Hydrograff

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: hydrograph)

Graff sydd yn dangos sut mae arllwysiad afon yn newid dros amser. Gall hyn fod dros gyfnod o flwyddyn, neu flynyddoedd, neu dros gyfnod un storm benodol (yr hydrograff storm) sydd yn dangos ymateb llif afon i un cyfnod o ddyodiad. Gellir rhannu’r hydrograff yn ddwy gydran, sef y llif storm (stormflow neu quick flow) a llif sail (baseflow). Hefyd, gellir adnabod y fraich esgynnol (rising limb) sydd yn cynrychioli’r cynnydd mewn llif afon yn ystod, ac ar ôl y storm a’r fraich ddisgynnol (falling limb) sydd yn cynrychioli’r lleihad mewn llif afon ar ôl y storm. Yn ystod cyfnod arbennig o ddyodiad, ceir oedi rhwng cychwyniad y dyodiad a’r pwynt lle bydd llif yr afon yn dechrau cynyddu. Mae’r cynnydd dechreuol yn digwydd o ganlyniad i ddyodiad yn cwympo yn syth i mewn i’r sianel. Wrth i’r storm barhau, mae dŵr sydd wedi teithio o bellteroedd yn cyrraedd y sianel ac yn cyfrannu tuag at y cynnydd mewn llif. Mae’r dŵr sydd yn teithio ar hyd y llwybrau cyflymaf (llif trostir, llif trwodd bas a llif mewn pibellau) yn cael ei drosglwyddo yn gyflym i’r sianel ac yn cyfrannu at y llif storm. Mae llif sydd yn teithio ar hyd y llwybrau isarwynebol arafach yn cyrraedd y sianel yn arafach, ac yn cyfrannu at y llif sail. Mae hyn yn golygu bod dŵr yn parhau i lifo i mewn i’r sianel hyd yn oed ar ôl i’r storm beidio, ac yn golygu bod afonydd yn parhau i lifo yn ystod cyfnodau sych. Mae rhewlifoedd, llynnoedd, cronfeydd dŵr a gwlypdiroedd hefyd yn cyfrannu tuag at y llif sail. Mae’r cyfraniadau y mae llif storm a’r llif sail yn eu gwneud i’r llif yn penderfynu maint uchafbwynt yr hydrograff a’r amser oediad (lag time) rhwng uchafbwynt y dyodiad ac uchafbwynt y llif. Lle mae’r llif storm yn dominyddu mae amseroedd oediad yn fyr a’r uchafbwyntiau arllwysiad yn fawr. Lle mae llif sail yn dominyddu, mae afonydd yn ymateb yn arafach ac mae’r uchafbwynt yn is. Mae nifer o ffactorau yn ymwneud â phriddoedd, daeareg, llystyfiant, defnydd tir, topograffi a nodweddion y basn, nodweddion y sianel a nodweddion hinsoddol hefyd yn dylanwadu ar ymateb y basn. Mae’r cysyniad o gyfundrefn llif blynyddol, sef yr amrywiaeth tymhorol mewn llif mewn blwyddyn yn gysyniad cysylltiedig â’r hydrograff. Mewn graff o’r fath, ar gyfer pob mis dangosir y gymhareb rhwng y llif cymedrig misol a’r llif cymedrig blynyddol. I raddau helaeth mae’r amgylchedd hinsoddol yn penderfynu natur y gyfundrefn ac mae nodweddion hinsoddol fel maint ac amseriad glawiad, maint ac amrywiaeth tymheredd a phrosesau anweddiad ac anwedd drydarthiad yn medru bod yn bwysig. Er enghraifft, mewn hinsawdd tymherus ceir uchafbwyntiau yn y gaeaf ac isafbwyntiau yn yr haf, a cheir dau uchafbwynt mewn hinsawdd dymherus sydd yn gysylltiedig â’r monsŵn, ac mewn basnau lle mae cyfran uchel o dir dan eira neu iâ, neu yn cael eu bwydo gan rewlifoedd, mae uchafbwyntiau yn yr haf yn gysylltiedig ag iâ yn dadlaith.

Llyfryddiaeth

  • Charlton, R (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.
  • Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376 tt.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.