Jenkins, David (1848-1915)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:03, 13 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gwnaeth David Jenkins gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth Cymru fel cyfansoddwr, addysgwr, arweinydd, golygydd, beirniad a threfnydd. Ond oni bai am y ffaith ei fod wedi’i drwytho’n ifanc mewn sol-ffa, mae’n bur annhebyg y byddai wedi symud o Drecastell, Sir Frycheiniog, lle y’i ganed a lle cafodd ei baratoi ar gyfer bod yn deiliwr. O leiaf fe gadwodd ei chwaeth at ddillad trwsiadus, fel y mae darluniau ohono’n awgrymu. Roedd ymhlith myfyrwyr cyntaf Joseph Parry (1841–1903) yn adran gerdd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1874. Gan nad oedd modd sefyll arholiadau BMus Prifysgol Cymru ar y pryd, llwyddodd i ennill gradd MusBac Caergrawnt yn 1888. Daeth yn ddarlithydd pan ailagorwyd yr adran yn 1893 ac yn Athro yn 1910.

Daeth David Jenkins i amlygrwydd fel arweinydd cymanfaoedd canu - un o’r ychydig gyfleoedd i’r werin bobl ddod i gysylltiad â cherddoriaeth fyw. Roedd ganddo, yn ôl pob sôn, lais soniarus a gafael ar ei gynulleidfa. Yn dilyn marwolaeth Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822-77) cafodd rwydd hynt i deithio Cymru a chodi safonau canu. Ef yn wir oedd ‘Kaiser y Gymanfa’ uwchben torf o gantorion.

Ei brif weithiau yw gweithiau corawl ar raddfa fawr megis Arch y Cyfamod, Dafydd a Goliath, A Psalm of Life, Dewi Sant, Job, Llyn y Morwynion, Yr Ystorm, Golygfeydd yn Hanes Moses, The Galley Slave, yr opera The Enchanted Isle a’r opera anghyhoeddedig ‘Aylwin’. Cyhoeddodd ei waith ei hun o Gastell Brychan yn Aberystwyth a bu farw’n unigolyn cyfoethog. Perfformiwyd A Psalm of Life yn y Palas Grisial yn Llundain gan gôr o 2,000 o gantorion ym mis Gorffennaf 1896 a chafodd dderbyniad da.

Y mae cyfanweithiau mawr David Jenkins yn dioddef o ddiffyg cysondeb mewn arddull. Fel yn achos ei athro Joseph Parry, ceir adrannau sy’n efelychu cyfansoddwyr o’r cyfnod Rhamantaidd, megis Felix Mendelssohn a Charles Gounod, ac yna ffiwg Handelaidd i ddilyn, a gorddefnyddiodd yr amseriad triphlyg yn y mwyafrif o’i weithiau. Ei wir allu fel cyfansoddwr (fel ei athro), oedd fel lluniwr emyn-donau effeithiol, ‘Penlan’ a ‘Builth’ yn eu plith.

Yn Aberystwyth cyflwynodd y myfyrwyr a’r cyhoedd i nifer helaeth o weithiau corawl mawr o dan ei arweiniad, megis The Golden Legend (Sullivan) yn 1887, The Ancient Mariner (Barnett) yn 1888, Acis a Galatea, Messiah, Samson (Handel), Y Greadigaeth (Haydn), St Paul a Walpurgisnacht (Mendelssohn), The Revenge (Stanford) a’i waith ef ei hun A Psalm of Life yn 1896. Arweiniodd sawl perfformiad o Hiawatha’s Wedding Feast a The Death of Minnehaha gan Samuel Coleridge Taylor (1875-1912), ffefryn mawr yn y cyfnod.

Parthed ei waith fel trefnydd ei adran, dywedodd J. Lloyd Williams amdano ei fod yn ‘fwy o bregethwr Cymanfa nag o fugail eglwys’. Ond o leiaf cynigiodd gyfleoedd i unigolion wella eu gallu offerynnol mewn ysgol haf gerddorfaol. Roedd Williams hefyd yn feirniadol ohono fel golygydd Y Cerddor, ond roedd Jenkins yn ddigon chwilfrydig fel cerddor i deithio i glywed operâu Richard Wagner yn Bayreuth ac i hysbysu ei ddarllenwyr am y profiad, er na chafodd hynny fawr o effaith ar ei gyfansoddi ef ei hun.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • J. Lloyd Williams, ‘Y Diweddar Athro D. Jenkins’, Y Wawr, III/2 (1916), iv
  • J. H. Jones (gol.), Er Cof am yr Athro David Jenkins, 1935 (Lerpwl, 1935)
  • Gareth Williams, Valleys of Song: music and society in Wales, 1840–1914 (Caerdydd, 1998)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.