Jones, Caryl Parry (g.1958)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores, cyfansoddwraig, actores a bardd a fu’n ffigwr amlwg iawn ym myd adloniant Cymru ers yr 1970au. Ganed Caryl Parry Jones ym Mhrestatyn. Roedd ei thad, Rhys Jones (1927-2015), yn gerddor, arweinydd corawl a chyfansoddwr adnabyddus a fu’n gynhyrchiol ym maes y sioe gerdd (er enghraifft Ffantasmagoria yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1977). Pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, ffurfiodd Caryl Parry Jones y grŵp pop ysgafn, Sidan, gyda’r gantores a’r actores Sioned Mair (yr aelodau eraill oedd Meinir Evans, Gwenan Evans a Gaenor Roberts). Enillodd Sidan gystadleuaeth y grŵp pop yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn y Bala yn 1972. Aethant ati wedyn i recordio dwy EP ar label Sain, sef Lliwiau (1972) ac Ai Cymro Wyt Ti? (1973).

Nodweddion amlycaf Sidan ar y recordiau hyn oedd eu gallu cerddorol a’u trefniannau lleisiol cywrain - nodweddion a’u gosodai ar wahân i nifer o grwpiau eraill o’r cyfnod. Canodd y grŵp yng nghyngerdd Tafodau Tân yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1973 - ceir eu cyfraniad ar y record Tafodau Tân (Sain, 1973) - ac ym mherfformiad yr opera roc, Nia Ben Aur, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974 (rhyddhawyd y record Nia Ben Aur gan Sain yn 1975). Rhyddhaodd y grŵp eu hunig record hir yn 1975, eto ar label Sain, sef Teulu Yncl Sam, ac er mai arddull ysgafn, ganol-y-ffordd sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o’r caneuon, ceir arwydd ym mherfformiad trydanol Caryl Parry Jones o gân Hefin Elis ‘Dwi Ddim Isho’ o’r llwybr y byddai’r gantores yn ei droedio wedi iddi ymuno â’r grŵp roc, Injaroc, yn 1976.

Cyfeirir yn aml at Injaroc fel supergroup cyntaf Cymru am ei fod yn cynnwys cyn-aelodau adnabyddus Edward H Dafis a Sidan. Ynghyd â Caryl Parry Jones a Sioned Mair, yr aelodau eraill oedd Charlie Britton, Hefin Elis, John Griffiths, Cleif Harpwood (Edward H Dafis), Endaf Emlyn a Geraint Griffiths. Er eu hymdrechion i ymestyn ffiniau canu pop Cymraeg trwy fabwysiadu arddulliau Eingl-Americanaidd megis ffync a disgo, byrhoedlog fu hanes Injaroc a chwalodd y band yn fuan ar ôl rhyddhau eu hunig record hir, Halen y Ddaear (Sain, 1976). Profodd un o ganeuon Caryl Parry Jones ar gyfer Injaroc adfywiad yn ystod yr 1990au pan recordiodd y grŵp Diffiniad fersiwn dawns o’r gân ‘Calon’ ar gyfer eu record hir, Dinky (Ankst, 1994).

Ar ôl cwblhau gradd mewn Cymraeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor, aeth Caryl Parry Jones i Gaerdydd lle bu’n cyflwyno rhaglenni teledu megis Bilidowcar a Sêr 2. Yn 1980, sefydlodd grŵp newydd o’r enw Bando gyda Rhys Ifans (gitâr fas), Gareth Thomas (drymiau) a Huw Owen (sacsoffon) – cyn-aelodau o Josgin, Hergest a Shwn – ynghyd â Martin Sage a Steve Sardar (gitarau). Derbyniodd eu sengl gyntaf, gyda’r caneuon disgo egnïol ‘Space Invaders’ ac ‘Wstibe’ (Sain, 1980), gryn sylw ar donfeddi Radio Cymru, ac yn fuan wedyn dychwelodd y grŵp i stiwdio Sain i recordio eu record hir gyntaf, Hwyl ar y Mastiau (1980), a gynhyrchwyd gan Simon Tassano a Myfyr Isaac. Roedd dylanwad Tassano ac Isaac i’w glywed hefyd ar ail record hir Bando, Shampŵ (Sain), a ryddhawyd yn 1982.

Erbyn hyn, roedd Isaac yn aelod o’r band ynghyd â bod yn gynhyrchydd. Heb os, llwyddodd Shampŵ i dorri tir newydd o ran safon y perfformio, crefft y caneuon a slicrwydd a sglein y cynhyrchiad, gyda chaneuon cofiadwy megis ‘Tybed Wyt Ti’n Rhy Hen?’, ‘Nos yng Nghaer Arianrhod’ a’r gân gospel- roc hynod boblogaidd, ‘Chwarae’n Troi’n Chwerw’ yn derbyn darllediadau cyson ar Radio Cymru. Yn ystod 1982 hefyd, Caryl Parry Jones oedd prif leisydd un o ganeuon gorau cystadleuaeth Cân i Gymru, sef ‘Nid Llwynog Oedd yr Haul’ gan Geraint Løvgreen a Myrddin ap Dafydd.

Darlledwyd rhaglen ddogfen yn seiliedig ar Shampŵ yn 1983, gydag Endaf Emlyn yn cynhyrchu. Rhwng 1983 ac 1987 cafodd Caryl Parry Jones ei chyfres deledu ei hun (Caryl), a oedd yn amlygu ei doniau helaeth fel cantores, actores a chyfansoddwraig. Rhyddhawyd nifer o ganeuon y gyfres gyntaf, megis ‘Saf ar dy Draed’ ac ‘Yr Ail Feiolin’, ar record hir Caryl a’r Band (Gwerin) yn 1983, gyda cherddorion megis Graham Land (drymiau), Graham Smart (allweddellau) a’r amryddawn Pino Palladino (bas) yn cyfrannu arni.

Gyda dyfodiad S4C a llwyddiant cyfresi Caryl, aeth gyrfa Caryl Parry Jones yn fwy i gyfeiriad actio yn ystod yr 1980au a’r 1990au, ond parhaodd i ganu a chyfansoddi, gan ryddhau dwy record hir unigol o’r enw Eiliad ac Adre ar label Sain yn 1996 a 2004, gyda’r naill yn amlygu dylanwad arddulliau roc a phop Americanaidd tra bod dylanwadau acwstig a gwerinol i’w clywed yn y llall. Parhaodd Caryl i berfformio yn ystod y cyfnod hwn gyda’i band y Millionaires, a daeth cydnabyddiaeth i’w chrefft eiriol hefyd yn 2007 pan benodwyd hi yn Fardd Plant Cymru.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

gyda Sidan:

  • ‘Lliwiau’ [EP] (Sain 27, 1972)
  • ‘Ai Cymro Wyt Ti?’ [EP] (Sain 40, 1973)
  • Teulu Yncl Sam (Sain S1017, 1975)

gyda Injaroc:

  • Halen y Ddaear (Sain C594, 1976)

gyda Bando:

  • ‘Space Invaders’/‘Wstibe’ [sengl] (Sain 74, 1980)
  • Hwyl ar y Mastiau (Sain 1198, 1980)
  • Shampŵ (Sain 1225, 1982)

gyda Caryl a’r Band:

  • Caryl a’r Band (Gwerin SYW 238, 1983)

fel artist unigol:

  • Eiliad (Sain SCD2144, 1996)
  • Adre (Sain SCD2462, 2004)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.