Jargon

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:34, 2 Gorffennaf 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Enw difrïol ar eirfa arbenigol rhyw faes neu’i gilydd. Yr ensyniad yw y defnyddir yr eirfa hon gan goeg-arbenigwyr i borthi eu pwysigrwydd eu hunain ac i daflu llwch i lygaid pawb arall. Mae llawer o wir yn y cyhuddiad, ond dylem gofio bod yna’r fath beth â ‘jargon ddilys’. Dyna yw termau’r glöwr a’r chwarelwr am eu hoffer a’u technegau, geirfa sawl crefft arall, geirfa’r gyfraith a phob gwyddor, a holl dermau diwinyddiaeth: mae pob term yn cyfateb i wrthrych pendant (diriaethol neu haniaethol), ac anodd fyddai cynnal y gweithgarwch heb y termau. Am rai termau a welir ac a glywir yn aml heddiw, ni ellir dweud hyn â’r un sicrwydd. Perthyn i fyd gweinyddiaeth, a gweinyddiaeth addysg yn enwedig, y mae asesu, arfarnu, gwerthuso, dysgu ac addysgu, arfer da, adborth, allbwn, mewnbwn, aseiniad, ffocysu, deilliannau, argaeledd ... a gellid estyn y rhestr. Yn ramadegol nid oes dim o’i le ar yr eirfa hon, a dichon fod iddi ei defnyddioldeb mewn rhai cyd-destunau penodol iawn; ond rhaid gofyn beth y bu dynol ryw yn ei wneud cyhyd hebddi.

O’i chychwyniad bu gan feirniadaeth lenyddol ryw gymaint o eirfa arbenigol, a gellid galw honno’n jargon. Dyna yw anagnorisis (adnabyddiaeth), peripateia (troad), catharsis (glanhad) yng ngwaith Aristoteles, ac yn wir y termau trasiedi a comedi eu hunain – geiriau ag ystyron digon pendant bob un. Soniai beirniaid Saesneg y 18g. am eu ‘sublime’ a’u ‘copiousness’ a’u ‘significancy’, a chododd Goronwy Owen beth o’r eirfa hon. Os chwiliwn eto am ‘jargon ddilys’, nid oes well enghraifft na geirfa cerdd dafod y Cymro – enwau’r mesurau, y cynganeddion, yr effeithiau, y goddefiadau, y gwallau. Dyma eirfa bwrpasol i ddeall a gweithredu cyfundrefn o ddeddfau Cymreig.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Partridge, E. (1977), ‘Jargon’, Usage and Abusage. A Guide to Good English, argraffiad newydd (Harmondsworth: Penguin Books), t. 161.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.