Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iwan, Dafydd (g.1943)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 10: Llinell 10:
 
Dechreuodd chwarae’r gitâr yn ei arddegau gan berfformio’n anffurfiol yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Canai ganeuon poblogaidd y dydd, yn eu mysg caneuon cantorion gwerin Americanaidd fel Burl Ives (1909–95), Pete Seeger (1919–2014) a Woody Guthrie (1912–67), a chyfoeswyr pop megis Donovan (g.1946). Sylweddolodd yn fuan fod modd gosod geiriau Cymraeg i’r caneuon a’u troi’n berthnasol i’r Cymry. Un o’r caneuon cyntaf iddo’i chyfieithu oedd ‘This Land Is Your Land’ (Guthrie), ac fe ddaeth ‘Mae’n Wlad i Mi’ yn un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd (am gymhariaeth rhwng fersiwn gwreiddiol Guthrie a threfniant Dafydd Iwan o’r gân gw. Hill 2007, 105–110).
 
Dechreuodd chwarae’r gitâr yn ei arddegau gan berfformio’n anffurfiol yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Canai ganeuon poblogaidd y dydd, yn eu mysg caneuon cantorion gwerin Americanaidd fel Burl Ives (1909–95), Pete Seeger (1919–2014) a Woody Guthrie (1912–67), a chyfoeswyr pop megis Donovan (g.1946). Sylweddolodd yn fuan fod modd gosod geiriau Cymraeg i’r caneuon a’u troi’n berthnasol i’r Cymry. Un o’r caneuon cyntaf iddo’i chyfieithu oedd ‘This Land Is Your Land’ (Guthrie), ac fe ddaeth ‘Mae’n Wlad i Mi’ yn un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd (am gymhariaeth rhwng fersiwn gwreiddiol Guthrie a threfniant Dafydd Iwan o’r gân gw. Hill 2007, 105–110).
  
Yn 1961, treuliodd Dafydd Iwan flwyddyn ragbaratoawl ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cwblhau gradd mewn pensaernïaeth yn Ysgol Bensaernïaeth Caerdydd. Tra yn Aberystwyth daeth i gysylltiad â’r mudiad protest iaith ac ystwyriadau cyntaf Cymdeithas yr Iaith. Tra yng Nghaerdydd, fodd bynnag, agorwyd ei lygaid ar yr un pryd i safle dinod y Gymraeg yn y byd ehangach a hynny am ei fod bellach yn byw mewn ardal lle’r oedd y mwyafrif llethol o’r trigolion yn siaradwyr Saesneg. Dyma oedd cyfnod ''Tynged yr Iaith'' – araith radio enwog [[Saunders Lewis]] yn Chwefror 1962 – a chyfnod sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Roedd yn naturiol, felly, y byddai caneuon Dafydd Iwan yn ymdrin â phryderon dyfodol yr iaith ac effeithiau hynny ar y syniad o Gymreictod. [[Delwedd:Llun o Dafydd Iwan o glawr yr albwm 'Emynau'. jpeg|thumb|<small>Llun o Dafydd Iwan o glawr yr albwm 'Emynau'.</small>]]
+
Yn 1961, treuliodd Dafydd Iwan flwyddyn ragbaratoawl ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cwblhau gradd mewn pensaernïaeth yn Ysgol Bensaernïaeth Caerdydd. Tra yn Aberystwyth daeth i gysylltiad â’r mudiad protest iaith ac ystwyriadau cyntaf Cymdeithas yr Iaith. Tra yng Nghaerdydd, fodd bynnag, agorwyd ei lygaid ar yr un pryd i safle dinod y Gymraeg yn y byd ehangach a hynny am ei fod bellach yn byw mewn ardal lle’r oedd y mwyafrif llethol o’r trigolion yn siaradwyr Saesneg. Dyma oedd cyfnod ''Tynged yr Iaith'' – araith radio enwog [[Saunders Lewis]] yn Chwefror 1962 – a chyfnod sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Roedd yn naturiol, felly, y byddai caneuon Dafydd Iwan yn ymdrin â phryderon dyfodol yr iaith ac effeithiau hynny ar y syniad o Gymreictod. [[Delwedd:Llun o Dafydd Iwan o glawr yr albwm 'Emynau'.jpeg|thumb|<small>Llun o Dafydd Iwan o glawr yr albwm 'Emynau'.</small>]]
  
 
Yn fuan ar ôl ei gyfnod yn y coleg, cafodd Dafydd Iwan y cyfle i ganu i gynulleidfa genedlaethol wythnosol ar raglen deledu newyddion ''Y Dydd'' ar TWW. Byddai’n cyfansoddi caneuon cyfoes eu naws, a daeth rhai ohonynt – fel y gân gyntaf iddo’i chyfansoddi, ‘Wrth Feddwl am fy Nghymru’ – yn glasuron, gan gwmpasu nifer o faterion cyfoes y dydd, megis Tryweryn, argyfwng yr iaith a hunanlywodraeth i Gymru, tra’n cyfeirio nôl hefyd at ffigyrau hanesyddol pwysig, megis Owain Glyndŵr a Llywelyn ap Gruffudd. Daeth ei ganeuon i sylw John Edwards (1905–66), rheolwr recordiau Teldisc, a rhwng 1966 ac 1969 fe gyhoeddodd y cwmni wyth EP a dwy record sengl, gan gynnwys caneuon fel ‘Wrth Feddwl am fy Nghymru’, ‘Mae’n Wlad i Mi’, ‘Carlo’ a ‘Croeso Chwedeg Nain’, nifer ohonynt ar y cyd gyda’r canwr [[Jones, Edward Morus (g.1944) | Edward Morus Jones]].
 
Yn fuan ar ôl ei gyfnod yn y coleg, cafodd Dafydd Iwan y cyfle i ganu i gynulleidfa genedlaethol wythnosol ar raglen deledu newyddion ''Y Dydd'' ar TWW. Byddai’n cyfansoddi caneuon cyfoes eu naws, a daeth rhai ohonynt – fel y gân gyntaf iddo’i chyfansoddi, ‘Wrth Feddwl am fy Nghymru’ – yn glasuron, gan gwmpasu nifer o faterion cyfoes y dydd, megis Tryweryn, argyfwng yr iaith a hunanlywodraeth i Gymru, tra’n cyfeirio nôl hefyd at ffigyrau hanesyddol pwysig, megis Owain Glyndŵr a Llywelyn ap Gruffudd. Daeth ei ganeuon i sylw John Edwards (1905–66), rheolwr recordiau Teldisc, a rhwng 1966 ac 1969 fe gyhoeddodd y cwmni wyth EP a dwy record sengl, gan gynnwys caneuon fel ‘Wrth Feddwl am fy Nghymru’, ‘Mae’n Wlad i Mi’, ‘Carlo’ a ‘Croeso Chwedeg Nain’, nifer ohonynt ar y cyd gyda’r canwr [[Jones, Edward Morus (g.1944) | Edward Morus Jones]].

Y diwygiad cyfredol, am 13:32, 11 Medi 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ers dechrau’r 1960au bu Dafydd Iwan yn un o’r ffigyrau amlycaf, mwyaf dylanwadol, lliwgar a dadleuol ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru. Ac yntau’n ganwr gwerin a phop, yn wleidydd, yn weithredwr dros hawliau’r iaith Gymraeg, yn un o sylfaenwyr label recordiau Sain ac yn genedlaetholwr amlwg, mae gwleidyddiaeth a cherddoriaeth wedi eu gwau ynghyd yn hanes a gyrfa’r canwr poblogaidd.

Ganed Dafydd Iwan Jones ym Mrynaman. Roedd ei dad, Gerallt Jones, yn weinidog gyda’r Annibynwyr, ac yn fab i Fred Jones, yr hynaf o ‘Fois y Cilie’ – teulu adnabyddus o feirdd gwlad, llenorion a chenedlaetholwyr – ac yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru. Roedd mam Dafydd Iwan yn gerddorol, yn canu’r piano, ac fe anogodd ei mab i gystadlu mewn eisteddfodau lleol ac yn eisteddfodau’r Urdd pan oedd yn ifanc. Fodd bynnag, y wers ganu orau a gafodd oedd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach pan gyfarfu â’r gantores a’r gasglwraig cerddoriaeth werin, Dora Herbert Jones (1890–1974) (gw. Iwan 2015, 20–22).

Aeth yn gyntaf i Ysgol Ramadeg Rhydaman, cyn derbyn ei addysg yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, pan symudodd y teulu i Lanuwchllyn yn yr 1950au. Tua’r cyfnod hwn gosodwyd bil gerbron senedd San Steffan i greu argae ar draws Cwm Tryweryn ger y Bala er mwyn darparu cyflenwad dŵr i ddinas Lerpwl, gan foddi pentref Capel Celyn. Dyfnhaodd hyn angerdd Dafydd Iwan fel cenedlaetholwr, ac roedd efallai’n anochel – o ystyried ei gefndir diwylliedig – mai gadael ei ôl yn bennaf fel canwr protest y byddai’n ei wneud.

Dechreuodd chwarae’r gitâr yn ei arddegau gan berfformio’n anffurfiol yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Canai ganeuon poblogaidd y dydd, yn eu mysg caneuon cantorion gwerin Americanaidd fel Burl Ives (1909–95), Pete Seeger (1919–2014) a Woody Guthrie (1912–67), a chyfoeswyr pop megis Donovan (g.1946). Sylweddolodd yn fuan fod modd gosod geiriau Cymraeg i’r caneuon a’u troi’n berthnasol i’r Cymry. Un o’r caneuon cyntaf iddo’i chyfieithu oedd ‘This Land Is Your Land’ (Guthrie), ac fe ddaeth ‘Mae’n Wlad i Mi’ yn un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd (am gymhariaeth rhwng fersiwn gwreiddiol Guthrie a threfniant Dafydd Iwan o’r gân gw. Hill 2007, 105–110).

Yn 1961, treuliodd Dafydd Iwan flwyddyn ragbaratoawl ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cwblhau gradd mewn pensaernïaeth yn Ysgol Bensaernïaeth Caerdydd. Tra yn Aberystwyth daeth i gysylltiad â’r mudiad protest iaith ac ystwyriadau cyntaf Cymdeithas yr Iaith. Tra yng Nghaerdydd, fodd bynnag, agorwyd ei lygaid ar yr un pryd i safle dinod y Gymraeg yn y byd ehangach a hynny am ei fod bellach yn byw mewn ardal lle’r oedd y mwyafrif llethol o’r trigolion yn siaradwyr Saesneg. Dyma oedd cyfnod Tynged yr Iaith – araith radio enwog Saunders Lewis yn Chwefror 1962 – a chyfnod sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Roedd yn naturiol, felly, y byddai caneuon Dafydd Iwan yn ymdrin â phryderon dyfodol yr iaith ac effeithiau hynny ar y syniad o Gymreictod.
Llun o Dafydd Iwan o glawr yr albwm 'Emynau'.

Yn fuan ar ôl ei gyfnod yn y coleg, cafodd Dafydd Iwan y cyfle i ganu i gynulleidfa genedlaethol wythnosol ar raglen deledu newyddion Y Dydd ar TWW. Byddai’n cyfansoddi caneuon cyfoes eu naws, a daeth rhai ohonynt – fel y gân gyntaf iddo’i chyfansoddi, ‘Wrth Feddwl am fy Nghymru’ – yn glasuron, gan gwmpasu nifer o faterion cyfoes y dydd, megis Tryweryn, argyfwng yr iaith a hunanlywodraeth i Gymru, tra’n cyfeirio nôl hefyd at ffigyrau hanesyddol pwysig, megis Owain Glyndŵr a Llywelyn ap Gruffudd. Daeth ei ganeuon i sylw John Edwards (1905–66), rheolwr recordiau Teldisc, a rhwng 1966 ac 1969 fe gyhoeddodd y cwmni wyth EP a dwy record sengl, gan gynnwys caneuon fel ‘Wrth Feddwl am fy Nghymru’, ‘Mae’n Wlad i Mi’, ‘Carlo’ a ‘Croeso Chwedeg Nain’, nifer ohonynt ar y cyd gyda’r canwr Edward Morus Jones.

O ystyried ysbryd protest byd-eang yr 1960au, nid yw’n rhyfedd fod rhai o ganeuon cynnar Dafydd Iwan yn benthyg ieithwedd ymgyrchoedd hawliau dinesig Unol Daleithiau America. Roedd pledio’r hawl i siarad a defnyddio’r Gymraeg hefyd yn cysylltu ei ganeuon gyda mudiadau ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws Ewrop ac yn cyd-destunoli’r Gymraeg mewn brwydr ehangach. Nid oedd pob cân yn wleidyddol, fodd bynnag, gyda ‘Pam Fod Eira Yn Wyn?’ yn ymdrin â chysyniadau oesol, ysbrydol a damcaniaethol, ac yn arddangos aeddfedrwydd ei grefft gyfansoddol erbyn dechrau’r 1970au.

Rhwng 1968 ac 1971 bu’n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe gafodd ei garcharu fwy nag unwaith yn ystod ei yrfa am weithredu dros yr iaith a thros sefydlu sianel deledu Gymraeg. Bu’n feirniad di-flewyn-ar-dafod o arwisgiad dadleuol y Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon yng Ngorffennaf 1969, ac yn ôl y canwr, fe werthodd ‘Carlo’ – ei deyrnged ddychanol i’r tywysog o Loegr – ‘fwy nag unrhyw record Gymraeg erioed’, o bosib am iddi gael ei gwahardd am gyfnod gan y BBC (gw. Hill 2007, 114; am drafodaeth ynglŷn ag arwyddocâd cân arall gan Dafydd Iwan ynglŷn â’r arwisgiad, ‘Croeso Chwedeg Nain’, gw. Jones 2013).

Erbyn yr 1970au cynnar roedd momentwm pendant yn gwthio’r ymgyrch dros hunanreolaeth wleidyddol a statws i’r iaith ac fe ysgogodd hyn ddadeni o fewn y byd pop Cymraeg, gyda chanu protest yn rhan flaenllaw o’r deffroad. Amlygiad o’r dadeni cenedlaetholgar oedd sefydlu Cwmni Recordiau Sain yn 1969 a hynny ar y cyd rhwng Dafydd Iwan, y canwr Huw Jones a’r gŵr busnes Brian Morgan Edwards. Roedd sefydlu Sain yn gam sylfaenol bwysig yn hanes datblygiad pop Cymraeg ac yn ymdrech i sicrhau dyfodol i’r diwylliant poblogaidd newydd drwy ei osod ar sylfeini masnachol cadarn (am fwy ynglŷn â dylanwad Sain a chaneuon Dafydd Iwan o’r cyfnod hwn, gw. Wallis a Malm 1983).

Aeth cynnal a datblygu Sain â chryn dipyn o egni Dafydd Iwan o’r 1970au ymlaen a bu hefyd yn un o brif ysgogwyr Cymdeithas Tai Gwynedd, yn ymgeisydd seneddol, yn gynghorydd lleol ar wahanol adegau, yn gadeirydd Plaid Cymru (1982–4) ac yn bregethwr cynorthwyol. Roedd yn parhau i ganu a recordio yn ystod y cyfnod, fodd bynnag, yn aml gyda’r cerddor amryddawn Hefin Elis (aelod o’r grŵp roc Edward H Dafis) yn cynhyrchu a chyd- gyfansoddi rhai o’r caneuon, gan ryddhau casgliad o’i ganeuon mwyaf poblogaidd o’r cyfnod: Yma Mae Nghân (Sain, 1973), Mae’r Darnau yn Disgyn i’w Lle (Sain, 1976) a Carlo a Chaneuon Eraill (Sain, 1977). Bu methiant refferendwm dros ddatganoli grym gwleidyddol i Gymru yn 1979 hefyd yn symbyliad ar gyfer rhai o’r caneuon ar y record hir Bod yn Rhydd (Sain, 1979), gan gynnwys y gân deitl heriol, a’r fwy myfyrgar a mewnblyg ‘Weithiau Bydd y Fflam’ a ‘Hwyr Brynhawn’.

Gyda gweithgareddau Meibion Glyndŵr a’r ymgyrch losgi tai haf yn dwysáu yn dilyn refferendwm 1979 a’r galw am sianel deledu Gymraeg yn cynyddu, ymatebodd Dafydd Iwan i arweinyddiaeth awdurdodol y prif weinidog Margaret Thatcher drwy ryddhau’r sengl ‘Magi Thatcher/Sul y Blodau’. Fel yn achos ‘Carlo’, fe waharddwyd y record ar donfeddi’r BBC, gan dynnu sylw pellach i’r gân.

Yn 1980 daeth Dafydd Iwan i gysylltiad â’r grŵp gwerin Ar Log, ac er mwyn nodi 700 mlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), trefnwyd ‘Taith 700’ ar y cyd yn 1982. Gofynnodd y gwleidydd Gwynfor Evans iddo ysgrifennu cân ac ynddi obaith. Fe gyfansoddodd ‘Cerddwn Ymlaen’ gan ei ddilyn flwyddyn yn ddiweddarach gyda ‘Yma o Hyd’ a’i recordio gydag Ar Log ar gyfer y record hir eponymaidd (Sain, 1983). Ynghyd â thraciau megis ‘Gwinllan a Roddwyd’ (cân deyrnged i Saunders Lewis), fe ddaeth ‘Yma o Hyd’ yn un o ganeuon mwyaf anthemig yr iaith Gymraeg: nid yn unig yn gân wladgarol boblogaidd a gafaelgar, ond hefyd yn anthem bwysig am hir barhad y genedl Gymreig (gw. ap Siôn yn Elis a Tudur 2017).

Nid oedd pob cân gan Dafydd Iwan yn ymdrin â Chymru a’r iaith Gymraeg, fodd bynnag. Cyfansoddodd nifer o ganeuon i blant, gan gynnwys y fytholwyrdd ‘Mam Wnaeth Got i Mi’; ac yn dilyn newyn enbyd Ethiopia yn 1985 – wedi ei gyffwrdd wrth weld lluniau ar y teledu o blant y wlad yn dioddef – cyfansoddodd ‘Hawl i Fyw’, ‘anthem’ deimladwy mewn arddull gyfan gwbl wahanol i ‘Yma o Hyd’, oedd yn gofyn am ddiwedd ar yr holl ddioddef ac anghyfiawnder yn y byd.

Bu Dafydd Iwan yn parhau i berfformio’n gyson yn ystod yr 1990au a degawd cyntaf yr 21g. gyda’i fand ei hun y tro hwn, a’r aelodau yn cynnwys (ar wahanol adegau) Hefin Elis, Euros Rhys, Pwyll ap Siôn a Peter Williams (allweddellau), Charlie Britton (drymiau), Gari Williams (bas) a Tudur Morgan a Wyn Pearson (gitarau acwstig a thrydan). Yn 2001 a 2002 rhyddhawyd dau gasgliad o ganeuon byw i gofnodi awyrgylch trydanol y nosweithiau hyn.

Bu’n recordio yn y stiwdio o dro i dro, hefyd, gan gynnwys un o’i recordiau mwyaf personol, Cân Celt (Sain, 1995), ynghyd â Dos i Ganu (Sain, 2009), Cana dy Gân (Sain, 2012), y casgliad mwyaf cyflawn o’i ganeuon, ac yn fwyaf diweddar Emynau (Sain, 2015), casgliad o drefniannau traddodiadol a chyfoes. Bu hefyd yn cyflwyno tair cyfres deledu yn sôn am yr ysbrydoliaeth i nifer o’i ganeuon o’r enw Yma Mae ’Nghân (S4C). Fe’i hanrhydeddwyd gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth yn 1998, am ei gyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant Cymru dros hanner canrif a mwy.

Sarah Hill a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

Senglau ac EPs:

  • Rwy’n Gweld y Dydd (Teldisc TEP865, 1966)
  • [gydag Edward Morus Jones] Wrth Feddwl am Fy Nghymru (Teldisc TEP861, 1966)
  • [gydag Edward Morus Jones] Mae’n Wlad i Mi (Teldisc TEP864, 1966)
  • [gydag Edward Morus Jones] Clyw Fy Nghri! (Teldisc TEP866, 1967)
  • Myn Duw, Mi a Wn y Daw! (Sain 2, 1969)
  • Carlo (Teldisc WD913, 1969)
  • Croeso Chwedeg Nain (Teldisc WD914, 1969)
  • Pam Fod Eira yn Wyn (Sain 18, 1971)
  • Magi Thatcher (Sain 86S, 1980)

Recordiau Hir:

  • Yma Mae ’Nghân (Sain H1002, 1973)
  • [gydag Edward Morus Jones] Fuoch Chi Rioed Yn Morio (Sain H1005, 1973)
  • Mae’r Darnau Yn Disgyn I’w Lle (Sain 1045D, 1976)
  • Bod Yn Rhydd (Sain 1150M, 1979)
  • Ar Dân (Sain 1217M, 1981)
  • Gwinllan a Roddwyd: I Gofio’r Tri (Sain 1385M, 1986)
  • Dal i Gredu (Sain, SCD4053, 1991)
  • Caneuon Gwerin (Sain SCD2062, 1993)
  • Cân Celt (Sain SCD2097, 1995)
  • Yn Fyw – Cyfrol 1 (Sain SCD2239, 2001)
  • Yn Fyw – Cyfrol 2 (Sain SCD2296, 2002)
  • Man Gwyn (Sain SCD2576, 2007)
  • Dos i Ganu (Sain SCD2600, 2009)
  • Emynau (Sain SCD2731, 2015)

[gydag Ar Log]

  • Rhwng Hwyl a Thaith (Sain 1252M, 1982)
  • Yma o Hyd (Sain 1275M, 1983)

Casgliadau:

  • Dafydd Iwan – Y Caneuon Cynnar (Sain SCD2180, 1998)
  • Goreuon Dafydd Iwan (Sain, SCD2400, 2006)
  • Dafydd Iwan – Cana dy Gân (Sain SCD2675, 2012)

Llyfryddiaeth

  • Roger Wallis a Krister Malm, ‘Sain Cymru: The Role of the Welsh Phonographic Industry in the Development of a Welsh Language Pop/Rock/Folk Scene’, Popular Music, 3 (1983), 77–105
  • Dafydd Iwan, Cân Dros Gymru (Gwynedd, 2002)
  • E. Wyn James, ‘Painting the World Green: Dafydd Iwan and the Welsh Protest Ballad’, Folk Music Journal, 8/5 (2005), 594–618
  • Sarah Hill, ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music (Aldershot, 2007)
  • Craig Owen Jones, ‘“Songs of Malice and Spite”?: Wales, Prince Charles, and an Anti-Investiture Ballad of Dafydd Iwan’, Music and Politics, 7/2 (Haf, 2013)
  • Dafydd Iwan, Pobol (Talybont, 2015)
  • Pwyll ap Siôn, ‘Yma o Hyd – Dafydd Iwan ac Ar Log’ yn Elis Dafydd a Marged Tudur (goln.), Rhywbeth i’w Ddweud: 10 o ganeuon gwleidyddol, 1979–2016 (Aberystwyth, 2017), 35–41



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.