Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:23, 13 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd Edward Jones yn delynor, yn gyfansoddwr, yn hynafiaethydd ac yn gyhoeddwr. Fe’i ganed yn Henblas, Llandderfel, i deulu cefnog o ffermwyr. Roedd ei dad wedi’i ddysgu i ganu’r delyn deires ac aeth i Lundain i wasanaeth teulu pendefigaidd yr Herbertiaid, gan berfformio am y tro cyntaf yn Theatr y Brenin yn 1777. Ymwelodd â Pharis ac yno daeth yn gyfarwydd â’r delyn bedal. Wedi hynny, daeth llwyddiant i’w ran fel athro ac unawdydd yng ngherddorfa J. C. Bach-Karl Abel yng nghyngherddau Sgwâr Hanover. Bu’n llwyddiannus hefyd wrth gyfansoddi, trefnu a chyhoeddi caneuon, sonatas a dawnsfeydd ar gyfer y delyn a/neu’r allweddell.

Ar ymweliadau ag Eryri, aeth Jones ati i gasglu a chyhoeddi cerddoriaeth y werin bobl gan ddefnyddio llawysgrifau, llyfrau alawon cerddorion a thraddodiadau llafar. Roedd ganddo dri nod: gwrthsefyll dylanwad Anghydffurfiaeth a oedd (yn ei farn ef) yn andwyo egni cerddorol y genedl; diogelu cerddoriaeth y gorffennol er mwyn llunio dyfodol cerddorol Cymru; a hyrwyddo delwedd y Cymry fel pobl wâr a cherddorol. Awgrymodd hyd yn oed y gallai ‘cerddoriaeth genedlaethol’ sbarduno cyfnod newydd i gerddoriaeth Prydain gan mai dim ond ‘chwarae â’r glust’, meddai, yr oedd ‘cerddoriaeth a gâi ei mewnforio’ tra bod cerddoriaeth Cymru, yr Alban ac Iwerddon yn ‘cyffwrdd â’r galon’.

Cyhoeddodd ei ymdrechion yn Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (tair cyfrol 1784–1820) sydd yn cynnwys dyfyniadau o lenyddiaeth a hanes Cymru – llawer ohonynt wedi’u cyfleu yn ddwyieithog. Sicrhaodd y gyfrol gyntaf o’r Relicks (1784, ‘ehangwyd’ 1794) bron 300 o danysgrifwyr, gan gynnwys y Frenhines, Tywysog Cymru, pendefigion a chlerigwyr o’r naill ochr a’r llall i Glawdd Offa. Bu ymateb ar unwaith a pharhaodd yr effaith. Canmolwyd y Relicks yn The European Magazine (Mai, 1784) fel ‘cyfansoddiadau modern’ a hynny mewn adolygiad a oedd yn bathu’r term ‘cerddoriaeth genedlaethol’ am y tro cyntaf. Ymddangosodd yr ail gyfrol fel The Bardic Museum yn 1802, ac unwaith eto cafodd gefnogaeth tanysgrifwyr o fri; a chyhoeddwyd trydedd gyfrol, Hên Ganiadau Cymru, yn 1820.

Casglwyd 209 o alawon i gyd, llawer ohonynt gyda geiriau Cymraeg, 30 gydag amrywiadau a oedd (yn ei eiriau ef) yn cynnwys ‘harmoni nodweddiadol’ mewn ‘dull brodorol’; roedd 39 ohonynt wedi ymddangos yng nghasgliadau John Parry (Parry Ddall) o Riwabon. Cyhoeddwyd y cyfrolau mewn argraffiadau ffolio hardd a’u cyflwyno i Dywysog Cymru, a ddaeth yn ddiweddarach yn George IV. Yn sgil agosrwydd Edward Jones at y teulu brenhinol, fe’i penodwyd yn ‘Delynor Tywysog Cymru’ (c. 1791) ac yn ‘Fardd y Brenin’ (1820).

Casglodd a chyhoeddodd alawon cenedlaethol gwledydd eraill o ffynonellau eilaidd fel, er enghraifft, yn Popular Cheshire Melodies (1798), Lyric Airs (1804) a Musical Curiosities (1811). Cefnogai’r eisteddfod, a beirniadodd gystadleuaeth y delyn (yn 1819 ac 1820) gan gyfrannu’r gwobrau o’i boced ei hun. Yn ddiweddarach yn ei oes, edwinodd ei yrfa wrth i’r delyn fynd yn llai poblogaidd; fe’i llethwyd gan afiechyd ac anawsterau ariannol a bu farw ar ei ben ei hun yn Llundain, a Chymdeithas Frenhinol y Cerddorion ddyddiau’n unig ynghynt wedi dyfarnu iddo flwydd-dal o £50.

Câi Edward Jones ei gydnabod yn un o brif delynorion ei gyfnod ac yn ffigwr pwysig ym maes cyhoeddi cerddoriaeth. Sefydlodd ganon o gerddoriaeth genedlaethol Cymru y bu casglwyr a chyhoeddwyr diweddarach yn cloddio ynddo: roedd yn rhagflaenydd dylanwadol i ‘gyfansoddwyr cenedlaethol’ y dyfodol, a threiddiodd ei ddylanwad ymhell y tu hwnt i Gymru.

Meirion Hughes



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.