Jones, Matthew (g.1974)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:37, 13 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Feiolydd, feiolinydd a chyfansoddwr a aned yn Abertawe. Er iddo raddio’n ddisglair mewn mathemateg o Brifysgol Warwig rhoddodd ei fryd ar yrfa gerddorol ac erbyn hyn fe’i hedmygir yn rhyngwladol fel feiolydd o’r radd flaenaf. Disgrifiodd y cylchgrawn The Strad ef fel ‘a worthy successor to Lionel Tertis’. Mae ei gywreinrwydd technegol a rhyddid telynegol ei fynegiant wedi plesio adolygwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Mae’n feiolydd yn y Bridge Duo (gyda’i wraig, y pianydd Annabel Thwaite), Triawd Debussy ac Ensemble MidtVest. Teithia’r byd, ac mae’n comisiynu gweithiau newydd ac yn tynnu sylw at ddarnau a esgeuluswyd. Fel unawdydd mae’n perfformio’n gyson gyda’r prif gerddorfeydd ac ymhlith ei berfformiadau consierto y mae gweithiau gan Berlioz, Vaughan Williams a Walton.

Recordiodd ddeg cryno-ddisg, gan gynnwys gweithiau gan Debussy, Ravel, Vaughan Williams, Prokofiev, Frank Bridge, Arthur Bliss, Rebecca Clarke, York Bowen, William Mathias ac eraill. Gwerthfawrogir ei gyfraniad i addysg gerddorol ac mae’n Athro feiola yng Ngholeg y Drindod, Llundain, ac yn Athro feiolin, feiola a cherddoriaeth siambr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Fel cyfansoddwr mae Matthew Jones yn canolbwyntio ar drefniadau o weithiau ar gyfer y feiola ond mae hefyd wedi cyfansoddi pedwarawd llinynnol a sioe gerdd, Slingshot!, a berfformiwyd gan Music Theatre Warwick yn 1999. Mae agwedd holistaidd Matthew Jones mewn perthynas â pherfformio wedi dod ag ef i amlygrwydd ymhlith ei gyd-gerddorion ac eraill, gan ei fod yn cynnig cyngor a hyfforddiant yn nhechneg Alexander a Yoga Kundalini.

Richard Elfyn Jones

Llyfryddiaeth ddethol



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.