Hywel, John (g.1941)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y cyfansoddwr, yr arweinydd a’r cyfarwyddwr cerdd John Hywel yng Nghemaes, Môn, yn 1941 ac mae’n un o ddisgynyddion teulu adnabyddus o feddygon esgyrn ar yr ynys. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, cyn dilyn cwrs gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Dyfarnwyd iddo radd BMus yn 1962 a gradd uwch (MMus) ddwy flynedd yn ddiweddarach. Yn 1963 sicrhaodd ddiploma o Goleg Brenhinol yr Organyddion (ARCO).

Parhaodd â’i hyfforddiant cerddorol wrth astudio arwain yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle derbyniodd Wobr Ernest Read yn 1965 ar sail ei ddawn a’i allu arbennig yn y maes. Ar ddiwedd yr 1990au fe’i hanrhydeddwyd â Diploma (er anrhydedd) yr Academi Gerdd Frenhinol. Yn dilyn blwyddyn fel athro ysgol yn Swydd Gaerlŷr, fe’i penodwyd yn 1966 yn ddarlithydd yn y Brifysgol ym Mangor. Fe’i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd yn yr 1970au hwyr a bu’n bennaeth yr adran o 1987 hyd at 1991, cyn ei ymddeoliad yn 1998.

Yn ystod ei yrfa academaidd sefydlodd John Hywel nifer o ensemblau cerddorol ym Mangor, gan gynnwys Côr y Brifysgol, Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol a Chwmni Opera’r Brifysgol. Enillodd ei Gôr Siambr (Cantorion Seiriol) gryn glod trwy gynnal cyngherddau ledled Cymru, ynghyd â darllediadau radio a theledu. Bu’n gyfarwyddwr cerdd nifer o gorau cymysg, corau meibion a chorau merched yng ngogledd Cymru. Bu’n gyfrifol hefyd am gynnal perfformiadau cyntaf nifer o weithiau corawl gan gynnwys perfformiadau gan Gôr a Cherddorfa Cymdeithas y Crynwyr yn y Royal Festival Hall ac yn y Symphony Hall, Birmingham. Cafodd gyfle yn ogystal i arwain Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa’r Northern Sinfonia a Philharmonia Gogledd Cymru.

Ymhlith ei recordiadau masnachol ceir Contemporary Welsh Choral Music (1968) gyda Chantorion Seiriol, yr unig recordiad cerddorfaol llawn o opera Joseph Parry, Blodwen (Sain, 1978), ac oratorio’r cyfansoddwr Tony Biggin, The Gates of Greenham (Sain, 1986), gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain a Chôr Gŵyl y Crynwyr. Fel cyfeilydd, rhyddhaodd recordiad o Caneuon Grace a Sian a chaneuon eraill i blant (Sain, 1981) gan Mansel Thomas gyda Leah Owen a Wynford Evans fel unawdwyr.

Penodwyd ef yn gyfarwyddwr cerdd Eglwys Gadeiriol Bangor ac yn gyfarwyddwr artistig cyntaf Gŵyl Gerdd Menai (1978–1981), a bu’n olygydd cerddorol a chyfarwyddwr Cwmni Cyhoeddi Gwynn rhwng 1984 a 2003.

Ymysg ei gyfansoddiadau ceir Rondo for orchestra (1965), Simon de Montford (1966) sef opera ar gyfer yr ifanc, The Seven Ages of Man (1969) ar gyfer adroddwr a phedwarawd chwyth, Cywydd y Mordan (1995) ar gyfer adroddwr, Côr TTBB a phiano, Rhyfeddod Bethlehem (2005) sef cantata Nadolig ar gyfer unawdwyr ATBar, Côr SATB, cynulleidfa ac organ, Nunc Dimittis (2010) ar gyfer Côr SATB a phiano, a Darluniau o’r Môr (2013) sef wyth darn i biano.

Ymhlith ei drefniannau ceir cyfrol ddarluniadol, Caneuon Enwog Cymru (1987), ar gyfer llais a phiano, a gyhoeddwyd gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, ac mae ei gyhoeddiadau ymchwil yn cynnwys pennod yn dwyn y teitl ‘Music during the Davies period’ yn y gyfrol Gregynog (gw. Hughes, 1977).

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Glyn Tegai Hughes (gol.) Gregynog (Caerdydd, 1977)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.