James, Richard (g.1975)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Gorky's Zygotic Mynci)

Fe’i ganed yng Nghaerfyrddin ac ef oedd cyd- sylfaenydd y grŵp seico-werin Gorky’s Zygotic Mynci gydag Euros Childs a John Lawrence. Ffurfiwyd y grŵp yn 1991 yn Freshwater East, Sir Benfro. Cyfarfu’r tri pan oeddent yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.

Chwarae’r gitâr fas yn y band a wnâi James i ddechrau. Yna yn 1999, pan ymadawodd Lawrence, cymerodd yr awenau fel gitarydd. Fodd bynnag, roedd yn nodweddiadol o’r grŵp fod yr aelodau yn cyfnewid offerynnau’n aml er mwyn arbrofi ac arddangos eu doniau. Byddai James yn cyd- ganu’n gyson gyda Childs hefyd. Recordiodd James gyfanswm o wyth albwm gyda Gorky’s Zygotic Mynci dros gyfnod o dair blynedd ar ddeg, gan ennill edmygedd cefnogaeth troellwyr disgiau fel y diweddar John Peel a Mark Radcliffe am ei waith. Ar wahân i’r recordiau hir niferus, rhyddhaodd y grŵp nifer fawr o recordiau EP a rhai sengl hefyd. Ers chwalu’r grŵp ym Mai 2006, rhyddhaodd James bedair albwm unigol, sef The Seven Sleepers Den (Boobytrap, 2006), We Went Riding (Gwymon, 2010), Pictures in the Morning (Gwymon, 2010) ac All the New Highways, yn ddigidol yn 2015 ac yna ar finyl a CD yn 2016.

Un elfen sy’n nodweddiadol o’i waith yw ei fod yn hynod ddyfeisgar ac yn aml yn chwareus, yn hoff iawn o chwarae ac arbrofi gyda gwahanol fathau a genres cerddorol, gan gyfuno melystra a chwerwder, tynerwch a tharanu, a chymysgu genres yn greadigol hefyd wrth cwmpasu blues a roc swnllyd neu ganolbwyntio’n unig ar un offeryn syml megis y banjo gwledig. Bu hefyd yn gweithio gyda cherddorion o draddodiadau gwahanol, gan fynd ar deithiau i Swdan (2012) ac Awstralia (2014). Mae ei gyd- aelod o Gorky’s Zygotic Mynci, Euros Childs, wedi ymddangos ar ambell un o recordiau James hefyd, megis We Went Riding, ac fe wnaeth Cate Le Bon – y gantores o’r un ardal â’r Gorky’s – gyfrannu’n gynnar yn ei gyrfa i albwm unigol cyntaf James, The Seven Sleepers Den.

Mae James hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer ffilm, ac fe gafodd ei gerddoriaeth ar gyfer y gyfres ddrama Cara Fi (S4C, 2014) enwebiad Bafta Cymru. Bu hefyd yn cydweithio gydag Anthony Shapland, artist a churadur oriel G39 yng Nghaerdydd, i greu prosiect amlgyfrwng i ddathlu canmlwyddiant y bardd Dylan Thomas. Rhyddhawyd ei EP In France yn rhad ac am ddim yn 2011. Gyda’r awdur a’r nofelydd John Williams, sefydlodd James gydberchnogaeth greadigol ar ddigwyddiadau byrfyfyr, In Chapters, sy’n uno creadigrwydd llenyddol a cherddorol, gan ddyfeisio sioeau amlgyfrwng ar lwyfan Canolfan Chapter, Caerdydd, a hefyd ar-lein. James yw cyfarwyddwr cerddorol y prosiect hwn, sydd hefyd wedi esgor ar fand Pen Pastwn, ac ef sy’n curadu cynnwys cerddorol Gŵyl Talacharn yng ngorllewin Cymru.

Mae ei fand, Pen Pastwn, wedi teithio’n eang gan gynnwys wythnos o daith – dan nawdd y Cyngor Prydeinig – yn Swdan yn Chwefror 2012 ynghyd ag ymweliad i Mwmbai, India, lle perfformiwyd The Colour of Saying (sy’n seiliedig ar farddoniaeth Dylan Thomas) gan gydweithio gyda rhai o gerddorion y wlad. Yn 2013–14, bu’n cydweithio gyda Gareth Bonello ( The Gentle Good) gan recordio caneuon acwstig tyner a’u perfformio’n fyw yn ogystal.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • ‘My Heart’s On Fire’ [sengl] (Boobytrap Records, 2006)
  • The Seven Sleepers Den (Boobytrap Records BOOBREC018CD, 2006)
  • ‘When You See Me (In the Pouring Rain)’ [sengl] (Gwymon CD011, 2010)
  • We Went Riding (Gwymon CD009, 2010)
  • Pictures in the Morning (Gwymon CD015, 2012)
  • All the New Highways (The state51 Conspiracy CON190CD, 2016)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.