Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, John Owen (Owen Bryngwyn) (1884-1972)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 4: Llinell 4:
 
Ganed John Owen Jones (Owen Bryngwyn) yn Llangwm, Sir Ddinbych, yn un o bump o blant. Saer ac adeiladydd oedd ei dad, Owen Jones. Roedd ei fam, Esther (Essie) Roberts, yn unig ferch y Parchedig Ellis Roberts, rheithor Llangwm, a llenor, bardd a beirniad a oedd yn fwy adnabyddus wrth ei [[enw barddol]], Elis Wyn o Wyrfai.
 
Cartref llawn cerdd a chân oedd cartref y teulu ym Mryngwyn, Llanegryn, a bu hyn o gryn arwyddocâd yn hanes a datblygiad Owen a’i frawd, William Ellis Jones (1883-1971). Wedi cyfnod yn Ysgol Ramadeg Tywyn, enillodd Owen ysgoloriaeth i fynd i Goleg [[Prifysgol]] Gogledd Cymru Bangor, lle canolbwyntiodd ar y gwyddorau a chemeg yn arbennig, gan raddio’n BSc yn 1907. Tra oeddynt yn fyfyrwyr ym Mangor daeth y ddau frawd yn aelodau o’r Canorion, cymdeithas o fyfyrwyr a sefydlwyd gan [[J. Lloyd Williams]] (1854-1945) i gasglu a chanu caneuon gwerin Cymru. Buont yn flaenllaw hefyd yng ngweithgareddau [[corawl]] y coleg, gydag Owen yn neilltuol o amlwg fel unawdydd yn rhai o’r cyngherddau.
+
Cartref llawn cerdd a chân oedd cartref y teulu ym Mryngwyn, Llanegryn, a bu hyn o gryn arwyddocâd yn hanes a datblygiad Owen a’i frawd, William Ellis Jones (1883-1971). Wedi cyfnod yn Ysgol Ramadeg Tywyn, enillodd Owen ysgoloriaeth i fynd i Goleg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Gogledd Cymru Bangor, lle canolbwyntiodd ar y gwyddorau a chemeg yn arbennig, gan raddio’n BSc yn 1907. Tra oeddynt yn fyfyrwyr ym Mangor daeth y ddau frawd yn aelodau o’r Canorion, cymdeithas o fyfyrwyr a sefydlwyd gan [[Williams, J. Lloyd (1854-1945) | J. Lloyd Williams]] (1854-1945) i gasglu a chanu caneuon gwerin Cymru. Buont yn flaenllaw hefyd yng ngweithgareddau [[Corau Cymysg | corawl]] y coleg, gydag Owen yn neilltuol o amlwg fel unawdydd yn rhai o’r cyngherddau.
  
Wedi iddo adael Bangor, a thra oedd yn dysgu
+
Wedi iddo adael Bangor, a thra oedd yn dysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion yn Lloegr, bu Owen yn canu am flynyddoedd lawer mewn cyngherddau a [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] cerddorol. Yn 1910 ymgeisiodd am swydd fel bariton ac athro cerdd yn Ysgol Gorawl Eglwys Gadeiriol Manceinion a honnodd y Prifathro Harry Reichel o Fangor - mewn tystlythyr - mai ef oedd y bariton amatur gorau a glywsai erioed, gan ychwanegu ei fod wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd cerddorol y Coleg yn ystod ei gyfnod yno.
gwyddoniaeth mewn ysgolion yn Lloegr, bu Owen yn canu am flynyddoedd lawer mewn cyngherddau a [[gwyliau]] cerddorol. Yn 1910 ymgeisiodd am swydd fel bariton ac athro cerdd yn Ysgol Gorawl Eglwys Gadeiriol Manceinion a honnodd y Prifathro Harry Reichel o Fangor - mewn tystlythyr - mai ef oedd y bariton amatur gorau a glywsai erioed, gan ychwanegu ei fod wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd cerddorol y Coleg yn ystod ei gyfnod yno.
 
Er na chafodd y swydd, mae’n amlwg fod y llwyfan yn galw arno’n ddi-baid a chymerodd gam i gyfeiriad y byd proffesiynol wrth symud i Lundain yn 1919. Penderfynodd astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Walter Ford. Rhwng 1920 ac 1922 ymddengys iddo fod yn athro yn Ysgol Emmanuel, Wandsworth. Ond yn 1922, wedi marwolaeth ei dad a chwalu’r cartref yn Llanegryn, trodd ei gefn ar fyd addysg a chychwynnodd ar yrfa fel canwr proffesiynol dan yr enw Owen Bryngwyn.
 
Llinell 13: Llinell 12:
 
Parhaodd i wneud bywoliaeth o ganu hyd ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Yn 1939, ac yntau’n 55 mlwydd oed, dychwelodd at ddysgu gwyddoniaeth, a hynny yn Epsom College, Surrey. Barnodd mai hon oedd y ffordd orau y gallai wasanaethu ei gymdeithas mewn cyfnod o argyfwng. Er mai dros gyfnod y rhyfel yn unig y bwriadai aros yn y swydd, bu ynddi hyd 1954. Parhâi i ganu ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau, a chyfrannodd yn fawr ar yr un pryd at fywyd cerddorol yr ysgol.
 
Ymhlith ei bapurau yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] ceir llu o erthyglau ac adolygiadau sy’n tystio i’w ddawn fel canwr, yn eu plith nodiadau gwerthfawrogol gan R. Vaughan Williams, Dame Nellie Melba, [[Walford Davies]], Sam Langford, Herbert Howells, Arthur Somervell a Keith Falkner (cyn-brifathro’r Coleg Cerdd Brenhinol). Ynddynt cyfeirir at ansawdd cyfoethog ei lais ac at ei ddehongli a’i gyflwyno deallus, disgybledig. Y cyngherddau a’r [[gwyliau cerddorol]] (crefyddol a seciwlar) oedd prif feysydd ei berfformio a threuliodd flynyddoedd lawer o’i oes yn crwydro Ynysoedd Prydain. Bu’n canu yn Llydaw hefyd ac ymddangosodd ar lwyfan gyda phrif gantorion ei gyfnod. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol tua’r un adeg ag y sefydlwyd radio fel cyfrwng a chyn diwedd yr 1920au clywid ei lais yn bur aml ar y cyfrwng hwnnw wrth iddo ddarlledu ar nifer o’r rhwydweithiau rhanbarthol yn ogystal ag ar y rhwydwaith Prydeinig.
+
Ymhlith ei bapurau yn [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] ceir llu o erthyglau ac adolygiadau sy’n tystio i’w ddawn fel canwr, yn eu plith nodiadau gwerthfawrogol gan R. Vaughan Williams, Dame Nellie Melba, [[Davies, Henry Walford (1869-1941) | Walford Davies]], Sam Langford, Herbert Howells, Arthur Somervell a Keith Falkner (cyn-brifathro’r Coleg Cerdd Brenhinol). Ynddynt cyfeirir at ansawdd cyfoethog ei lais ac at ei ddehongli a’i gyflwyno deallus, disgybledig. Y cyngherddau a’r [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau cerddorol]] (crefyddol a seciwlar) oedd prif feysydd ei berfformio a threuliodd flynyddoedd lawer o’i oes yn crwydro Ynysoedd Prydain. Bu’n canu yn Llydaw hefyd ac ymddangosodd ar lwyfan gyda phrif gantorion ei gyfnod. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol tua’r un adeg ag y sefydlwyd radio fel cyfrwng a chyn diwedd yr 1920au clywid ei lais yn bur aml ar y cyfrwng hwnnw wrth iddo ddarlledu ar nifer o’r rhwydweithiau rhanbarthol yn ogystal ag ar y rhwydwaith Prydeinig.
  
Bu’n recordio i Gwmni Recordio Decca a rhyddhaodd gyfanswm o wyth record, a chaneuon y Cymry a geir arnynt yn ddieithriad. Er ei fod yn artist prysur a thra derbyniol, mynnai’r athro ynddo frigo i’r wyneb yn aml a bu’n darlithio llawer i gymdeithasau amrywiol ac yn arbennig i ddisgyblion ysgol. Ymhlith ei bapurau ceir pedair darlith boblogaidd o’i eiddo: ‘The joy and fun of singing’, ‘Aspects of the singer’s art’, ‘Welsh characters and way of life depicted in song’ a ‘Diwylliannol werth alawon ein gwlad’.
 
Y diwygiad cyfredol, am 20:46, 13 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed John Owen Jones (Owen Bryngwyn) yn Llangwm, Sir Ddinbych, yn un o bump o blant. Saer ac adeiladydd oedd ei dad, Owen Jones. Roedd ei fam, Esther (Essie) Roberts, yn unig ferch y Parchedig Ellis Roberts, rheithor Llangwm, a llenor, bardd a beirniad a oedd yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Elis Wyn o Wyrfai.

Cartref llawn cerdd a chân oedd cartref y teulu ym Mryngwyn, Llanegryn, a bu hyn o gryn arwyddocâd yn hanes a datblygiad Owen a’i frawd, William Ellis Jones (1883-1971). Wedi cyfnod yn Ysgol Ramadeg Tywyn, enillodd Owen ysgoloriaeth i fynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, lle canolbwyntiodd ar y gwyddorau a chemeg yn arbennig, gan raddio’n BSc yn 1907. Tra oeddynt yn fyfyrwyr ym Mangor daeth y ddau frawd yn aelodau o’r Canorion, cymdeithas o fyfyrwyr a sefydlwyd gan J. Lloyd Williams (1854-1945) i gasglu a chanu caneuon gwerin Cymru. Buont yn flaenllaw hefyd yng ngweithgareddau corawl y coleg, gydag Owen yn neilltuol o amlwg fel unawdydd yn rhai o’r cyngherddau.

Wedi iddo adael Bangor, a thra oedd yn dysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion yn Lloegr, bu Owen yn canu am flynyddoedd lawer mewn cyngherddau a gwyliau cerddorol. Yn 1910 ymgeisiodd am swydd fel bariton ac athro cerdd yn Ysgol Gorawl Eglwys Gadeiriol Manceinion a honnodd y Prifathro Harry Reichel o Fangor - mewn tystlythyr - mai ef oedd y bariton amatur gorau a glywsai erioed, gan ychwanegu ei fod wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd cerddorol y Coleg yn ystod ei gyfnod yno.

Er na chafodd y swydd, mae’n amlwg fod y llwyfan yn galw arno’n ddi-baid a chymerodd gam i gyfeiriad y byd proffesiynol wrth symud i Lundain yn 1919. Penderfynodd astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Walter Ford. Rhwng 1920 ac 1922 ymddengys iddo fod yn athro yn Ysgol Emmanuel, Wandsworth. Ond yn 1922, wedi marwolaeth ei dad a chwalu’r cartref yn Llanegryn, trodd ei gefn ar fyd addysg a chychwynnodd ar yrfa fel canwr proffesiynol dan yr enw Owen Bryngwyn.

Parhaodd i wneud bywoliaeth o ganu hyd ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Yn 1939, ac yntau’n 55 mlwydd oed, dychwelodd at ddysgu gwyddoniaeth, a hynny yn Epsom College, Surrey. Barnodd mai hon oedd y ffordd orau y gallai wasanaethu ei gymdeithas mewn cyfnod o argyfwng. Er mai dros gyfnod y rhyfel yn unig y bwriadai aros yn y swydd, bu ynddi hyd 1954. Parhâi i ganu ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau, a chyfrannodd yn fawr ar yr un pryd at fywyd cerddorol yr ysgol.

Ymhlith ei bapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir llu o erthyglau ac adolygiadau sy’n tystio i’w ddawn fel canwr, yn eu plith nodiadau gwerthfawrogol gan R. Vaughan Williams, Dame Nellie Melba, Walford Davies, Sam Langford, Herbert Howells, Arthur Somervell a Keith Falkner (cyn-brifathro’r Coleg Cerdd Brenhinol). Ynddynt cyfeirir at ansawdd cyfoethog ei lais ac at ei ddehongli a’i gyflwyno deallus, disgybledig. Y cyngherddau a’r gwyliau cerddorol (crefyddol a seciwlar) oedd prif feysydd ei berfformio a threuliodd flynyddoedd lawer o’i oes yn crwydro Ynysoedd Prydain. Bu’n canu yn Llydaw hefyd ac ymddangosodd ar lwyfan gyda phrif gantorion ei gyfnod. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol tua’r un adeg ag y sefydlwyd radio fel cyfrwng a chyn diwedd yr 1920au clywid ei lais yn bur aml ar y cyfrwng hwnnw wrth iddo ddarlledu ar nifer o’r rhwydweithiau rhanbarthol yn ogystal ag ar y rhwydwaith Prydeinig.

Bu’n recordio i Gwmni Recordio Decca a rhyddhaodd gyfanswm o wyth record, a chaneuon y Cymry a geir arnynt yn ddieithriad. Er ei fod yn artist prysur a thra derbyniol, mynnai’r athro ynddo frigo i’r wyneb yn aml a bu’n darlithio llawer i gymdeithasau amrywiol ac yn arbennig i ddisgyblion ysgol. Ymhlith ei bapurau ceir pedair darlith boblogaidd o’i eiddo: ‘The joy and fun of singing’, ‘Aspects of the singer’s art’, ‘Welsh characters and way of life depicted in song’ a ‘Diwylliannol werth alawon ein gwlad’.

Yn 1958, pan oedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn dathlu ei hanner canmlwyddiant yn Llangollen, daeth y ddau frawd a thua chwech o aelodau gwreiddiol Y Canorion ynghyd i gyd-ganu’r hen ganeuon a gasglwyd ganddynt ac i ail-fyw peth o hwyl a helynt y dyddiau gynt. Canodd Owen Bryngwyn yn y cyngerdd dathlu ac yntau erbyn hynny’n 74 mlwydd oed. Tystiai’r rhai a oedd yn bresennol fod ei ysbryd mor fywiog ag erioed a’i ganu yn parhau’n felys a chrefftus. Bu farw ar 24 Mawrth 1972 ac fe’i claddwyd ym medd y teulu yn Llanegryn.

Meredydd Evans a Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • ‘Owen Bryngwyn’, Y Bangoriad (Cylchgrawn Cymdeithas cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor) (Mawrth, 1973)
  • Buddug Lloyd Roberts, ‘John Morris - Casglwr Alawon Gwerin’, Y Faner, 30 (Rhagfyr, 1977), 21
  • Meredydd Evans, ‘Owen Bryngwyn’, Cerddoriaeth Cymru/ Welsh Music, 6/6 (Gaeaf, 1980–81), 54–60

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.