Holi galarwyr

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:18, 1 Awst 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Death knock

Math o gyfweliad lle mae newyddiadurwyr yn ceisio cysylltu ag aelodau o deuluoedd neu ffrindiau mewn profedigaeth. Fe’i beirniadwyd fel arfer newyddiadurol ymwthiol sy’n torri preifatrwydd ac sy’n ymyrryd yn ddiangen ar unigolyn sy’n galaru. Serch hynny, mae mynd at gartref unigolyn sydd wedi marw yn aml yn allweddol er mwyn casglu gwybodaeth, dyfyniadau neu luniau yn dilyn marwolaeth rhywun, gan gynnwys pobl enwog neu ddioddefwr trosedd neu drychineb naturiol.

Gall ymholiadau o’r fath gynnwys ffonio aelodau’r teulu, ysgolion neu leoedd cyflogaeth a churo ar ddrysau tai preifat (tarddle’r term ‘death knock’). Yn aml, mae newyddiadurwyr yn cael eu cynghori gan gyrff newyddion i wneud un ymdrech yn unig i gysylltu ac, os cânt eu hatal, i roi’r gorau i’r dasg.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.