd Neville Jones (a ddaeth yn aelod o Traed Wadin) â hwy, a thrwy gyfrwng sain ei gitâr Hawaiaidd, datblygodd sŵn y grŵp ymhellach.

Ar adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glynebwy yn 1958 roedd Hogia Bryngwran yn aros ym mhentref Cwm pan gawsant wahoddiad i deithio i Iwerddon i berfformio ar Radio Eire, gan droi’n grŵp ‘rhyngwladol’ os am ennyd yn unig. Rhyddhaodd y grŵp record ar label Cambrian yn 1968 gan dderbyn archeb bost am saith swllt a chwe cheiniog yn dâl.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

Hogia Bryngwran (EP) (Cambrian CEP411, 1968)

Yn ymddangos ar:

Y Bois a’r Hogia (Sain SCD2578, 2010)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.