Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hopkin, Mary (g.1950)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Disgyddiaeth)
Llinell 10: Llinell 10:
 
Aeth ei sengl gyntaf ‘Those Were the Days’ i frig y siartiau pop ym Mhrydain yn Awst 1968 (gan ddisodli ‘Hey Jude’ y Beatles), yn yr Unol Daleithiau a phob cwr o’r byd, a hynny drwy gyfrwng pum iaith (Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Ffrangeg). Gwerthodd y record dros filiwn a hanner o gopïau yn yr Unol Daleithiau yn unig.
 
Aeth ei sengl gyntaf ‘Those Were the Days’ i frig y siartiau pop ym Mhrydain yn Awst 1968 (gan ddisodli ‘Hey Jude’ y Beatles), yn yr Unol Daleithiau a phob cwr o’r byd, a hynny drwy gyfrwng pum iaith (Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Ffrangeg). Gwerthodd y record dros filiwn a hanner o gopïau yn yr Unol Daleithiau yn unig.
  
Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei halbwm cyntaf ''Post Card'' (Apple, 1969) gyda Paul McCartney yn cynhyrchu. Gan gynnwys trefniannau o ganeuon oedd yn amrywio o Donovan a Gershwin i Irving Berlin, bu ''Post Card'' yn llwyddiant mawr, gan gyrraedd rhif 3 yn y siartiau Prydeinig. Ar ôl rhyddhau dwy sengl arall cynrychiolodd Mary Hopkin wledydd Prydain yng nghystadleuaeth Eurovision, gan ganu ‘Knock Knock, Who’s There?’ ond daeth yn ail i’r gantores o Iwerddon, Dana (Dana Rosemary Scallon), a’i chân ‘All Kinds of Everything’.
+
Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei halbwm cyntaf ''Post Card'' (Apple, 1969) gyda Paul McCartney yn cynhyrchu. Gan gynnwys trefniannau o ganeuon oedd yn amrywio o Donovan a Gershwin i Irving Berlin, bu ''Post Card'' yn llwyddiant mawr, gan gyrraedd rhif 3 yn y siartiau Prydeinig. Ar ôl rhyddhau dwy sengl arall cynrychiolodd Mary Hopkin wledydd Prydain yng nghystadleuaeth Eurovision, gan ganu ‘Knock Knock, Who’s There?’ ond daeth yn ail i’r gantores o Iwerddon, Dana (Dana Rosemary Scallon), a’i chân ‘All Kinds of Everything’. [[Delwedd:Mary Hopkin Eurovision.jpg|thumb|<small>Mary Hopkin yn perfformio yng nghystadleuaeth Eurovision, 1970.</small>]]
  
 
Roedd Hopkin weithiau’n anghyfforddus gyda’i henwogrwydd a hefyd ar adegau gyda’r gerddoriaeth a ddewiswyd ar ei chyfer gan eraill. Roedd ei hail albwm, ''Earth Song/Ocean Song'' (Apple, 1971), yn agosach at ei dant cerddorol personol ac yn cynnwys caneuon gan Cat Stevens a Ralph McTell. Y cerddor a’r canwr amryddawn Tony Visconti (g.1944) oedd yn cynhyrchu, ac o fewn y flwyddyn roedd y ddau wedi priodi. Penderfynodd Hopkin wedyn adael y byd pop a chanolbwyntio ar fagu teulu (ganed dau blentyn iddynt). Yn ystod yr 1970au, roedd llais Hopkin i’w glywed ar nifer o’r recordiau y bu Visconti’n eu cynhyrchu.
 
Roedd Hopkin weithiau’n anghyfforddus gyda’i henwogrwydd a hefyd ar adegau gyda’r gerddoriaeth a ddewiswyd ar ei chyfer gan eraill. Roedd ei hail albwm, ''Earth Song/Ocean Song'' (Apple, 1971), yn agosach at ei dant cerddorol personol ac yn cynnwys caneuon gan Cat Stevens a Ralph McTell. Y cerddor a’r canwr amryddawn Tony Visconti (g.1944) oedd yn cynhyrchu, ac o fewn y flwyddyn roedd y ddau wedi priodi. Penderfynodd Hopkin wedyn adael y byd pop a chanolbwyntio ar fagu teulu (ganed dau blentyn iddynt). Yn ystod yr 1970au, roedd llais Hopkin i’w glywed ar nifer o’r recordiau y bu Visconti’n eu cynhyrchu.

Diwygiad 12:22, 26 Medi 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores werin a phop oedd Mary Hopkin ac o blith cantorion a fu’n amlwg yn nyddiau cynnar pop Cymraeg, hi aeth bellaf o ran cynulleidfa, bri, enwogrwydd a llwyddiant.

Dechreuodd ganu fel plentyn yn y capel a’r ysgol Sul ym Mhontardawe, lle cafodd ei geni ar 3 Mai 1950. Erbyn iddi gyrraedd ei harddegau roedd yn ymddangos ar deledu Cymraeg, yn canu mewn grŵp gwerin o’r enw The Selby Set and Mary, ac yn 1968 yn recordio fel cerddor unigol ar gyfer label Cambrian. Roedd hefyd yn astudio canu yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ac ymhlith ei chyd-fyfyrwyr yno yr oedd y gantores bop, Heather Jones.

Ar gyfer ei record Cambrian gyntaf, Llais Swynol Mary Hopkin (Cambrian, 1968), gofynnodd i’w hathro ysgol, Gwyn Davies, gyfieithu geiriau cân werin boblogaidd yr Americanwr Peter Seeger ‘Turn, Turn, Turn’ i’r Gymraeg (‘Tro, Tro, Tro’). Yn sgil ei diddordeb yn sŵn y canu gwerin Americanaidd cyfoes dewisodd ‘Turn, Turn, Turn’ ar gyfer ei hymddangosiad cyntaf yn 1968 ar raglen Opportunity Knocks ar ITV. Ymddangosodd ar y rhaglen am ddeg wythnos yn olynol gan ennill nid yn unig y gystadleuaeth ond hefyd sylw’r fodel enwog Twiggy (Lesley Lawson, g.1949). Awgrymodd Twiggy wrth gitarydd bas a lleisydd y Beatles, Paul McCartney, y dylai’r grŵp gynnig cytundeb i Mary Hopkin ar eu label newydd, recordiau Apple.

Aeth ei sengl gyntaf ‘Those Were the Days’ i frig y siartiau pop ym Mhrydain yn Awst 1968 (gan ddisodli ‘Hey Jude’ y Beatles), yn yr Unol Daleithiau a phob cwr o’r byd, a hynny drwy gyfrwng pum iaith (Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Ffrangeg). Gwerthodd y record dros filiwn a hanner o gopïau yn yr Unol Daleithiau yn unig.

Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei halbwm cyntaf Post Card (Apple, 1969) gyda Paul McCartney yn cynhyrchu. Gan gynnwys trefniannau o ganeuon oedd yn amrywio o Donovan a Gershwin i Irving Berlin, bu Post Card yn llwyddiant mawr, gan gyrraedd rhif 3 yn y siartiau Prydeinig. Ar ôl rhyddhau dwy sengl arall cynrychiolodd Mary Hopkin wledydd Prydain yng nghystadleuaeth Eurovision, gan ganu ‘Knock Knock, Who’s There?’ ond daeth yn ail i’r gantores o Iwerddon, Dana (Dana Rosemary Scallon), a’i chân ‘All Kinds of Everything’.
Mary Hopkin yn perfformio yng nghystadleuaeth Eurovision, 1970.

Roedd Hopkin weithiau’n anghyfforddus gyda’i henwogrwydd a hefyd ar adegau gyda’r gerddoriaeth a ddewiswyd ar ei chyfer gan eraill. Roedd ei hail albwm, Earth Song/Ocean Song (Apple, 1971), yn agosach at ei dant cerddorol personol ac yn cynnwys caneuon gan Cat Stevens a Ralph McTell. Y cerddor a’r canwr amryddawn Tony Visconti (g.1944) oedd yn cynhyrchu, ac o fewn y flwyddyn roedd y ddau wedi priodi. Penderfynodd Hopkin wedyn adael y byd pop a chanolbwyntio ar fagu teulu (ganed dau blentyn iddynt). Yn ystod yr 1970au, roedd llais Hopkin i’w glywed ar nifer o’r recordiau y bu Visconti’n eu cynhyrchu.

Fel cantores unigol, recordiodd ganeuon newydd yn achlysurol yn yr 1970au, ond fe gadwodd ei hun allan o lygaid y cyhoedd. Yn 1981 fe ysgarodd hi a Visconti. Ers hynny mae hi wedi dethol ei hymddangosiadau cyhoeddus yn ofalus, gan gymryd rhan mewn rhai sioeau llwyfan a’r ffilm Very Annie Mary (FilmFour, 2001). Ar ôl sefydlu’i label ei hun, Mary Hopkin Music, aeth ati i ailryddhau recordiau archif yn dyddio o’r 1970au a’r 1980au.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

Senglau a recordiau estynedig:

  • Llais Swynol Mary Hopkin [EP] (Cambrian CEP414, 1968)
  • ‘Those Were the Days’ [sengl] (Apple 002, 1968)
  • ‘Aderyn Llwyd’ [sengl] (Cambrian CSP703, 1969)
  • ‘Lontano Dagli Occhi’ [sengl] (Apple 007, 1969 [heb ei ryddhau])
  • ‘Prince En Avignon’ [sengl] (Apple 009, 1969 [heb ei ryddhau])
  • ‘Goodbye’ [sengl] (Apple 010, 1969)
  • ‘Que Sera, Sera (Whatever Will Be, Will Be)’ [sengl] (Apple 016, 1969 [heb ei ryddhau])
  • ‘Pleserau Serch (Plaisir D’Amour)’ [sengl] (Cambrian CSP712, 1970)
  • ‘Temma Harbour’ [sengl] (Apple 022, 1970)
  • ‘Knock, Knock Who’s There?’ [sengl] (Apple 026, 1970)
  • ‘Think About Your Children’ [sengl] (Apple 030, 1970)
  • ‘Let My Name Be Sorrow’ [sengl] (Apple 034, 1971)
  • ‘Water, Paper and Clay’ [sengl] (Apple 039, 1971)
  • ‘Mary Had a Baby’ [sengl] (Regal Zonophone RZ3070, 1972)
  • ‘If You Love Me (I Won’t Care)’ [sengl] (Good Earth GD2, 1976)
  • ‘Wrap Me In Your Arms’ [sengl] (Good Earth GD11, 1977)
  • ‘Ave Maria’ [sengl] (Trax 7TX13, 1989)

Recordiau Hir:

  • Post Card (Apple SAPCOR 5, 1969)
  • Earth Song/Ocean Song (Apple SAPCOR 21, 1971)
  • The Welsh World of Mary Hopkin (Decca SPA546, 1979)
  • Spirit (Trax Music MODEM1045, 1989)
  • Y Caneuon Cynnar/The Early Recordings (Sain SCD2151, 1996)
  • Live at Royal Festival Hall 1972 (Mary Hopkin Music MHM001, 2005)

[yn ymddangos ar]

  • Bert Jansch, Moonshine (Reprise Records K44225, 1971)
  • Ralph McTell, Not Till Tomorrow (Reprise Records K44210, 1973)
  • Sarstedt Brothers, Worlds Apart (Regal Zonophone SRZA8513, 1973)
  • Elfland Ensemble featuring Mary Hopkin, ‘Lirazel’ [sengl] (Chrysalis CHS2151, 1977)
  • Thin Lizzy, Bad Reputation (Vertigo 9102016, 1977)
  • David Bowie, Low (RCA Victor PL12030, 1977)
  • Cousins & Willoughby, The Bridge (RGFCD 020, 1994)
  • The Crocketts, The Great Brain Robbery (Blue Dog BDG1011812, 2000)
  • Julian Colbeck, Back to Bach (Voiceprint VP522CD, 2009)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.