Jones, Edward Morus (g.1944)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Er mai drwy recordiau cynnar y canwr gwerin Dafydd Iwan y cysylltir llais a gitâr Edward Morus Jones yn bennaf, bu’n llwyddiannus hefyd fel artist unigol yn ystod cyfnod diwedd yr 1960au a dechrau’r 1970au. Clywir llais tenor swynol Edward yn canu mewn harmoni clos ar bedair EP gan Dafydd Iwan a ryddhawyd ar label Teldisc rhwng 1966 ac 1968, ynghyd â’r gitâr chwech a deuddeg tant. Bu’n cyfrannu ambell gân hefyd, ynghyd â chynorthwyo gyda’r gwaith o lunio cyfieithiadau Cymraeg i eiriau Saesneg. Clywir ffrwyth cydweithio’r ddau ar y casgliad Carlo a Chaneuon Eraill (Sain, 1977).

Cyn hyn bu’n cyfieithu geiriau caneuon poblogaidd Eingl-Americanaidd i’r Gymraeg, gan gynnwys ‘’Rhen Shep’, a ddaeth yn ffefryn gan ddilynwyr y canwr Trebor Edwards. Fel artist unigol, rhyddhaodd sawl record rhwng 1968 ac 1975, gan gynnwys un gyda’r gantores boblogaidd Mary Hopkin. Yn ystod yr 1970au bu’n rhyddhau recordiau addysgol yn bennaf tra’n parhau i gydweithio gyda Dafydd Iwan ar hwiangerddi a chaneuon plant, megis cyfres Cwm- Rhyd-y-Rhosyn, oedd yn cynnwys y gân boblogaidd ‘Mam Wnaeth Got i Mi’.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

fel artist unigol:

  • Ymlaen yr Awn [EP] (Cambrian CEP 410, 1968)
  • Yr Arwerthwr [EP] (Sain 5, 1970)
  • Steddfod y Jiwbili [sengl] (Sain 24, 1972)
  • Aros, Edrych, Gwrando! [EP] (Tryfan TRF103E, 1975)

gyda Dafydd Iwan:

  • Wrth Feddwl am Fy Nghymru [EP] (Teldisc TEP861, 1966)
  • Mae’n Wlad i Mi [EP] (Teldisc TEP864, 1966)
  • Clyw Fy Nghri! [EP] (Teldisc TEP866, 1967)
  • A Chofiwn Ei Eni Ef [EP] (Teldisc TEP875, 1968)
  • Fuoch Chi Rioed yn Morio (Sain 1005D, 1973)
  • Carlo a Chaneuon Eraill (Sain 1108H, 1977)
  • Yn ôl i Gwm-Rhyd-Y-Rhosyn (Sain 1110D, 1977)
  • Gwyliau yng Nghwm-Rhyd-Y-Rhosyn (Sain 1208D, 1981)
  • Cwm-Rhyd-y-Rhosyn (Sain SCD2090, 1994)

gyda Mary Hopkin:

  • Mary ac Edward [EP] (Cambrian CEP 420, 1968)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.