Hysbysiad DSMA

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:30, 20 Mehefin 2018 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Hysbysiad cynghori’r cyfryngau ar amddiffyn a diogelwch

Saesneg: Defence and Security Media Notice, cynt Defence Advisory Notice

Hysbysiad a ddosbarthwyd gan swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) yn gofyn bod newyddiadurwyr yn osgoi cyhoeddi neu ddarlledu eitem newyddion oherwydd ei fod yn debygol o fod yn sensitif i ddiogelwch cenedlaethol.

Yn 1912, daeth y Morlys a’r Swyddfa Rhyfel i’r casgliad bod angen rhyw ffordd i wahardd y wasg rhag cyhoeddi gwybodaeth a allai fod yn werthfawr i’r gelyn. Ar ôl cryn drafod rhwng y Swyddfa Rhyfel a nifer o gymdeithasau’r wasg, cytunwyd i sefydlu corff a fyddai’n delio â’r mater, gyda’r wasg yn cael ei chynrychioli. Cafwyd sicrwydd taw materion a oedd yn effeithio’n wirioneddol ar les y wlad yn unig a fyddai dan sylw.

Mae Pwyllgor Ymgynghorol y Cyfryngau ar Faterion Amddiffyn a Diogelwch (Defence and Security Media Advisory Committee) yn goruchwylio cod gwirfoddol sy’n gweithredu rhwng adrannau Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau dros ddiogelwch gwladol, a’r cyfryngau. Mae’n defnyddio’r system hysbysiadau cynghori’r cyfryngau amddiffyn a diogelwch (DSMA) fel ei chyfrwng. Amcan y system hysbysiad DSMA yw atal datgelu gwybodaeth, yn anfwriadol ac yn gyhoeddus a fyddai’n peryglu gweithrediadau a dulliau milwrol a chudd-wybodaeth y DU, neu’n peryglu diogelwch y rhai sy’n ymwneud â gweithrediadau o’r fath, neu’n arwain at ymosodiadau a fyddai’n niweidio’r seilwaith cenedlaethol hollbwysig a/neu’n peryglu bywydau.

Fe’i gelwid gynt yn D-Notice, ac yna yn DA-Notices yn 1993, ac yna yn Hysbysiad DSMA yn 2015, a newidiwyd enw’r pwyllgor goruchwylio i Bwyllgor DSMA. Nid yw’n rhwym i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban) 2002.

Mae’r system yn wirfoddol. Nid oes ganddi unrhyw awdurdod cyfreithiol, a’r golygydd neu’r cyhoeddwr sy’n gyfrifol yn y pen draw am benderfynu a ddylid darlledu’r eitem newyddion/cyhoeddi’r erthygl. Er bod y system yn adlewyrchu cod gwirfoddol heb rym cyfreithiol, gellir dwyn pwysau ar newyddiadurwyr i gydweithredu.

Wedi’i oruchwylio gan Bwyllgor Cynghori’r Cyfryngau ar Amddiffyn a Diogelwch, lle y mae aelodau ohono’n cael eu tynnu o’r Llywodraeth a’r cyfryngau, mae’r Ysgrifennydd Hysbysiad DSMA yn trafod anghydfodau ynghylch yr hyn y gellir ac na ellir ei gyhoeddi, ac fel arfer y penderfyniad yw dileu rhai ‘manylion gwirioneddol cyfrinachol’ o stori newyddion yn hytrach na rhwystro ei chyhoeddi’n gyfan gwbl drwy fynd i gyfraith. Mae’r pum Hysbysiad DSMA sefydlog ar hyn o bryd yn cyfeirio at:

  1. Gweithrediadau milwrol, cynlluniau a galluoedd;
  2. Arfau ac offer niwclear a di-niwclear;
  3. Seiffrau a chyfathrebu diogel;
  4. Gosodiadau sensitif a chyfeiriadau cartref; a
  5. Gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth y DU a gwasanaethau arbennig.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.