Hughes, John Ceiriog

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd adnabyddus yn y 19g. oedd John Ceiriog Hughes (1832-1887), neu Ceiriog fel y’i hadnabyddid ar lafar gwlad yn gyffredinol. Ni ellir dadansoddi ei syniadaeth lenyddol a beirniadol heb ystyried dylanwad Manceinion arno, ble y bu’n byw rhwng 1848 ac 1865. Ynghanol bwrlwm cylchoedd cymdeithasol Cymraeg y ddinas gyda chymorth ei gyfaill a’i fentor Creuddynfab (William Williams), daeth Ceiriog i’r casgliad mai cyfrwng addas i’r Cymry oedd estheteg boblogaidd. Yng ngeiriau Ceiriog ei hun yn y gyfrol Y Bardd a’r Cerddor (1863), roedd ‘cyfnod newydd wedi dechrau ar ganiadau y genedl’ ac roedd galw cynyddol am gerddi syml a chanadwy a fyddai’n gweddu i ofynion cyngherddau a chyfarfodydd adloniadol y cyfnod.

Yn wir, ni ellir dadansoddi syniadaeth lenyddol Ceiriog heb ystyried pwysigrwydd yr elfen gerddorol sydd ynghlwm â’i waith. Roedd yr alawon y lluniodd geiriau ar eu cyfer yn aml yn pennu natur ac arddull y farddoniaeth. Roedd rhyddid, prydferthwch, a symlrwydd y dweud yng ngweithiau llenyddol Ceiriog yn dra amlwg, a hynny yn hytrach na chaethiwed mesur a phynciau athronyddol eu naws. Mewn oes a oedd yn newid ar garlam, gwelodd Ceiriog ei gyfle i ymateb i newidiadau drwy ddarparu cerddi a chaneuon a fyddai’n foddion cysur ac yn ddihangfa seicolegol i’r gynulleidfa. Trwy ganu’n gyson am brydferthwch a dibynadwyedd byd natur a’r greadigaeth, yn ogystal â straeon ysgafn am ddigwyddiadau a throeon bywyd, llwyddodd Ceiriog i dywys ei gynulleidfa yn ôl at bleserau syml bywyd a hynny ynghanol prysurdeb ac ansicrwydd yr oes.

Yn unol ag estheteg boblogaidd ei gerddi a’i ganeuon, gwelodd Ceiriog bwysigrwydd ac effaith dychan ar ei gynulleidfa. Dan enw ei alter ego swreal Syr Meurig Grynswth, defnyddiodd Ceiriog y papurau newydd fel llwyfan i leisio’i feirniadaeth ar y gymdeithas Gymreig dosbarth canol, yn ogystal â’r gymdeithas farddol. Mewn oes a oedd wedi dechrau yn raddol cydnabod hiwmor o fewn prif ffrydiau diwylliant poblogaidd, sylweddolodd Ceiriog bod angen difyrrwch ysgafn o’r fath.

Cryfder cerddi, caneuon, a gweithiau dychanol Ceiriog a’r hyn a fu’n sail i’w estheteg boblogaidd yw symlrwydd bwriadol ei gyfansoddiadau, a’r gallu i apelio at emosiynau a theimladau elfennol y natur ddynol.

Bethan Angharad Huws

Llyfryddiaeth

Bevan, H. (1948), Gohebiaethau Syr Meurig Grynswth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Edwards, H. T. (1987), Llên y Llenor: Ceiriog (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn).

Gruffydd, W. J. (1939), Ceiriog (Llundain: Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig).

Huws, B. A.. (2015), '"Gwell Cymro, Cymro oddi cartref"? – cymhlethdodau meddwl a gwaith John Ceiriog Hughes' (Traethawd MPhil: Prifysgol Caerdydd).

Lewis, Saunders. (1929), Ceiriog – Yr Artist yn Philistia (Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.