Jones, Gwilym Gwalchmai (1921-70)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cymeriad agos at galon llawer o gantorion talentog yn y Gymru Gymraeg oedd Gwilym Gwalchmai, fel y câi ei adnabod. Er bod ganddo lais hyfryd a thechneg sicr ni wnaeth enw iddo’i hun ar y llwyfan; daeth yn enwog yn hytrach am ei effeithiolrwydd ym maes addysg fel athro llais dylanwadol.

Fe’i ganed yn Llanerfyl ac roedd yn frawd i’r darlledwr a’r ysgolhaig Gwyn Erfyl. Ar ôl ennill gwobrau mewn amryw o eisteddfodau dilynodd gwrs mewn cerddoriaeth yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion (1950–54), lle cipiodd rai o’r prif wobrau gan gynnwys bathodyn aur Curtis. Yn ddiweddarach enillodd wobr yr Imperial League of Opera. Gan iddo benderfynu mai ei swyddogaeth gerddorol oedd hyfforddi cantorion yn hytrach na chanu, agorodd stiwdios canu yn y Rhyl, Wrecsam a Chaernarfon. Yn 1957 symudodd i Fanceinion pan benodwyd ef yn Athro llais yn ei hen goleg. Daeth amryw o’i ddisgyblion yn ffigyrau amlwg ym myd yr eisteddfod a’r cyngerdd a daeth rhai ohonynt yn enwog yn rhyngwladol. Mawr oedd eu gwerthfawrogiad ohono am ei ofal a’i hynawsedd fel athro.

Yn 1959 cychwynnodd gôr, Cantorion Gwalia, a oedd yn arbrawf gan fod pob aelod yn unawdydd profiadol. Bu hefyd yn weithgar fel arweinydd cymanfaoedd canu a beirniad eisteddfodol. Ychydig cyn ei farwolaeth annisgwyl cyflwynwyd iddo Gymrodoriaeth Er Anrhydedd gan ei goleg ym Manceinion.

Richard Elfyn Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.