Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hughes-Jones, Llifon (1918-96)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ganed Llifon Hughes-Jones yng Ngharmel ger y Groeslon, Sir Gaernarfon, a derbyniodd ei addysg ym Mhwllheli, Bangor, Coleg Cerdd Manceinion a Choleg Trinity, Llundain. Roedd yn adnabyddus fel [[arweinydd]], organydd, cyfansoddwr (yn arbennig am ei ganeuon swynol i blant), awdur a beirniad mawr ei barch yng Nghymru a’r tu hwnt i Glawdd Offa. Cyhoeddwyd ei weithiau gan nifer o gwmnïau megis Cwmni Cyhoeddi Gwynn, Roberton, Y Lolfa a [[Curiad]].
+
Ganed Llifon Hughes-Jones yng Ngharmel ger y Groeslon, Sir Gaernarfon, a derbyniodd ei addysg ym Mhwllheli, Bangor, Coleg Cerdd Manceinion a Choleg Trinity, Llundain. Roedd yn adnabyddus fel [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]], organydd, cyfansoddwr (yn arbennig am ei ganeuon swynol i blant), awdur a beirniad mawr ei barch yng Nghymru a’r tu hwnt i Glawdd Offa. Cyhoeddwyd ei weithiau gan nifer o gwmnïau megis Cwmni Cyhoeddi Gwynn, Roberton, Y Lolfa a Curiad.
  
Mae ei waith yn perthyn i draddodiad cerddoriaeth ysgafn Prydain yn y cyfnod cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac yn ddeniadol, yn draddodiadol a thonyddol. Roedd Hughes-Jones yn meddu ar dechneg sicr ac yn deall y llais dynol (er iddo hefyd gyfansoddi peth [[cerddoriaeth offerynnol]] megis ''Dau Ddarn Byr i’r Obo a’r Piano, Agorawd Langdon'' a ''Dau Breliwd i Gerddorfa).''
+
Mae ei waith yn perthyn i draddodiad cerddoriaeth ysgafn Prydain yn y cyfnod cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac yn ddeniadol, yn draddodiadol a thonyddol. Roedd Hughes-Jones yn meddu ar dechneg sicr ac yn deall y llais dynol (er iddo hefyd gyfansoddi peth [[Ffurfiau Offerynnol | cerddoriaeth offerynnol]] megis ''Dau Ddarn Byr i’r Obo a’r Piano, Agorawd Langdon'' a ''Dau Breliwd i Gerddorfa).''
  
Roedd ei ddawn yn amlwg wrth gyfansoddi ar gyfer plant; llwyddai i ysgrifennu darnau addas heb ddangos agwedd nawddoglyd tuag atynt. Cenir llawer o’i ganeuon mewn [[eisteddfodau]] mawr a mân, ac maent yn arddangos adnabyddiaeth o derfynau lleisiol o fewn fframwaith tonyddol. Mewn casgliadau fel ''Caneuon Llifon'', sef deuddeg o ganeuon a gyfansoddwyd yn 1987 ac sy’n cynnwys ‘Cân y Melinydd’, ‘Cymylau’ a ‘Gwelais Bren’, mae’r cyfansoddwr yn llwyddo i greu’r naws briodol.
+
Roedd ei ddawn yn amlwg wrth gyfansoddi ar gyfer plant; llwyddai i ysgrifennu darnau addas heb ddangos agwedd nawddoglyd tuag atynt. Cenir llawer o’i ganeuon mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] mawr a mân, ac maent yn arddangos adnabyddiaeth o derfynau lleisiol o fewn fframwaith tonyddol. Mewn casgliadau fel ''Caneuon Llifon'', sef deuddeg o ganeuon a gyfansoddwyd yn 1987 ac sy’n cynnwys ‘Cân y Melinydd’, ‘Cymylau’ a ‘Gwelais Bren’, mae’r cyfansoddwr yn llwyddo i greu’r naws briodol.
  
Mewn casgliadau eraill o ganeuon megis ''Carol yr Alarch a chaneuon eraill'' a ''Patapan: Deg o Ganeuon'', mae’n arddangos chwaeth ddewisol o fewn pob gosodiad. Cyfansoddodd yn ogystal nifer o weithiau [[corawl]] poblogaidd. Mae ei ''How Far is it to Bethlehem?'' (1977) a ''Sleep'' (1978) yn parhau’n boblogaidd. Mae ei ddarnau ar gyfer [[corau meibion]] hefyd yn ganadwy a chofiadwy – ''Emyn Noswyl, Y March Glas, Coed y Glyn'' a ''Cwyn Cariad''. Mae’n esiampl nodedig o gerddor a oedd yn gwybod terfynau ei dalent gerddorol nid ansylweddol.
+
Mewn casgliadau eraill o ganeuon megis ''Carol yr Alarch a chaneuon eraill'' a ''Patapan: Deg o Ganeuon'', mae’n arddangos chwaeth ddewisol o fewn pob gosodiad. Cyfansoddodd yn ogystal nifer o weithiau [[Corau Cymysg | corawl]] poblogaidd. Mae ei ''How Far is it to Bethlehem?'' (1977) a ''Sleep'' (1978) yn parhau’n boblogaidd. Mae ei ddarnau ar gyfer [[Corau Meibion | corau meibion]] hefyd yn ganadwy a chofiadwy – ''Emyn Noswyl, Y March Glas, Coed y Glyn'' a ''Cwyn Cariad''. Mae’n esiampl nodedig o gerddor a oedd yn gwybod terfynau ei dalent gerddorol nid ansylweddol.
  
 
'''Lyn Davies'''
 
'''Lyn Davies'''
Llinell 13: Llinell 14:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:Gwefannau cwmnïau cyhoeddi Gwynn, Roberton, Curiad a Gwasg y Lolfa
+
*Gwefannau cwmnïau cyhoeddi Gwynn, Roberton, Curiad a Gwasg y Lolfa
  
:Archif Papurau Llifon Hughes-Jones (Prifysgol Bangor)
+
*Archif Papurau Llifon Hughes-Jones (Prifysgol Bangor)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 17:38, 12 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Llifon Hughes-Jones yng Ngharmel ger y Groeslon, Sir Gaernarfon, a derbyniodd ei addysg ym Mhwllheli, Bangor, Coleg Cerdd Manceinion a Choleg Trinity, Llundain. Roedd yn adnabyddus fel arweinydd, organydd, cyfansoddwr (yn arbennig am ei ganeuon swynol i blant), awdur a beirniad mawr ei barch yng Nghymru a’r tu hwnt i Glawdd Offa. Cyhoeddwyd ei weithiau gan nifer o gwmnïau megis Cwmni Cyhoeddi Gwynn, Roberton, Y Lolfa a Curiad.

Mae ei waith yn perthyn i draddodiad cerddoriaeth ysgafn Prydain yn y cyfnod cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac yn ddeniadol, yn draddodiadol a thonyddol. Roedd Hughes-Jones yn meddu ar dechneg sicr ac yn deall y llais dynol (er iddo hefyd gyfansoddi peth cerddoriaeth offerynnol megis Dau Ddarn Byr i’r Obo a’r Piano, Agorawd Langdon a Dau Breliwd i Gerddorfa).

Roedd ei ddawn yn amlwg wrth gyfansoddi ar gyfer plant; llwyddai i ysgrifennu darnau addas heb ddangos agwedd nawddoglyd tuag atynt. Cenir llawer o’i ganeuon mewn eisteddfodau mawr a mân, ac maent yn arddangos adnabyddiaeth o derfynau lleisiol o fewn fframwaith tonyddol. Mewn casgliadau fel Caneuon Llifon, sef deuddeg o ganeuon a gyfansoddwyd yn 1987 ac sy’n cynnwys ‘Cân y Melinydd’, ‘Cymylau’ a ‘Gwelais Bren’, mae’r cyfansoddwr yn llwyddo i greu’r naws briodol.

Mewn casgliadau eraill o ganeuon megis Carol yr Alarch a chaneuon eraill a Patapan: Deg o Ganeuon, mae’n arddangos chwaeth ddewisol o fewn pob gosodiad. Cyfansoddodd yn ogystal nifer o weithiau corawl poblogaidd. Mae ei How Far is it to Bethlehem? (1977) a Sleep (1978) yn parhau’n boblogaidd. Mae ei ddarnau ar gyfer corau meibion hefyd yn ganadwy a chofiadwy – Emyn Noswyl, Y March Glas, Coed y Glyn a Cwyn Cariad. Mae’n esiampl nodedig o gerddor a oedd yn gwybod terfynau ei dalent gerddorol nid ansylweddol.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Gwefannau cwmnïau cyhoeddi Gwynn, Roberton, Curiad a Gwasg y Lolfa
  • Archif Papurau Llifon Hughes-Jones (Prifysgol Bangor)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.