Joshua, Rosemary (g.1964)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:50, 30 Ebrill 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Rosemary Joshua yn Nhrelái, Caerdydd, a manteisiodd ar ddarpariaeth addysg gerddorol gampus y brifddinas er mwyn ei rhoi ar lwybr diogel i ddod yn un o gantorion Handel mwyaf cymeradwy ei chenhedlaeth. Ar ôl gorffen ei hastudiaethau yn y Coleg Cerdd Brenhinol cychwynnodd ei gyrfa trwy ganu rhan Angelica yn opera Handel, Orlando, yn Aix-en-Provence ac ar unwaith daeth i sylw’r wasg gerddorol fel cantores eithriadol o addawol. Er bod sopranos gwych eraill yn adnabyddus am ganu rhan Romilda yn Serse (Handel), barn y beirniaid oedd bod perfformiadau Rosemary Joshua yn amlwg yn rhagori. Mewn adolygiad o recordiad y Cwmni Opera Cynnar (Early Opera Company) o Serse, dywed Richard Wigmore, ‘Joshua far eclipses her counterparts on … rival recordings, singing with sweet, sensuous tone and characterising deftly’ (Wigmore 2013, 93).

Nid mewn cerddoriaeth faróc yn unig y bu’n llwyddiannus, fodd bynnag. Canodd rannau fel Adèle yn Die Fledermaus Johann Strauss yn y Metropolitan, Efrog Newydd, y brif ran yn The Cunning Little Vixen (Janáček) yn La Scala a Zerlina yn Don Giovanni (Mozart) yn Covent Garden. Yn anffodus, bu prysurdeb Rosemary Joshua mewn gwledydd eraill yn rhwystr iddi gael ei chlywed rhyw lawer yma yng Nghymru (ysbeidiol iawn fu ei hymddangosiadau gydag Opera Cenedlaethol Cymru, er enghraifft).

Recordiodd lawer o gerddoriaeth o’r 18g. (ar gyfer Chandos a Harmonia Mundi yn bennaf) ac yn aml mae’n canu’r gweithiau mawr baróc yn y prif neuaddau cyngerdd. Yn 2014, oherwydd ei hamlygrwydd fel mentor effeithiol i gantorion ifanc, fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr artistig Academi Opera Genedlaethol yr Iseldiroedd (Dutch National Opera Academy), ond bu’n anodd iddi ddatblygu’r swyddogaeth bwysig hon oherwydd ei phrysurdeb rhyngwladol, ac ymddeolodd yn 2015.

Richard Elfyn Jones

Llyfryddiaeth

  • Richard Wigmore, ‘Serse’, Gramophone (Medi, 2013), 93–4



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.