Jarman, Geraint (g.1950)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:49, 28 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ar sail ei gyfraniadau fel canwr a chyfansoddwr, bardd, cynhyrchydd fideo a rhaglenni ar ganu pop Cymraeg, daeth Geraint Jarman yn un o brif gymeriadau’r byd adloniant a diwylliant yng Nghymru o ddiwedd yr 1960au hyd at ddegawdau cyntaf yr 21g. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd ei ddylanwad ar y diwylliant poblogaidd Cymraeg yn aruthrol. Llwyddodd i chwyldroi’r canfyddiad o’r hyn oedd y diwylliant a thrawsnewidiodd hefyd yr ymagweddu at broffesiynoldeb o fewn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Ganed Geraint Rhys Maldwyn Jarman yn Ninbych ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn bedair oed. Yno, cyflwynwyd ef i sŵn cerddoriaeth y byd yn ardal y dociau, Glan’rafon a Thre-biwt. Yn ddeg oed, yng nghwmni ei chwaer Tanwen, canodd ar raglen Gwlad y Gân ar TWW. Dechreuodd gyfansoddi caneuon pan oedd yn bymtheg oed ac erbyn 1967 roedd yn ysgrifennu caneuon ar gyfer Heather Jones. Gwnaeth ei farc hefyd fel bardd gyda cherddi yn ymddangos yn Burning The Hands Of The Clock (1967) a Zutique (Second Aeon Publications, 1968), y naill yn gyfrol aml-gyfrannog tra bod y llall ar y cyd gyda’r bardd David Callard.

Yn 1967 enillodd ddwy wobr mewn cystadleuaeth bop newydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin. Yn fuan wedi hyn, cyfarfu â’r canwr Meic Stevens ac arweiniodd hynny at gyfansoddi’r ‘opera roc’ Etifeddiaeth Drwy’r Mwg (1970). Tua’r un cyfnod, ffurfiodd Geraint Jarman, Heather Jones a Meic Stevens grãp o’r enw Y Bara Menyn. Er mai herio’r byd pop Cymraeg cyfredol oedd bwriad Y Bara Menyn, cawsant lwyddiant gyda’u sengl EP ‘Caru Cymru’ (Dryw, 1969).

Fe fyddai Jarman wedi gwneud ei farc ar ddiwylliant Cymraeg pe na bai ond wedi cyhoeddi y ddwy gyfrol o farddoniaeth, Eira Cariad (Dryw, 1970) a Cerddi Alfred Street (Gomer, 1976), ond fe’i cofir yn bennaf am y gyfres o recordiau hollbwysig a ymddangosodd yn ystod y degawd o ddiwedd yr 1970au ymlaen gyda’i grŵp Y Cynganeddwyr a ddaeth yn gerrig milltir yn hanes canu roc Cymraeg ar sail eu huchelgais gerddorol a’u gallu i lunio syniad eang ac agored o Gymreictod.

Cafwyd addewid o’r hyn oedd i ddod ar y ddwy record hir gyntaf unawdol, Gobaith Mawr y Ganrif (Sain, 1976) a Tacsi i’r Tywyllwch (Sain, 1977), a recordiwyd yn Stiwdio Stacey, Caerdydd, gyda chyfraniadau’r gitarydd amryddawn Tich Gwilym (Robert Gwilliam; 1950–2005) o Ben-y-graig, Rhondda, i’w clywed ar y gân epig ‘Ambiwlans’ o Tacsi i’r Tywyllwch, er enghraifft. Dilynwyd hyn gyda thrioleg o recordiau, y tro hwn gyda’r Cynganeddwyr, sef Hen Wlad Fy Nhadau (Sain, 1978), Gwesty Cymru (Sain, 1979) a Fflamau’r Ddraig (Sain, 1980), gan amlygu dylanwadau cerddorol megis reggae a’r don newydd am y tro cyntaf yn y Gymraeg mewn caneuon fel ‘Methu Dal y Pwysau’ ac ‘Instant Pundits’.

Ar ei orau, fel yn y clasur o gân ‘Ethiopia Newydd’, llwyddodd Jarman i ddarlunio’r profiad dinesig o fod yn Gymro ar sail ei brofiadau personol – a thrwy wneud hynny, i gysylltu â phrofiadau nifer o Gymry Cymraeg ei genhedlaeth. Roedd ei ganeuon yn aml yn priodi’n effeithiol sefyllfa’r Cymry a’r iaith Gymraeg gyda delweddau geiriol ac arddulliau cerddorol a fodolai ymhell tu hwnt i ffiniau’r wlad, yn arbennig cred Rastaffaraidd Jamaica (am ymdriniaeth Jarman o’r arddull reggae, gw. Wallis a Malm 1983, 80–81; ap Siôn 1997; Hill 2007, 123–42). Amlyga’r recordiau hyn allu Jarman i gyrraedd at graidd yr hyn am Gymru oedd yn berthnasol iddo ef, boed yn sylwebaeth ddeifiol ynglñn â rhagrith y sefydliad Cymraeg yn ‘Gwesty Cymru’, ymgyrch losgi tai haf Meibion Glyndãr yn ‘Fflamau’r Ddraig’ eu chwedloniaeth y Mabinogion ar y record hir Diwrnod i’r Brenin (Sain, 1981). Yn hynny o beth, ac yn rhannol oherwydd ei fand cosmopolitan Y Cynganeddwyr – a oedd, ynghyd â Tich Gwilym, yn cynnwys cerddorion galluog megis Richard Dunn (allweddellau), Pete Hurley (bas), Neil White (gitâr rhythm) ac Arran Ahmun (drymiau) – fe drawsnewidiwyd yr arlwy cerddorol Cymraeg. Roedd yr elfennau newydd yn cynnwys darnau byrfyfyr a chyfraniadau offerynnol a oedd yn gyfartal â’r rhai lleisiol. Ym mherfformiadau’r Cynganeddwyr, roedd sŵn gitâr Tich Gwilym (neu’n ddiweddarach, gitâr Peredur ap Gwynedd) mor bwysig â llais Jarman a neges y gân.

Yn ystod yr 1980au, ac yn rhannol o ganlyniadi sefydlu S4C, dechreuodd Jarman ymddiddori yn y byd ffilm a theledu, yn gyntaf gyda’r ffilm Macsen (Sain, 1983), a oedd yn rhannol hunangofiannol, ac Enka (Sain, 1985), a adlewyrchai ei ddiddordeb mewn crefft ymladd ac ysbrydegaeth Ddwyreiniol, megis Aikido. Yn 1986 teithiodd Jarman a’i fand gyda’r grãp roc ifanc o Fethesda, Maffia Mr Huws, er mwyn hyrwyddo’r EP Taith y Carcharorion (Sain, 1986), a oedd hefyd yn cynnwys teyrnged i’r bardd a’r dramodydd Saunders Lewis (1893–1985), ‘Nos Da Saunders’. Clywid elfennau mwy electronaidd yn treiddio drwy ei ganeuon o’r cyfnod gyda defnydd helaeth o syntheseisyddion a sampleri. Yn ystod y cyfnod hwn fe gyd-gynhyrchodd raglen ddogfen ar hanes Maffia Mr Huws, Awe Fo’r Micsar (S4C, 1986), a dyma gychwyn ar elfen newydd yng ngyrfa Jarman fel mentor a lladmerydd ar ran grwpiau ifanc newydd Cymraeg.

Fe ddaeth hyn yn bennaf drwy gyfrwng ei waith fel cynhyrchydd y rhaglen deledu arloesol Fideo 9 (1988–92). Drwy gyfrwng Fideo 9 roedd cwmni cynhyrchu Jarman, Criw Byw, nid yn unig yn rhoi llwyfan i dalent ifanc ond hefyd yn hybu proffesiynoldeb y diwydiant pop drwy gynhyrchu fideos cerddorol o fandiau newydd, ffilmio cyngherddau byw yng Nghymru a thramor a dangos fideos pop gan fandiau Ewropeaidd. Er mai cefndirol oedd cyfraniad Jarman ar y cychwyn, erbyn y drydedd gyfres roedd yn fwy gweithredol o ran cynhyrchu a chyfarwyddo fideos a sesiynau byw, ac o ganlyniad bu’n hyrwyddwr brwd o nifer o fandiau ifanc newydd megis Ffa Coffi Pawb, Beganifs (a ddaeth wedyn yn Big Leaves) a Melys.

Ar ôl dyddiau Fideo 9 dychwelodd Jarman at ei yrfa recordio’i hun gan ryddhau nifer o ddisgiau ar label Ankst, gan gynnwys Rhiniog (Ankst, 1992), a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan aelodau Maffia Mr Huws, Y Ceubal y Crossbar a’r Quango (Ankst, 1994), lle clywid chwarae gwych ap Gwynedd am y tro cyntaf ar ei recordiau, ac yn fwy diweddar y record bersonol, Brecwast Astronot (Ankst, 2011) sydd yn cynnwys cân deyrnged i Tich Gwilym, ‘Baled y Tich a’r Tal’, yr hunangofiannol Dwyn yr Hogyn Nôl (Ankst, 2014), a’r gwerin-roc Tawel yw’r Tymor (Ankst, 2016). Bu’n parhau i gynhyrchu dub reggae mewn recordiau megis yr EP Morladron (Sain, 2002) ac mewn cydweithrediad â grwpiau megis Llwybr Llaethog.

Adlewyrchwyd parch, edmygedd a chydnabyddiaeth cyfraniad Geraint Jarman i’r diwydiant pop gan y nifer helaeth o’i ganeuon a gafodd eu trefnu gan gerddorion a grwpiau Cymraeg, gan cynnwys ail fersiwn o Hen Wlad Fy Nhadau (Ankst, 1990) a recordiwyd gan gerddorion blaenllaw y cyfnod – megis Steve Eaves, Llwybr Llaethog, Ffa Coffi Pawb, Tŷ Gwydr, Jecsyn Ffeif a Datblygu – ac o bryd i’w gilydd recordiwyd ei ganeuon gan artistiaid eraill hefyd, megis Iwcs a Doyle (‘Rhywbeth Bach’) a Dafydd Dafis (‘Gweithio Ar Wyneb Y Graig’). Fe enillodd ei record Atgof Fel Angor (Sain, 2008) wobr ‘Casgliad Gorau’ yng Ngwobrau’r Selar 2008.

Sarah Hill a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth (am restr gyflawn gw. Jarman 2011)

[fel artist unigol]

  • Gobaith Mawr y Ganrif (Sain 1022M, 1976)
  • Tacsi i’r Tywyllwch (Sain 1096M, 1977)
  • Brecwast Astronot (Ankst 130, 2011)
  • Dwyn yr Hogyn Nôl (Ankst 137, 2014)
  • Tawel yw’r Tymor (Ankst 140, 2016)

[gyda’r Cynganeddwyr]

  • Hen Wlad Fy Nhadau (Sain 1128M, 1978)
  • Gwesty Cymru (Sain 1158M, 1979)
  • Fflamau’r Ddraig (Sain 1182M, 1980)
  • Diwrnod i’r Brenin (Sain 1123M, 1981)
  • Macsen (Sain 1289M, 1983)
  • Enka (Sain C948N, 1985)
  • Rhiniog (Ankst 029, 1992)
  • Y Ceubal y Crossbar a’r Quango (Ankst 050, 1994)
  • Eilydd Na Ddefnyddiwyd/Sub Not Used (Sain SCD2210, 1998)
  • Morladron [EP] (Sain SCD2363, 2002)

Casgliad:

  • Atgof Fel Angor (Sain SCD2531, 2008)

Llyfryddiaeth

  • Geraint Jarman, Eira Cariad (Llandybïe, 1970)
  • ———, Cerddi Alfred Street (Llandysul, 1976)
  • Roger Wallis a Krister Malm, ‘Sain Cymru: The Role of the Welsh Phonographic Industry in the Development of a Welsh Language Pop/Rock/Folk Scene’, Popular Music 3: Producers and Markets (1983), 77–105
  • Pwyll ap Siôn, ‘Gwrthleisiau: Geraint Jarman a Gwreiddiau Reggae mewn Cerddoriaeth Boblogaidd Gymreig’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 2 (1997), 278–92
  • Sarah Hill, ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music (Aldershot, 2007)
  • Geraint Jarman, Twrw Jarman (Llandysul, 2011)
  • ———, Cerbyd Cydwybod (Llandysul, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.