Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Isaac, Myfyr (g.1954)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
 
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes [[canu pop]] Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger Aberystwyth. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis Bill Haley a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ''ukulele'' ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un yn anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân ''blues'' enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn perfformio gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.
+
Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes [[canu pop]] Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger Aberystwyth. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis Bill Haley a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ''ukulele'' ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un yn anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân ''blues'' enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn [[perfformio]] gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.
  
Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r [[grŵp roc]] trwm [[Budgie]]. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, ''Impeckable'' (A&M, 1978).
+
Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r [[grŵp roc]] trwm [[Budgie]]. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda [[Budgie]], fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, ''Impeckable'' (A&M, 1978).
  
 
Ar ôl byw am gyfnod yn Toronto dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis ''Sêr'' (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr [[Endaf Emlyn]], ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, [[Jîp]]. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitâr fas (cyn-aelod o’r grŵp Brân a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop Sianel 4 ''The Tube)'', a dau o aelodau [[Geraint Jarman]] a’r Cynganeddwyr, Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un albwm, ''Genod Oer'' (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân ‘Halfway’ o’r albwm amlgyfrannog ''Twrw Tanllyd'' – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn [[Eisteddfod]] Dyffryn Lliw, 1980 (Sain, 1981).
 
Ar ôl byw am gyfnod yn Toronto dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis ''Sêr'' (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr [[Endaf Emlyn]], ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, [[Jîp]]. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitâr fas (cyn-aelod o’r grŵp Brân a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop Sianel 4 ''The Tube)'', a dau o aelodau [[Geraint Jarman]] a’r Cynganeddwyr, Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un albwm, ''Genod Oer'' (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân ‘Halfway’ o’r albwm amlgyfrannog ''Twrw Tanllyd'' – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn [[Eisteddfod]] Dyffryn Lliw, 1980 (Sain, 1981).
  
 
Yn ystod yr 1980au cynnar bu Myfyr Isaac yn
 
Yn ystod yr 1980au cynnar bu Myfyr Isaac yn
gyfrifol am gynhyrchu recordiau gan [[Bando]] a Crys, yn aml ar y cyd â’r peiriannydd Simon Tassano. Bu Tassano ac Isaac yn gyfrifol am record hir unigol olaf Endaf Emlyn yn ystod y cyfnod hwn, ''Dawnsionara'' (Sain, 1981), gydag Isaac hefyd yn cyfrannu’n helaeth; roedd ei allu i grefftio ''solos'' melodaidd iawn ar y gitâr yn amlwg yn y gân ‘Rola’. Ymunodd Isaac gyda [[Bando]] gan gyd-gyfansoddi caneuon megis ‘Nos yng Nghaer Arianrhod’ a ‘Saf ar dy Draed’, gyda’r naill yn dangos ei feistrolaeth o’r gitâr Sbaenaidd (bu’n derbyn gwersi am gyfnod gan y gitarydd clasurol [[Rhisiart Arwel]]), tra oedd y llall yn arddangos ei ddealltwriaeth o’r arddull roc trwm anthemig.
+
gyfrifol am gynhyrchu recordiau gan [[Bando]] a Crys, yn aml ar y cyd â’r peiriannydd Simon Tassano. Bu Tassano ac Isaac yn gyfrifol am record hir unigol olaf [[Endaf Emlyn]] yn ystod y cyfnod hwn, ''Dawnsionara'' (Sain, 1981), gydag Isaac hefyd yn cyfrannu’n helaeth; roedd ei allu i grefftio ''solos'' melodaidd iawn ar y gitâr yn amlwg yn y gân ‘Rola’. Ymunodd Isaac gyda [[Bando]] gan gyd-gyfansoddi caneuon megis ‘Nos yng Nghaer Arianrhod’ a ‘Saf ar dy Draed’, gyda’r naill yn dangos ei feistrolaeth o’r gitâr Sbaenaidd (bu’n derbyn gwersi am gyfnod gan y gitarydd clasurol [[Rhisiart Arwel]]), tra oedd y llall yn arddangos ei ddealltwriaeth o’r [[arddull]] roc trwm anthemig.
  
 
Bu’n cydweithio’n agos gyda’i bartner, y gantores
 
Bu’n cydweithio’n agos gyda’i bartner, y gantores
[[Caryl Parry Jones]], ar recordiau hir megis ''Shampŵ'' (Sain, 1982), ''Caryl a’r Band'' (Gwerin, 1983) ac ''Eiliad'' (Sain, 1996). Bu hefyd yn recordio gyda’r canwr [[Geraint Griffiths]] ar ei recordiau unigol yntau, ''Madras'' (Sain, 1984), ''Rebel'' (Sain, 1986) ac ''Ararat'' (Sain, 1988), ynghyd â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer [[rhaglenni teledu]], megis yr arwyddgan i’r gyfres deledu ''Dinas''.
+
[[Caryl Parry Jones]], ar recordiau hir megis ''Shampŵ'' (Sain, 1982), ''Caryl a’r Band'' (Gwerin, 1983) ac ''Eiliad'' (Sain, 1996). Bu hefyd yn recordio gyda’r canwr [[Geraint Griffiths]] ar ei recordiau unigol yntau, ''Madras'' (Sain, 1984), ''Rebel'' (Sain, 1986) ac ''Ararat'' (Sain, 1988), ynghyd â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer [[rhaglenni teledu]], megis yr arwyddgan i’r gyfres deledu ''[[Dinas]]''.
  
Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd- gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd adloniant Cymraeg yn ystod yr 1980au a’r 1990au.
+
Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd- gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd [[adloniant]] Cymraeg yn ystod yr 1980au a’r 1990au.
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}

Diwygiad 21:33, 25 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger Aberystwyth. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis Bill Haley a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ukulele ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un yn anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân blues enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn perfformio gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.

Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm Budgie. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, Impeckable (A&M, 1978).

Ar ôl byw am gyfnod yn Toronto dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis Sêr (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr Endaf Emlyn, ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, Jîp. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitâr fas (cyn-aelod o’r grŵp Brân a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop Sianel 4 The Tube), a dau o aelodau Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un albwm, Genod Oer (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân ‘Halfway’ o’r albwm amlgyfrannog Twrw Tanllyd – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn Eisteddfod Dyffryn Lliw, 1980 (Sain, 1981).

Yn ystod yr 1980au cynnar bu Myfyr Isaac yn gyfrifol am gynhyrchu recordiau gan Bando a Crys, yn aml ar y cyd â’r peiriannydd Simon Tassano. Bu Tassano ac Isaac yn gyfrifol am record hir unigol olaf Endaf Emlyn yn ystod y cyfnod hwn, Dawnsionara (Sain, 1981), gydag Isaac hefyd yn cyfrannu’n helaeth; roedd ei allu i grefftio solos melodaidd iawn ar y gitâr yn amlwg yn y gân ‘Rola’. Ymunodd Isaac gyda Bando gan gyd-gyfansoddi caneuon megis ‘Nos yng Nghaer Arianrhod’ a ‘Saf ar dy Draed’, gyda’r naill yn dangos ei feistrolaeth o’r gitâr Sbaenaidd (bu’n derbyn gwersi am gyfnod gan y gitarydd clasurol Rhisiart Arwel), tra oedd y llall yn arddangos ei ddealltwriaeth o’r arddull roc trwm anthemig.

Bu’n cydweithio’n agos gyda’i bartner, y gantores Caryl Parry Jones, ar recordiau hir megis Shampŵ (Sain, 1982), Caryl a’r Band (Gwerin, 1983) ac Eiliad (Sain, 1996). Bu hefyd yn recordio gyda’r canwr Geraint Griffiths ar ei recordiau unigol yntau, Madras (Sain, 1984), Rebel (Sain, 1986) ac Ararat (Sain, 1988), ynghyd â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu, megis yr arwyddgan i’r gyfres deledu Dinas.

Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd- gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd adloniant Cymraeg yn ystod yr 1980au a’r 1990au.

Pwyll ap Siôn



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.