Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, Leah-Marian (g.1964)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
Llinell 12: Llinell 12:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
*Carys Davies, ''‘Pelleas et Mélisande,'' [[[cyfweliad]] gyda] Leah-Marian Jones’, ''Art Scene in Wales,'' 28 Mai 2015
+
*Carys Davies, ''‘Pelleas et Mélisande,'' [cyfweliad gyda] Leah-Marian Jones’, ''Art Scene in Wales,'' 28 Mai 2015
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 19:46, 13 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Leah-Marian Jones yng Nghilgerran ac mae’n esiampl dda o sut y gall profiadau eisteddfodol cynnar arwain yn naturiol at yrfa lwyddiannus ym myd opera. Astudiodd yng ngholeg cerdd y Royal Northern ym Manceinion ac yn y National Opera Studio, Llundain. Bu’n brif unawdydd yn y Cwmni Opera Brenhinol yn Covent Garden am wyth mlynedd ac ers hynny cafodd gytundebau gyda bron pob un o’r cwmnïau opera Prydeinig. Dramor, fe’i clywyd mewn canolfannau pwysig yn Ffrainc (y Châtelet ym Mharis, Angers Nantes Opéra ac Opéra de Rennes), a bu’n canu mewn sawl canolfan yn yr Unol Daleithiau, yn eu plith Berkeley a’r Met, Efrog Newydd.

Er ei bod yn brysur y tu allan i Gymru ac wedi cyd-berfformio gyda rhai o fawrion enwocaf y byd canu (gan gynnwys Luciano Pavarotti a Placido Domingo), mae’n cadw ei chysylltiadau Cymreig a chyda’r Gymru Gymraeg. Cafwyd perfformiad trawiadol ganddi yn Pelléas et Mélisande Debussy i Opera Cenedlaethol Cymru, lle cymerodd ran Geneviève (gw. Davies 2015). Cofir hefyd am ei chyfres deledu ar S4C ar droad y ganrif pan ddangosodd ei hamlochredd cerddorol.

Ffaith hynod am Leah-Marian Jones yw ei bod, ar waethaf ei phrydferthwch, wedi cael ei chastio’n aml fel gwrach mewn rhai operâu, er enghraifft fel Jezibaba yn Rusalka (Dvořák) lle clywyd ochr dywyll i’w chrefft theatrig, a’r wrach yn Hänsel und Gretel (Humperdinck) mewn perfformiad a ganmolwyd yn fawr. Yn y rhannau hyn fe’i gwelwyd yn difyrru cynulleidfaoedd trwy actio’n smala yn ogystal â’u swyno gyda chanu cyfoethog a thelynegol.

Richard Elfyn Jones

Llyfryddiaeth

  • Carys Davies, ‘Pelleas et Mélisande, [cyfweliad gyda] Leah-Marian Jones’, Art Scene in Wales, 28 Mai 2015



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.