Jenkins, John (Ifor Ceri; 1770-1829)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:53, 13 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gŵr a ddaeth yn brif ladmerydd a phrif weledydd cylch ‘yr hen bersoniaid llengar’ oedd Ifor Ceri ac ysbrydolodd yr achos o blaid casglu a chofnodi alawon traddodiadol Cymreig ar ddechrau’r 19g. Er ei amryfal gyfraniadau i fyd barddoniaeth a llenyddiaeth, cerddor ydoedd yn anad dim arall a thrwy gyfrwng ei waith hynafiaethol a chadwraethol ym maes canu gwerin gellir ei gyfrif yn ddilynwr clodwiw i Iolo Morganwg.

Fe’i ganed yng Nghilbronnau, Ceredigion, ac fe’i penodwyd i ficeriaeth Llanfihangel-yng-Ngheri ger y Drenewydd yn 1807, lle bu hyd ddiwedd ei oes. Gyda threigl amser tadogwyd enw’r plwyf hwnnw yn gynffon ar ei enw. Galwai ei hun yn ‘Ioan Ceri’, sef yr enw barddol a ddewisodd pan urddwyd ef i’r Orsedd yn 1819. Ond oherwydd ei letygarwch a’i nawdd diledryw enillodd y ffugenw Ifor Hael o Geri - gan ddwyn i gof yr Ifor Hael a fu’n noddwr i Ddafydd ap Gwilym – a thalfyrrwyd yr enw maes o law i Ifor Ceri. Cynigiai lety i’w westeion a rhoddai nawdd i feirdd, cerddorion a chantorion gwerin lleol, megis Alun (John Blackwell), Ieuan Glan Geirionydd (Evan Evans), Taliesin Williams, Cawrdaf (William Ellis Jones), John Howell a Henry Humphreys.

Adwaenid yr offeiriaid llengar hyn fel aelodau ‘cylch Ceri’ am iddynt fabwysiadu cartref Ifor, sef The Moat, yn fan ymgynnull answyddogol. Gweithredai megis tŷ agored adeg y Calan, ond roedd yn ddisgwyliedig y medrai’r holl ymwelwyr ‘gyfansoddi englyn, lleisio tôn, neu gyweiriaw telyn’ (yn Jenkins a Lloyd (goln.) 1953, 409). Gwelwyd egin ddechreuad yr eisteddfodau taleithiol yn sgil trafodaethau a gafwyd ar aelwyd Ifor yn 1818 a bu’n drefnydd cyngherddau’r eisteddfodau cyn i John Parry (Bardd Alaw) ei olynu.

Dyma pryd y cyflwynodd Ifor un o’i gasgliadau llawysgrif o alawon gwerin i John Parry a ddaeth yn sail i’w gyhoeddiad The Welsh Harper, II (1848). Dywedai John Parry yn ei ragymadrodd i’r gyfrol mai alawon oeddynt, ‘selected chiefly from manuscript collections presented to me, many years ago, by the late Owen Jones, Myvyr, and the Rev. John Jenkins, of Ceri’ (gw. Parry 1848, i). Rhoddodd hefyd amryw o’i gasgliadau o alawon gwerin fel deunydd ar gyfer cyfrol Maria Jane Williams Ancient National Airs (1844). Llafur cariad oedd cofnodi’r alawon iddo a cheid cyfnewid a chymharu afieithus rhwng y casglwyr.

Er enghraifft, cyfoethogodd Ifor gasgliad John Parry o dros gant o alawon, ychwanegodd hefyd at gasgliad llawysgrifol Mair Richards (Darowen) drwy roi rhan o Melus-geingciau Deheubarth Cymru iddi yn rhodd yn 1820 (Huws 1985, 36; Ellis 1978, 20; Evans 2009, 35; Ellis yn ap Gwilym a Lewis (goln.), 1981, 111; perthyn y casgliad hwn i lawysgrif J. Lloyd Williams 36 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth). Gwnaeth Dewi Silin yr un fath i gasgliad Ifor, sef Melus-seiniau Cymru (perthyn y casgliad hwn i lawysgrif NLW MS 1940Ai). Apeliai’r elfen gymdeithasol yn fawr ato – casglai’r alawon nid yn unig er mwyn eu gosod ar gof a chadw ond hefyd er mwyn eu clywed a’u perfformio.

Dechreuodd gasglu alawon a phenillion yn ystod ei dymor fel myfyriwr yn Rhydychen, er honna John Parry (Bardd Alaw) yn ei ragymadrodd i’w ail gyfrol The Welsh Harper, II (1848), mai yn ystod degawd olaf y 18g. y dechreuodd Ifor o ddifrif (Evans 2009, 43; Williams yn Thomas 1982, 153; Ellis yn ap Gwilym 1979, 57; Stephens 1997, 373), ac fe’i hurddwyd yn ddiacon yn 1794 (Huws 1985, 32). Meddai Ifor ar ‘lais canu peraidd’ (Ellis 1976, 25) a chanai’r delyn, y clarinét, y corn a’r crwth (Williams yn Thomas 1982, 156 a 161; Ellis 1978, 14; Ellis yn ap Gwilym 1979, Ellis 1976, 25; Evans 2009, 37). Bu’n gurad i’w ewythr ar Ynys Wyth ac hefyd yn gaplan ar longau rhyfel lle chwaraeai alawon Gwent a Morgannwg i godi ysbryd ei gyd-deithwyr (Ellis 2008, 119).

Synhwyrodd fod oes yr alawon gwerin yn dirwyn i ben pe na gwneid ymdrech fwriadol i’w diogelu. Credai y dylai pobl ymddiddori yn niwylliant a llên gwerin eu cynefinoedd. Ymgais i bontio rhwng ymdrechion cynharach Cymdeithas y Gwyneddigion a gweithgarwch yr offeiriaid llengar yn ddiweddarach oedd sail ymdrechion cadwraethol Ifor. Casglai alawon o bob cwr o Gymru, o Geredigion, Darowen, de Cymru a Dyffryn Ceiriog (Huws 1986, 49). Bum mlynedd cyn ei farwolaeth, ar 20 Tachwedd 1829, yn eisteddfod daleithiol y Trallwng 1824, cyflwynodd Ifor y gystadleuaeth gyntaf a roddai flaenoriaeth i gasgliadau o alawon gwerin Cymreig.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

  • R. T. Jenkins a J. E. Lloyd (goln.), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953)
  • B. L. Jones, Yr Hen Bersoniaid Llengar (Dinbych, 1963)
  • Mari Ellis, ‘John Jenkins, Ifor Ceri, 1770–1829, Portread, Rhan I’, Yr Haul a’r Gangell, 1 (Haf, 1976), 25–30
  • ———, ‘Ifor Ceri a’r ‘Melus-Seiniau’’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 5/9 (Haf, 1978), 13–21
  • ———, ‘Rhai o Gymeriadau’r Eisteddfodau Taleithiol’, yn G. ap Gwilym (gol.), Eisteddfota 2 (Abertawe, 1979), 56–71
  • ———, ‘Rhai o Hen Bersoniaid Llengar Maldwyn’, yn G. ap Gwilym a R. H. Lewis (goln.), Bro’r Eisteddfod: Cyflwyniad i Faldwyn a’i Chyffiniau (Abertawe, 1981), 85–116
  • S. J. Williams, ‘Ifor Ceri – Noddwr Cerdd (1770–1829)’, yn W. Thomas (gol.), Cerdd a Chân: Golwg ar Gerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru (Dinbych, 1982), 148–67
  • D. Huws, ‘Melus-Seiniau Cymru’, Canu Gwerin, 8 (1985), 32–50
  • M. Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997)
  • Mari Ellis, ‘Y Personiaid Llengar a Llên y Werin’, yn E. W. James a T. V. Jones (goln.), Gwerin Gwlad: Ysgrifau ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1 (Llanrwst, 2008), 113–39
  • Meredydd Evans, Hela’r Hen Ganeuon (Lolfa, 2009)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.