James, Eirian (g.1952)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Eirian James yn Aberteifi ac astudiodd yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Ruth Packer. Yn gynnar yn ei gyrfa disgleiriodd fel mezzo-soprano eithriadol o addawol a bu galw mawr amdani. Datblygodd yrfa lwyddiannus mewn opera, yn y neuadd gyngerdd ac yn y stiwdio recordio.

Bu’n amlwg iawn ar lwyfannau opera’r byd, canodd gyda phob cwmni opera ym Mhrydain a bu’n unawdydd lawer tro yng nghyngherddau Proms y BBC. Bu’n ffefryn gan sawl arweinydd blaengar, er enghraifft Syr Roger Norrington yn Kent Opera, lle canodd rannau Cherubino (Le Nozze di Figaro Mozart), Poppea (L’incoronazione di Poppea Monteverdi), Dido (Dido and Aeneas Purcell), Olga, Meg Page (Falstaff Verdi), Polly Peacham (The Beggar’s Opera John Gay) a Nero (Agrippina Handel). Teithiodd ar y cyfandir mewn cynyrchiadau dan arweiniad Syr John Eliot Gardiner, Jean-Claude Malgoire, Syr Colin Davis a Norrington, a gwnaeth enw iddi ei hun yn America, lle bu Houston Grand Opera yn ganolfan bwysig iddi.

Yn y neuadd gyngerdd cyfrannodd i lawer o gyngherddau a ganmolwyd yn fawr, yn eu plith Lieder eines fahrenden Gesellen (Mahler) yn Lyon, Offeren yn C (Beethoven) gyda Gardiner, yr Offeren yn C leiaf (Mozart) yng Nghaeredin a Pharis, a’r Harmoniemesse (Haydn) eto gyda Norrington. Bu’n canu’n gyson gydag Opera Cenedlaethol Cymru a chyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac fe’i cofir yn arbennig am ei pherfformiadau hudolus ar sawl rhaglen deledu, gan gynnwys ei chyfres ei hun, ar S4C.

Richard Elfyn Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.