Jones, William Emrys (Emrys Jones, Llangwm) (1920-2009)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:36, 11 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Datgeinydd cerdd dant a chanu gwerin, a chynheilydd y traddodiadau hynny; cymwynaswr diwylliant gwerin, bro a chenedl. Fe’i ganed ac fe’i magwyd yn fferm Pen-y-bont, Cwm Eithin, Llangwm, a bu’n byw yno ar hyd ei oes; fel un a fu’n rhan annatod o fywyd y pentref hwnnw, fel ‘Emrys Jones, Llangwm’ y câi ei adnabod.

Yn fab i Dafydd a Kate Ellen, ysgogwyd ei gariad at lenyddiaeth a hanes gan ei fam, a bu hynny’n rhan annatod o’i osodiadau cerdd dant. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen. Enillodd ei wobr genedlaethol gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Corwen yn 1929 ac yntau’n wyth oed. Aeth rhagddo i ennill llu o wobrau eraill lleol a chenedlaethol wrth gystadlu ar y gân werin a’r unawd cerdd dant, gan ennill hefyd ar y ddeuawd gyda’i gyfaill John Owen, Hafod y Gân. Pinacl y cystadlu oedd ennill ar gystadleuaeth y gân werin agored yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1985 ac yntau’n 65 oed.

Yn 1947, fe briododd Anwen Jones o’r Gargoed, Glanrafon, ger Corwen. Ffermio, eisteddfota a’r capel oedd eu bywyd a derbyniodd y ddau Fedal Gee am ffyddlondeb i’r Ysgol Sul yn 2002. Bu’n ysgrifennydd Eisteddfod Llangwm am dros hanner can mlynedd ac yn un o sylfaenwyr Llên y Llannau, sef cynnyrch llenyddol eisteddfodau Llandderfel, Llanuwchllyn, Llanfachreth a Llangwm. Bu’n glerc y Cyngor Plwyf am hanner canrif, yn ddiacon yn ei gapel, Capel y Groes, ac yn arweinydd corau a hyfforddwr ieuenctid lleol ymysg llu o weithgareddau eraill. Yn 1948, sefydlodd barti cerdd dant Cwm Eithin a fu’n diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru, a bu’n aelod o Gôr Meibion Llangwm, a sefydlwyd gan ei dad, am dros drigain mlynedd.

Bu’n gyfrifol am ddatblygu ac ehangu’r eisteddfod yn Llangwm gan ymhyfrydu o weld sawl prifardd cenedlaethol yn ennill eu cadair gyntaf yno. Bu’n llywydd ac yn gadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru gan gydweithio’n agos â’i fab, Dewi Jones, a oedd yn drefnydd y Gymdeithas. Yn 2002, ef oedd Llywydd y Dydd yng Ngŵyl Cerdd Dant Dolgellau wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 60 oed, ac yntau wedi bod yn bresennol ym mhob un ŵyl ers y dechrau. Bu hefyd yn aelod selog o Orsedd y Beirdd, ac yn 1981 cyflwynwyd medal Syr T. H. Parry-Williams iddo am gyfraniad oes i’w fro ac i Gymru.

Ef oedd arweinydd y gân yn ei gapel a thystiai llawer i’w lais tenor dirodres eu cyfareddu sawl tro. Mae’r recordiad a wnaeth yn 2002 o ‘Nico Annwyl’ (i’r alaw werin ‘Llwyn Onn’) ac yntau’n 81 ar y pryd, yn enghraifft o’i lais arbennig, ei eirio clir a’i ddawn i ddatgan stori mewn dull naturiol ac ymddangosiadol ddiymdrech. Mae asbri ei ganu wedi ei gymharu ag arddull Bob Roberts, Tai’r Felin (1870-1951) o’i flaen. Yn 1997, cyhoeddwyd cyfrol bortread amdano o’r enw Teulu, Bro a Thelyn gan un arall o feibion yr ardal, Curadur Bywyd Gwerin Amgueddfa Werin Sain Ffagan ar y pryd, Robin Gwyndaf.

Sioned Webb

Disgyddiaeth

  • Emrys Jones, Nico Annwyl (Sain SCD2371, 2002)

Llyfryddiaeth

  • Robin Gwyndaf, Teulu, Bro a Thelyn - portread o ganwr gwerin a chynheilydd traddodiad: Emrys Jones, Llangwm (Aberystwyth, 1997)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.