Idealaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Idealaeth yn yr ystyr athronyddol yw’r gred mai’r unig wir fodolaeth yw bodolaeth syniadau. Ceir gwahanol mathau o idealaeth. Un o’r hynaf ac ymhlith y mwyaf dylanwadol yw idealaeth Platon. Dadleuodd Platon mai’r realiti sylfaenol oedd y ffurfiau a fodolai tu hwnt i amser ond a oedd yn gwireddu eu hunain mewn pethau diriaethol. Wrth ddod i ganfod y pethau diriaethol hyn yn iawn yr oeddem ni’n ymgyfarwyddo â’r ffurfiau gwreiddiol. Felly trwy athroniaeth gywir gellir mynd y tu hwnt i amser i fyd parhaol. Math arall o idealaeth a welwyd yn yr oes fodern oedd idealaeth seicolegol yr Esgob George Berkeley. Yn dilyn athroniaeth y materolwr John Locke dadleuodd Berkeley mai hanfod ein profiad yw’r argraffiadau synhwyrus a gawn wrth brofi pethau diriaethol. Fel y dangosodd Locke nid yw’r pethau yma ynddynt eu hunain yn datgelu eu gwir natur inni. Yr hyn a gawn wrth eu profi yw effeithiau ar ein synhwyrau. Barn Berkeley oedd y dylem dderbyn yr argraffiadau synhwyrus hyn fel gwir natur bodolaeth a rhodd arbennig Duw inni.

Heb os yr idealydd mwyaf dylanwadol oedd Georg Wilhelm Friedrich Hegel (1770-1831) a fynnodd fod ‘holl realiti yn feddwl’. Gosododd Hegel system athronyddol idealaidd cyfan. Dadleuodd dros ei idealaeth mewn dau lyfr enwog sef Phaenomenologie des Geistes (Ffenomenoleg y Meddwl ) (1807) a’r Wissenschaft der Logik (Gwyddor Rhesymeg) (1812-16). Ceisiodd ddangos yn y llyfr cyntaf bod pob profiad dynol, o argraffiadau’r synhwyrau i grefydd, celfyddyd ac athroniaeth yn y bôn yn dibynnu ar syniadau. Y tu ôl i bob diwylliant, yn ôl Hegel, oedd gwaith creadigol y meddwl. Yn yr ail lyfr, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol, ceisiodd brofi ei ddaliadau idealaidd trwy, yn gyntaf, ddadlennu rhesymeg ddiriaethol a roddai fodolaeth ddiriaethol i bob peth; yn ail, dangos natur meddwl yn ei gyfanrwydd ac, yn drydydd, profi bod y natur a osodwyd ger ein bron gan wyddoniaeth yn rhan o ddeallusrwydd yr un meddwl. Cododd ysgol o athronwyr idealaidd yn sgil gwaith Hegel. Rhai o’r mwyaf enwog o’r athronwyr Hegelaidd hyn oedd y Saeson, T. H. Green (1836-1882) ac F. H. Bradley (1846-1924). Perthyn y Cymro Henry Jones (1852-1922) i’r un ysgol. Dilynasant yn eu gwahanol ffyrdd ddysgeidiaeth idealaidd Hegel. Er nad yw idealaeth Hegel yn rhan o ganon athroniaeth heddiw y mae dysgeidiaeth Immanuel Kant (1724-1804) a alwyd yn idealaeth drosgynnol yn ddylanwadol iawn o hyd. Dehongliad radical o epistemoleg chwyldroadol Kant yw idealaeth Hegel. Yn wahanol i idealwyr fel Platon a Hegel ni chredai Kant mai’r unig fodolaeth oedd y byd syniadol, ond pwysleisiodd mai’r unig fodolaeth sy’n hysbys inni yw’r bodolaeth a ganfyddwn trwy’n synhwyrau a’n galluoedd deallusol.

Gan fod syniadau mor bwysig yng ngwead celfyddyd, nid yw’n syndod fod delfrydwyr yn rhoi cryn bwyslais ar estheteg. Yn athroniaeth F. W. J. Schelling, a oedd am gyfnod yn gydymaith i Hegel yn nechrau’r 19g., daeth y gwaith celfyddydol yn ymgorfforiad o wirionedd meddyliol. Roedd Kant eisoes wedi dadlau am bwysigrwydd estheteg wrth ddod â dyn a natur yn agosach at ei gilydd. Yn ôl Kant roedd yn y prydferth elfen bwysig o foeseg. Tynnodd Hegel yn ôl ychydig o agwedd Schelling ynglŷn â goruchafiaeth celfyddyd yn ein bywyd meddyliol. Credai Hegel hefyd mewn celfyddyd fel ymgorfforiad syniadau yn y diriaethol ond yn ôl Hegel safai celfyddyd islaw crefydd ac athroniaeth. Yn ei dyb ef, daw ymwybyddiaeth i’w llawn wirionedd mewn athroniaeth yn unig, ond roedd crefydd a chelfyddyd yn risiau cyfagos ac elfennol yn y daith tuag at ysbryd.

Nid oes ddwywaith felly am ddiddordeb mawr idealwyr mewn estheteg. Mae darlithoedd Hegel yn ymestyn i dair cyfrol swmpus ac mae Kritik der Urteilskraft (Beirniadaeth ar rym Barn) ymhlith gweithiau mwyaf adnabyddus a dylanwadol Kant.

Howard Williams

Llyfryddiaeth

E. Gwynn Matthews (1980), Cyfres y Meddwl Modern: Hegel (Dinbych: Gwasg Gee).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.