Jenkins, Katherine (g.1980)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y mezzo-soprano Katherine Jenkins yng Nghastell-nedd. Ymunodd a chôr Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd, yn saith mlwydd oed, gan fynychu’r ysgol gynradd eglwysig Ysgol Alderman Davies. Aeth ymlaen i dderbyn ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin tra bu hefyd yn aelod o’r Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig rhwng 1991 ac 1996. Derbyniodd hyfforddiant lleisiol gan y tenor John Hugh Thomas cyn ennill ysgoloriaeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, yn 17 mlwydd oed; yno astudiodd gyda Beatrice Unsworth gan raddio yn 2002. Fe’i hetholwyd yn Aelod Cysylltiol o’r Academi (ARAM) yn sgil ei chyfraniad i gerddoriaeth. Yn 2014 derbyniodd OBE am ei chyfraniad i gerddoriaeth a gweithgarwch elusennol.

Tra oedd yn fyfyrwraig ac yn y blynyddoedd dilynol bu’n gweithio mewn meysydd amrywiol gan gynnwys addysgu canu mewn ysgol berfformio ac fel athrawes beripatetig, a chyfnod yn modelu. Yna derbyniodd gytundeb gan Universal Classics i ryddhau chwe albwm a ddaeth â hi i sylw fel artist a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd mewn marchnad ryngwladol.

Daeth i frig y siartiau albymau clasurol gyda’i recordiad cyntaf, Premiere (UCJ, 2004). Bu’r recordiadau dilynol, sef Second Nature (2004), Living a Dream (2005), Serenade (2006), Rejoice (2007) a Sacred Arias (2008), pob un dan label Universal, yn fasnachol boblogaidd yn ogystal. Wedi cwblhau’r cytundeb â chwmni recordio Universal aeth ymlaen i weithio gyda Warner Music yn 2009 gan gynhyrchu Believe (2009), Daydream (2011) a’r albwm Nadoligaidd This is Christmas (2012), cyn dychwelyd at un o is-labeli Universal, Decca Records, gyda My Christmas (2012) a Home Sweet Home (2014).

Bydd yn rhoi perfformiadau cyhoeddus ac elusennol yn rheolaidd. Ers 2003 mae wedi canu anthem genedlaethol Cymru cyn gemau rygbi rhyngwladol gan ymuno â thîm rygbi Cymru fel masgot yng Nghwpan y Byd, Awstralia. Perfformiodd yn Berlin yn un o gyngherddau elusennol Live 8 a drefnwyd gan Bob Geldof yn 2005, a derbyniodd wahoddiad gan Sefydliad y Lluoedd Prydeinig i berfformio mewn cyngherddau ar gyfer aelodau o’r lluoedd arfog yn Irac ac Affganistan. Daeth yn weithgar gyda’r Lleng Brydeinig Frenhinol trwy berfformio yng ngwasanaethau Sul y Cofio.

Fe’i gwelir yn rheolaidd ar y teledu - nid yn unig fel cantores ond hefyd fel actores - gan iddi ymddangos yn opera sebon Emmerdale yn ystod 2007 ac mewn rhifyn arbennig o Doctor Who yn 2010. Cystadlodd fel dawnswraig yn y gyfres Americanaidd Dancing with the Stars yn 2012; roedd y diddordeb mewn dawnsio wedi dod i’r amlwg rai blynyddoedd yn gynharach wrth iddi dreulio cyfnod ar daith adloniant Viva La Diva ledled Prydain gyda’r ddawnswraig Darcey Bussell yn 2008.

I rai beirniaid, cyfrifir poblogrwydd Jenkins fel arwydd pellach o’r awydd i apelio at y ‘cyfenwadur lleiaf’ o fewn y byd cerddoriaeth glasurol cyfoes. Er enghraifft, dywedodd Jeremy Nicholas mai hi a cherddorion tebyg (megis Russell Watson) oedd y peth agosaf i gantorion opera ym marn y ‘person ar y stryd’, lle ystyrir y gallu i chwarae darn clasurol syml fel Für Elise yn arwydd o ddawn anghyffredin (Nicholas 2015, 97). Fodd bynnag, yn nhermau gwerthiant recordiau bu Jenkins yn un o’r cantorion mwyaf llwyddiannus i ddod o Gymru yn ystod degawd cyntaf yr 21g. gan gipio’r wobr am y record hir orau yn y Classic Brit Awards ddwywaith yn olynol yn 2005 a 2006 - y person cyntaf erioed i wneud hynny.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Premiere (UCJ 986 606-4, 2004)
  • Second Nature (Universal 9869033, 2004)
  • Living a Dream (Universal 476 306-3, 2005)
  • Serenade (Universal 476 571-8, 2006)
  • Rejoice (Universal 476 620-0, 2007)
  • Sacred Arias (Universal 476 697-1, 2008)
  • Believe (Warner Music 825646828555, 2009)
  • Daydream (Warner Music 5249880582, 2011)
  • This is Christmas (Warner Music 5053105509225, 2012)
  • My Christmas (Decca 4765152, 2012)
  • Home Sweet Home (Decca 3773443, 2014)

Llyfryddiaeth

  • Alun Guy, Cantorion o Fri: Ar Lwyfan y Byd (Llandysul, 2005)
  • Katherine Jenkins, Time to Say Hello (Llundain, 2009)
  • Jeremy Nicholas, ‘Adolygiad o Sleeping in Temples gan Susan Tomes’, Gramophone (Mawrth 2015), 96–7



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.